Mae disgyblion ysgol lleol wedi gweddnewid un o brif adeiladau ar safle’r Eisteddfod Ryngwladol ar gyfer dathliadau 70ain yr ŵyl.
Cafodd disgyblion o Ysgol Dinas Brân eu gwahodd gan swyddogion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i greu darn o gelf i gynrychioli neges yr ŵyl o heddwch, ewyllys da a chyfeillgarwch rhyngwladol. Fe greodd y disgyblion furlun lliwgar sy’n cael ei arddangos yn adeilad croeso’r Eisteddfod.
Dadorchuddiwyd y murlun yn swyddogol ar ddydd Mawrth 4ydd Gorffennaf mewn digwyddiad gyda Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite CBE a 12 o’r 100 o blant fu wrthi’n creu’r gwaith.
O hyn ymlaen fe fydd y murlun yn aros ar yr adeilad, sy’n cael ei ddefnyddio fel canolfan groeso i gystadleuwyr rhyngwladol drwy gydol yr wythnos, fel darn o gelf parhaol.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol Terry Waite CBE: “Mae gwaith celf myfyrwyr Ysgol Dinas Brân yn ardderchog ac mae’n amlwg bod llawer o feddwl wedi mynd i gyfleu neges yr Eisteddfod Ryngwladol ynddo.
“Mae Diwrnod y Plant o hyd yn achlysur arbennig ac mae hi’n hanfodol bod y genhedlaeth ifanc yn parhau i gymryd rhan yng nghystadlaethau’r Eisteddfod, gan ledaenu’r neges o heddwch, cyfeillgarwch ac undod trwy gerddoriaeth a dawns.”
Dywedodd Alison McDonald o Ysgol Dinas Brân: “Roedd hi’n fraint cael gwahoddiad gan yr Eisteddfod Ryngwladol i fod yn rhan o’r prosiect yma – fe gafodd y plant andros o hwyl wrth greu’r murlun.
“Roedd hi’n braf gweld y gwaith celf yn ei le ac rydym yn gobeithio y bydd y cystadleuwyr sy’n cyrraedd ar gyfer y dathliadau 70ain, a chystadleuwyr y dyfodol, yn ei fwynhau.”
Am fwy o wybodaeth a thocynnau i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.