Llangollen i fod yn rhan o ‘NHS Singalong Live’

Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ymuno a chôr a staff o’r gwasanaeth iechyd, ynghyd a sêr cerddorol ledled Prydain i gyd-ganu mewn digwyddiad byw i ddathlu 70 mlynedd o’r GIG.

Mewn rhaglen newydd unigryw ar sianel ITV ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf, bydd y dorf yn Llangollen, côr y GIG a’r enwogion yn uno i geisio torri’r record am y sesiwn cyd-ganu byw mwyaf erioed i gael ei ddarlledu. Bydd y digwyddiad yn ddiweddglo i gyngerdd y Casgliad Cerddorol.

Mewn partneriaeth â Pharc Pendine, mae’r Eisteddfod yn falch o fedru cynnig tocynnau am ddim i’r cyngerdd nos hwn mewn cydnabyddiaeth o holl waith caled staff y gwasanaeth iechyd. Gellir gwneud cais am docyn trwy gofrestru eich manylion ar ein tudalen Eventbrite, yma. Croeso i unrhyw un fynnu tocyn!

Bydd y Casgliad Cerddorol yn arddangos dau o’n hoff offerynnau – y piano a’r llais – yn eu llawn ogoniant. Ar y noson, bydd rownd derfynol cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn cael ei chynnal, bydd Vicky Yannoula a Peter Jablonski yn creu tân gwyllt ar y piano a bydd côr o Wrecsam, Sirenian Singers, yn rhoi perfformiad pwerus.

Yna, disgwylir i’r pafiliwn ffrwydro gyda synau cân y Beatles ‘With a Little Help from my Friends’ ar gyfer y diweddglo, o dan arweinyddiaeth Colleen Nolan a’i ffrindiau. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu yn fyw ar ITV ac yn ymuno â safleoedd eraill ar draws Prydain lle bydd mwy o gyd-ganu yn digwydd, gan gynnwys Stiwdio Abbey Road yn Llundain.

Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad cyffrous i ymwelwyr Eisteddfod Llangollen, fe fydd sengl yn cael ei chyhoeddi ar ddydd Gwener 6ed Gorffennaf, gyda phob elw yn mynd i gefnogi’r gwasanaeth iechyd.

Fe fydd yr ŵyl hefyd yn rhoi tocynnau dydd am ddim i unrhyw un sy’n gweithio i’r GIG ar ddydd Iau 5ed Gorffennaf a 20% i ffwrdd i gyngherddau nos Iau a nos Sadwrn i ddathlu’r pen-blwydd arbennig.

Y ystod y diwrnod (dydd Iau 5ed Gorffennaf), fe fydd yr Eisteddfod Ryngwladol yn anrhydeddu Olwen Williams OBE fel Llywydd y Dydd. Yn dilyn gyrfa ysbrydoledig mewn fel meddyg gyda’r gwasanaeth iechyd, fe fydd Olwen yn rhannu ei straeon a’i hatgofion o weithio o fewn y GIG. Derbyniodd Olwen ei theitl brenhinol yn 2005 ac fe gafodd ei gwobrwyo yn Fenyw Cymraeg y Flwyddyn yn 2000.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Rhys Davies: “Ar ôl gweithio fel meddyg o fewn y gwasanaeth iechyd fy hun, rwy’n deall ac yn parchu’r gwaith arbennig mae’r GIG yn ei wneud. Rydym yn falch iawn o gefnogi dathliad cenedlaethol o ben-blwydd 70ain y gwasanaeth. Mae’n gwerthoedd ni yn debyg iawn i werthodd y GIG ac mae’n amserol iawn gan y bu i’r Eisteddfod Ryngwladol ddathlu ei phen-blwydd yn 70ain y llynedd. Mae’r GIG yn cyfoethogi ein bywydau trwy feddyginiaeth ac mae ein gŵyl yn cyfoethogi bywydau trwy gerddoriaeth.”

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rhedeg o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf i ddydd Sul 8fed Gorffennaf 2018. Yn ogystal â chyfres o gyngherddau nos gydag Alfie Boe, Van Morrison, Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader, fe fydd perfformiadau byw gan gystadleuwyr, bandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd o bedwar ban byd. Bydd yno hefyd weithgareddau i ddiddanu plant yn ogystal â stondinau bwyd, diod a chrefftau lleol.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl, ewch i www.llangollen.net neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Am y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r ŵyl, dilynwch ni ar Twitter @llangollen_Eist neu hoffwch ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.