Alfie Boe yn Serennu ar Noson Agoriadol Eisteddfod Ryngwladol

Cafwyd agoriad rhagorol i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2018 neithiwr [nos Fawrth 3ydd Gorffennaf], wrth i’r tenor poblogaidd Alfie Boe feddiannu llwyfan y pafiliwn.

Yn adnabyddus fel ‘hoff denor Prydain’ cafodd yr artist recordio hynod lwyddiannus, a’r seren West End a Broadway gwmni ei ensemble o gerddorion gwych, wrth iddo berfformio rhai o’i ganeuon newydd a’i ganeuon mwyaf hoffus i dŷ llawn.

Agorodd Boe y sioe gyda datganiad pwerus o ‘Sing, Sing, Sing’ o’i albwm newydd gan ddilyn gyda ‘Pencil Full of Lead’.

Nid yw Boe yn ddieithryn i’r ŵyl o ganu, dawnsio a heddwch, a chafodd groeso’r un mor gynnes ar ei bedwerydd ymddangosiad yn yr Eisteddfod Ryngwladol ers 2008 ag y cafodd yn ei gyngherddau blaenorol. Roedd ei ymweliad diweddaraf yn 2015 pan wnaeth serennu mewn noson yn dathlu theatr gerddorol a themâu ffilmiau.

Fe wnaeth y canwr arobryn swyno ei gynulleidfa drwy gydol y noson gyda’i gyfaredd hawdd a’i garisma heintus rhwng caneuon, fe wnaeth o hyd yn oed ddal i fyny gyda sgôr y pêl-droed!

Roedd yr awyrgylch yn drydanol wrth i Boe fynd â’i gynulleidfa ar daith gerddorol emosiynol, gyda’r gynulleidfa ar ei thraed wrth iddo gyfareddu gyda datganiadau pwerus o ‘Bring Him Home’ o Les Miserables.

Yn dilyn sioe tair awr fywiog, daeth Boe â’r sioe i ben gyda pherfformiad syfrdanol o ‘Light Up’.

Roedd y dorf ar eu traed a Boe yn gwenu, gan brofi nad yw ei apêl i gynulleidfaoedd yr Eisteddfod Ryngwladol yn dangos unrhyw arwyddion o leihau.

Yn siarad yn dilyn y perfformiad yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, dywedodd Alfie Boe: “Roedd yr awyrgylch yn Llangollen yn gwbl hudolus. Mae perfformio’n fyw yn rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud ac edrychaf ymlaen ato waeth ble y byddaf, ond mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn arbennig iawn.

“Fe wnaeth y cyfuniad o’i leoliad a’r awyrgylch llawen wrth i bobl o bob cwr o’r byd ddod ynghyd i ddathlu cerddoriaeth wneud sioe neithiwr yn gofiadwy i mi.”

Hefyd yn siarad wedi’r sioe, dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Vicky Yannoula,: “Wel am ddechrau i’n Gŵyl 2018! Roedd perfformiad Alfie heno yn berffaith. Mae ganddo record wych gyda chynulleidfaoedd yn yr Eisteddfod Ryngwladol ac roedd hynny’n amlwg heno.

“Mae Alfie wirioneddol yn act o safon ac mae’n bendant wedi gosod y naws a’r safon ar gyfer yr wythnos o’n blaenau.”