Mae menyw a ddaeth yn adnabyddus fel “wyneb gogledd Cymru” ar ôl iddi ennill cystadleuaeth ganu bron i 70 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Gerddorol Genedlaethol Llangollen yn dal i ddychwelyd yno bob blwyddyn fel gwirfoddolwr. Pan oedd yn ei harddegau, teithiodd Myron Lloyd o’i chartref yn Sir Benfro i gystadlu yn y categori Unawd Cân Werin yn Eisteddfod 1956. Daeth yn fuddugol.
Oherwydd ei llwyddiant, tynnwyd llun o Myron – oedd â’r cyfenw Williams bryd hynny am ei bod yn ddibriod – gan nifer o ddynion camera wrth iddi ddathlu allan ar y cae. Yn ddiweddarach, pan oedd hi yn ôl yn ne Cymru, cafodd y ferch i ffermwr, sydd yn awr yn ei 80au, syndod o weld y llun hwnnw ohoni a dynnwyd ar y diwrnod yn dechrau ymddangos ar amrywiaeth o nwyddau gwerthu oedd yn hysbysebu Gogledd Cymru. Roedd hi’n gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol, yr het ddu a’r siôl, ac aeth y llun yn firol, neu mor agos ag y gellid i hynny yn yr 1950au.’’
Mae Myron, sy’n byw yn Rhuthun erbyn hyn, yn cofio: “Wedi i mi ennill y gystadleuaeth roedd gweiddi mawr ar y maes wrth i bobl geisio tynnu fy llun, ac roeddwn i’n hapus am hynny “Yna tua blwyddyn wedyn, dywedwyd wrthyf fod y llun ohonof, a rhai eraill tebyg a dynnwyd yn Llangollen, yn ymddangos mewn llyfrau gwybodaeth am ogledd Cymru a nwyddau marchnata eraill fel matiau i gwpannau, matiau i blatiau ac hyd yn oedd gwmpawdau ac amserwyr berwi wy wedi eu gosod ar ddarnau bach o bren.
“Roedd hi’n ymddangos bod pobl yn eu hoffi nhw a phrynodd mam ddau o bopeth, felly mae rhai o’r rhain yn dal i fod gen i flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd pawb yn arfer meddwl mod i wedi cael fy nhalu am ddefnyddio fy llun, ond chefais i erioed ddimau goch. Yn wir, dydw i ddim hyd yn gwybod beth oedd enw’r ffotograffwyr perthnasol.”
Aeth Myron yn ei blaen i briodi swyddog heddlu a threuliodd y cwpwl 53 o flynyddoedd hapus gyda’i gilydd cyn iddo farw wyth mlynedd yn ôl. Oherwydd ei swydd yntau, roedden nhw’n symud tŷ yn weddol reolaidd i dai plismon mewn amrywiol rannau o Gymru, a daethent i fyw yng Nghorwen ac yna Rhuthun yn nes ymlaen.
Yn yr 1970au, penderfynodd Myron y byddai’n hoffi cystadlu yn Llangollen eto ac, er bod ei chais llwyddiannus yn yr 1950au am ganu dwy gân werin draddodiadol Gymreig drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, y tro hwn dewisodd berfformio hen garol Gymraeg ac un arall dan y teitl ‘Cŵyn Mam yng Nghyfraith’ yn y categori Can Werin i Oedolion.
Cafodd yr un canlyniad ag a gafodd gwpwl o ddegawdau ynghynt – buddugoliaeth arall.
Erbyn yr 1990au, gyda’i diwrnodau cystadlu ar ben, dychwelodd Myron i Llangollen mewn rôl wahanol, fel aelod gwirfoddol o’r pwyllgor cyhoeddusrwydd, ac yna’n ddiweddarach y pwyllgor marchnata.
Ac mae hi’n dal i ddychwelyd bob blwyddyn i fod yn rhan o’r Tîm Croeso sy’n croesawu noddwyr i’r ŵyl yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Mae Myron yn dweud ei bod yn deall ac yn cytuno gyda’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r Eisteddfod i’w helpu i oroesi a ffynnu yn wyneb argyfwng ariannol yr haf diwethaf.
“Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth, mae’r newidiadau sy’n digwydd, yn cynnwys y cyngherddau sy’n cael eu cyhoeddi yn awr gyda chynifer o sêr, fel Tom Jones, Madness, The Manic Street Preachers ac eraill, yn angenrheidiol er mwyn helpu i wella’r sefyllfa ariannol,” meddai.
“Ond mae hefyd yn bwysig iawn cadw rhai o’r traddodiadau megis y cystadlaethau gwerin sydd yn rhan sylfaenol o hanfod Eisteddfod Llangollen.”
Dros y blynyddoedd mae Myron wedi gweld – ac yn aml wedi cyfarfod – rhai o’r enwau mawr sydd wedi bod ar frig y rhestr yn yr ŵyl, yn cynnwys yr eicon o Gymru Shirley Bassey, y soprano o Sbaen Montserrat Caballé a’r Red Army Choir.
Yn 2024 mae hi’n dweud ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Syr Tom Jones, ac efallai gwrdd ag o. Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn gwybod a fydd hynny’n bosibl ond rwy’n gobeithio’n fawr y bydd.”