Plant Ysgol Dinas Brân i Gyflwyno Neges o Heddwch

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi gwahodd ysgol uwchradd leol Ysgol Dinas Bran i fod yn rhan o fenter heddwch yn yr ŵyl eleni.

Gan berfformio ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol nos Iau 5ed Gorffennaf, fe fydd y disgyblion yn cyflwyno neges heddwch yr Eisteddfod Ryngwladol drwy gyfuniad o feim a chyflwyniad llafar, ynghyd a chân o’r enw ‘Heddwch O’r Diwedd’.

Mae pobl ifanc Llangollen wedi cyflwyno neges heddwch i’r byd ers 1952. Y tro hwn, fe fydd y myfyrwyr lleol, sydd rhwng 14 – 18 oed, yn moderneiddio’r neges ar gyfer y gynulleidfa gyfoes. Yn draddodiadol, cyflwynwyd y neges trwy gyfrwng geiriau, ond eleni bydd yn cael ei haddasu i gan, yn driw i arddull Llangollen.

Perfformiwyd y neges heddwch ar lwyfan yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn1952 a hynny er mwyn dangos sut y gall tref fechan Llangollen helpu i ledaenu heddwch dros y byd trwy’r fenter.

Ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2018, comisiynwyd corff Cymru dros Heddwch i arddangos prosiect arbennig. Bydd yn cynnwys cyflwyniad digidol a chyfres o gyfweliadau fideo byr fydd yn trafod rhai enghreifftiau eithriadol o heddwch dros y blynyddoedd.

Dywedodd Awel Irene, Hyrwyddwr Cyfraniad Cymunedol gyda Chymru dros Heddwch: “Ers yr ymddangosiad cyntaf yn 1952 hyd heddiw, mae gan y neges heddwch bersbectif hanesyddol unigryw.

“Cyn i berfformwyr ifanc Ysgol Dinas Brân ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol nos Iau 5ed Gorffennaf, hoffai Cymru dros Heddwch eu llongyfarch am eu gwaith i helpu lledaenu neges mor bwysig â hon.

“Fe fydd ymwelwyr yn cael eu croesawu yn y babell groeso trwy gydol yr wythnos, ac yna fe allen nhw symud ymlaen at y cyflwyniad heddwch, sy’n arddangos y teimlad o gyfeillgarwch ac ewyllys da sydd wrth galon yr Eisteddfod”.

Ychwanegodd Pennaeth Cerdd Ysgol Dinas Brân, Debbie Neal: “Unwaith eto, mae’n wych cael dathlu’r Eisteddfod Ryngwladol trwy bortreadu neges mor bwysig a dyrchafol. Braint ac ysbrydoliaeth yw cael gweithio gyda phobl ifanc ar y prosiect hwn, pobl ifanc sydd â chysylltiad agos at draddodiadau hir sefydlog yr Eisteddfod.

“Mae ein disgyblion wedi neilltuo llawer o amser ac ymdrech i wneud y perfformiad yma yn llwyddiant ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gloi’r datganiad gyda chan heddwch i ychwanegu at y neges. Yn sicr, mae wedi creu cynnwrf ymysg y plant”.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol  Llangollen yn rhedeg o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf i ddydd Sul 8fed Gorffennaf 2018. Yn ogystal â chyfres o gyngherddau nos gydag Alfie Boe, Van Morrison, Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader, fe fydd perfformiadau byw gan gystadleuwyr, bandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd o bedwar ban byd. Bydd yno hefyd weithgareddau i ddiddanu plant yn ogystal â stondinau bwyd, diod a chrefftau lleol.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl, ewch i www.llangollen.net http://www.llangollen.net neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Am y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r ŵyl, dilynwch ni ar Twitter @llangollen_Eist neu hoffwch ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.