Eisteddfod Ryngwladol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu cyraeddiadau merched ledled y byd ar lwyfan rhyngwladol – yn llythrennol ac yn ffigurol.

Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn adnabyddus ledled y byd am hyrwyddo neges o undod a heddwch. Ar ben hynny, mae’n gefnogwr brwd o gyfartaledd a chydraddoldeb rhyw gyda hynny’n cael ei arddangos trwy gydol yr ŵyl wythnos o hyd ym mis Gorffennaf.

Dros y 70 mlynedd ddiwethaf, mae Eisteddfod Llangollen wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn ysbrydoli newid trwy rannu ei gweledigaeth o heddwch a chyfeillgarwch. Bu’n dyst i sawl carreg filltir sy’n nodi’r datblygiad ym maes cydraddoldeb rhyw a hawliau merched, gan gynnwys cymeradwyo’r Ddeddf Tâl Gyfartal a’r Orymdaith Rhyddid Merched gyntaf erioed.

Wrth drafod pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Merched mewn perthynas â’r ŵyl ryngwladol, dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, Vicky Yannoula: “Rydym yn hyrwyddwyr balch o gydraddoldeb ac yn falch o gefnogi unrhyw un sy’n cystadlu yn Eisteddfod Llangollen – be bynnag eu rhyw, crefydd, cefndir ethnig neu ddiwylliant.

“Bob blwyddyn, mae dros 4,000 o berfformwyr o bob cwr o’r byd – nifer yn ferched o ddiwylliannau sydd ddim hefo’r un lefel o gydraddoldeb a democratiaeth ag a geir yma yng ngwledydd Prydain – yn dod at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar hybu cyfartaledd ac ar uno pobl mewn awyrgylch braf sy’n ysbrydoli ac yn awdurdodi pob un o’n hymwelwyr.”

Gan gynrychioli gwerthoedd fel cyfeillgarwch, parch a harmoni, nid ffocws ar y llwyfan rhyngwladol yn unig sydd gan Eisteddfod Llangollen. Mae hefyd yn gweithio’n ddiwyd ar brosiectau allanol yn y gymuned leol gyda’r bwriad o rannu’r weledigaeth hon a chryfhau cymunedau rhanbarthol yn agos i adref – cymunedau sy’n aml yn iawn yn cael eu cynnal gan ferched.

Ychwanegodd Vicky: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ein hatgoffa bod angen parhau â’n hymdrechion unigol a chyfunol, wrth i bawb weithredu yn ysbryd parch dynol a harmoni.”

Vicky Yannoula yw Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a bydd yn perfformio yng nghyngerdd nos Fercher ‘Y Casgliad Clasurol’. I brynu tocynnau i’r cyngerdd, cliciwch yma