Chwaraewr sacsoffon o fri yn dweud bod Llangollen yn creu sêr cerdd y dyfodol

Yn ôl Amy Dickson roedd perfformio mewn eisteddfodau yn ôl yn ei mamwlad Awstralia, ers pan oedd yn bump oed yn baratoad perffaith i’w gyrfa ddisglair fel un o brif chwaraewyr sacsoffon y byd.
Ac yn ôl Amy, sydd wedi cael ei henwebu am wobr Grammy ddwywaith, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gwneud yr un peth ar gyfer brif gerddorion y dyfodol.
Datgelwyd un o gyfrinachau ei llwyddiant gan y chwaraewr sacsoffon o fri, sydd wedi chwarae mewn cyngherddau nodedig ledled y byd ac sydd wedi rhyddhau rhes o gryno ddisgiau clasurol poblogaidd, pan gamodd i’r llwyfan fel Llywydd y Dydd yr Eisteddfod ddoe (dydd Iau).

Cafodd Amy ei geni yn Sydney, a dechreuodd gael gwersi cerdd yn bump oed gan berfformio ei concerto cyntaf 10 mlynedd yn ddiweddarach wrth chwarae Concerto Dubois.
Ers hynny mae hi wedi perfformio ar draws y byd, mewn lleoliadau mawreddog megis Neuadd Albert a Thŷ Opera Sydney, fel unawdydd gyda llawer o gerddorfeydd nodedig gan gynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni Sydney, Cerddorfa Symffoni Melbourne a Cherddorfa Siambr Fiena.
Yn 2005 a 2011 bu’n perfformio yng nghyfarfodydd Arweinwyr Llywodraethau Gwledydd y Gymanwlad yn Malta a Neuadd Gyngerdd Perth yn Awstralia.
Mae hi hefyd wedi chwarae yn Senedd yr Alban yng Nghaeredin, Palas St James yn Llundain ac ar gyfer cyn-Brif Weinidog Awstralia, John Howard, yn y Senedd-dy yn Canberra.
Mae Amy wedi cael ei henwebu ddwywaith ar gyfer gwobr Grammy, a hi oedd y sacsoffonydd cyntaf a’r person cyntaf o Awstralia i ennill Gwobr Artist Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Brits Clasurol MasterCard 2013.
Rhydddhawyd ei halbwm gyntaf, Smile, yn 2008 gan ennill canmoliaeth uchel ac enillodd ei thrydydd CD, Dusk & Dawn, Gwobr Artist Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Brits Clasurol MasterCard 2013 a chyrraedd rhif un yn siartiau clasurol y Deyrnas Unedig.
Mae Amy yn Llysgennad Sefydliad Cerddoriaeth Plant Awstralia, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Sefydliad y Tywysog ar gyfer Plant a’r Celfyddydau.
Ers cyrraedd y Deyrnas Unedig, lle mae hi bellach yn byw, mae Amy wedi arwain tipyn o adfywiad yn y sacsoffon clasurol diolch i’w hagwedd unigryw tuag at y genre a’i dull arbennig o chwarae’r offeryn.
Eleni, mae hi wedi bod yn teithio’n rhyngwladol gan ddod yn ôl adref i Lundain i wneud ymddangosiadau byr ar y teledu gan gynnwys perfformiadau ar BBC Breakfast a The One Show.
Wrth siarad o lwyfan yr Eisteddfod, dywedodd Amy ei bod yn “hynod falch” o gael ei dewis i fod yn Llywydd y Dydd.
Eglurodd: “Rwyf wedi clywed am Eisteddfod Llangollen ers blynyddoedd ac rwy’n falch iawn o gael dod yma o’r diwedd.
“Mi wnaeth fy mam drefnu gwersi cerddoriaeth i mi pan oeddwn yn ddwy oed gan ei bod yn meddwl fy mod ychydig bach yn drwsgl a lletchwith.
“Wedyn mi wnes i berfformio sawl gwaith yn yr eisteddfodau lleol oedd yn arfer cael eu cynnal yn y trefi o gwmpas ardal Sydney.
“Rwy’n cofio fy mherfformiad cyntaf yn bump oed. Mi wnaeth fy mam ffrog felfed goch gyda choler les gwyn yn arbennig i mi ei gwisgo ar y llwyfan.
“Roedd fy mherfformiadau yn yr eisteddfodau hynny yn baratoad perffaith ar gyfer fy ngyrfa broffesiynol.
“Un o’r pethau y gwnaeth y perfformiadau hynny ei ddysgu i mi oedd sut i fod yn gyfforddus ar y llwyfan. Ar ôl gorffen fy mherfformiadau fy hun roeddwn i’n arfer eistedd yng nghefn yr awditoriwm a gwylio’r plant hŷn ar y llwyfan ac yn meddwl tybed a fyddwn i’n gallu chwarae gystal â nhw rhyw ddydd.”
Ychwanegodd Amy: “Mae ysbryd cymunedol ynghlwm â digwyddiadau fel Eisteddfod Llangollen ac maent hefyd yn rhoi ymdeimlad cryf o bwrpas i chi fel cerddor, nid fel gyrfa yn unig, ond galwedigaeth hefyd.
“Rwy’n credu fy mod yn gwybod o oed cynnar bod gen i ddawn arbennig i chwarae cerddoriaeth ac rwyf wrth fy modd yn mynd ar y llwyfan gyda fy sacsoffon.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl eraill yn cael profi’r hyn rwyf i wedi’i brofi fel cerddor ac mae digwyddiadau fel Llangollen yn chwarae rhan enfawr wrth wneud hynny’n bosibl.”
Dywedodd is-gadeirydd yr Eisteddfod Rhys Davies, sydd hefyd yn chwarae’r sacsoffon: “Fel cyd-sacsoffonydd rwyf wrth fy modd bod Amy wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd a chyflwyno neges mor bositif am yr Eisteddfod.
“Mae’n arbennig o briodol gan mai enillydd cyntaf ein gwobr am y Cerddor Ifanc Gorau oedd y sacsoffonydd Gemma Blair, o Gilgwri.

Capsiwn: Amy Dickson gydag is-gadeirydd yr Eisteddfod Rhys Davies.