Gwledd Symffonig yn Eisteddfod Llangollen

Dychwelodd Christopher Tin, y cyfansoddwr Americanaidd sydd wedi ennill gwobr Grammy, i Langollen neithiwr [DYDD MERCHER 5ED O ORFFENNAF] i arwain perfformiad o’i gylch o ganeuon enwog o 2009, Calling All Dawns.

Gan gyfleu’r neges o undod byd-eang, cyflwynodd hanner cyntaf y cyngerdd sbectrwm o gerddoriaeth i’r gynulleidfa o agorawdau symffonig i ffantasïau gemau fideo. Roedd ail hanner y cyngerdd yn berfformiad arbennig o gylch caneuon Tin Calling All Dawns, oedd yn cynnwys ei gyfansoddiad eiconig ar gyfer y gêm fideo Civilisation IV, Baba Yetu.

Ymunodd llu o unawdwyr rhyngwladol gyda Tin ar gyfer y sioe – y tro cyntaf i Calling All Dawns gael ei berfformio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddwyr Tin. Roedd y rhain yn cynnwys y soprano o Abertawe Elin Manahan Thomas, y canwr gyfansoddwr o Fongloia, Nominjin, y gantores Fado o Bortiwgal, Nathalie Pires, a’r canwr mawr ei glod yn rhyngwladol, Joel Virgel.

I gyfeiliant Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, ategwyd y cantorion amlieithog ac amlddiwylliannol ymhellach gan y cantorion Maori, David Jones a Lewis Whitiri, pedwar côr o UDA, Tsieina a De Affrica a’r Corws Dathlu oedd wedi’u recriwtio’n lleol.

Yn cynnwys 100 o gantorion amatur, llwyddodd y Corws Dathlu i feistroli caneuon mewn 8 iaith wahanol ar gyfer ail hanner sioe’r noson, gan gynnwys Swahili ar gyfer Baba Yetu. Y darn hwn, sydd wedi ennill gwobr Grammy, oedd penllanw’r sioe, gan ysgogi cymeradwyaeth cythryblus a chymell y gynulleidfa ar eu traed ar ôl y sioe ac ar ôl yr encôr.

Yn siarad wedi’r sioe, dywedodd Christopher Tin sy’n byw yn LA: “Roedd y gerddoriaeth a berfformiwyd ar lwyfan y pafiliwn yn canolbwyntio ar y syniad o undod, waeth beth fo ein tras, ein diwylliant neu ein crefydd, sy’n cyd-fynd yn berffaith â sylfeini Eisteddfod Llangollen.

“Roedd hi’n fraint gweithio gydag ensemble mor amrywiol, talentog a mawr. Roedd y sioe’n teimlo mor ddyrchafol ac ysbrydoledig ac mae hynny oherwydd ymroddiad yr holl berfformwyr.

“Yn arbennig y Corws Dathlu, sydd wedi cyflawni cymaint mewn 12 ymarfer yn unig – llai na 50 awr! Rwyf wedi bod wrth fy modd gyda bob munud o ‘mhrofiad yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a gobeithiaf ddychwelyd yn fuan iawn.”

Ychwanegodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol: “Roedd y sioe yn wych, mor bwerus ac yn llawn myrdd o ieithoedd ac arddulliau cerddorol, caneuon am lawenydd, dirgelwch, tristwch a chaledi yn ogystal â chaneuon am fuddugoliaeth a gorfoledd.

Baba Yetu oedd uchafbwynt y noson ac roedd pawb ar eu traed ar gyfer ei encôr. Dyma’r math o berfformiad sy’n dangos sut mae Eisteddfod Llangollen yn parhau i fod yn gyfredol ac yn llwyddo i gadw gyda’i draddodiadau craidd, gan ddenu perfformwyr cyfoes sydd ar flaen y gad ac sy’n ysbrydoli ac yn gwthio ffiniau genres.”

I brynu tocynnau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen neu am ragor o wybodaeth cliciwch yma.