Betty’n cofio 50 mlynedd cofiadwy mewn lletygarwch yn Eisteddfod Llangollen

Mae gwirfoddolwr sydd yn hen law arni mewn gŵyl eiconig yn ychwanegu ei llais at apêl newydd am aelodau eraill i’r fyddin o gymorthyddion di-dâl sydd wedi helpu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyrraedd ei ben-blwydd yn 70.

Mae Betty Roberts, o Johnstown, Wrecsam, wedi bod yn un o’r cogiau hanfodol yn olwyn yr eisteddfod am 50 mlynedd, gan gyfarfod Diana, Tywysoges Cymru a dod o hyd i lety ar gyfer miloedd o gystadleuwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Unwaith wynebodd y sialens amhosibl o ddod o hyd i welyau i 67 o bobl lwglyd o wlad Hwngari yn hwyr un noson yng Ngogledd Cymru yn ystod haf 1980.

Ond diolch i rwydwaith Betty o gysylltiadau a ffrindiau, o fewn oriau roedd gan bob un ohonyn nhw le i aros ac wedi cael pryd da o fwyd.

Mae’r darn anhygoel hwn o drefnu, a nifer o rai eraill tebyg, i gyd wedi bod yn rhan o’r swydd i Betty, sydd nawr yn 84 sionc, ac sy’n dathlu 50 mlynedd fel aelod gweithgar iawn o Bwyllgor Lletygarwch yr Eisteddfod, a hanner yr amser hwnnw naill ai fel Ysgrifennydd neu Gadeirydd.

Wrth i’r 70ain ŵyl agosáu ym mis Gorffennaf mae Betty wedi bod yn edrych yn ôl dros ei hanner canrif anhygoel fel gwirfoddolwr yn yr Eisteddfod ac wedi ychwanegu ei chefnogaeth i apêl am wirfoddolwyr newydd.

Gan weithio’n agos gyda chyd-aelodau’r pwyllgor, ei chyfrifoldeb hi oedd gosod y mat croeso a dod o hyd i lety ar gyfer miloedd o gystadleuwyr o dramor yn yr ŵyl ers 1966.

Y rhan fwyaf o’r amser, mae pethau wedi rhedeg mor llyfn ag un o raglenni corawl yr ŵyl. Ond mae rhai amseroedd heriol wedi bod hefyd.

Mae Betty, sydd yn fam i fab a merch ac yn nain i bedwar ŵyr rhwng 11 a 35, yn cofio’r amser pan gyrhaeddodd y cystadleuwyr o Hwngari mor annisgwyl ar y noswyl honno 36 mlynedd yn ôl.

Dywedodd: “Yn 1979 gofynnwyd i mi gymryd swydd Ysgrifennydd y Pwyllgor Lletygarwch a byddaf bob amser yn cofio fy mlwyddyn gyntaf yn 1980.

“Roedd hi tua 7 o’r gloch ar y nos Fawrth. Roeddwn i yn y dderbynfa ar faes yr Eisteddfod ar fy mhen fy hun pan ganodd y ffôn. Gwr ifanc o Langollen oedd yno, ar ei ffordd i orsaf rheilffordd Rhiwabon, a dywedodd fod yno 67 o bobl o Hwngari yno, a dim bws iddyn nhw.

“Roedd gen i 67 o welyau i ddod hyd iddyn nhw am 7 o’r gloch, ac yn y dyddiau hynny roedd pawb yn aros mewn cartrefi preifat, felly mi wnes i godi’r ffôn ar gwpwl y tu allan i Wrecsam i weld a fydden nhw’n gallu helpu. Bu iddyn nhw fy ffonio’n ôl a dweud eu bod wedi bod allan yn cnocio ar ddrysau ac, yn anghredadwy, wedi dod o hyd i 67 gwely.

“Roeddem wedi bwydo’r Hwngariaid tra roedden nhw’n aros, ac roedden nhw’n crio dagrau llawenydd gan nad oedden nhw’n credu y byddai pobl yn agor eu drysau ar gymaint o fyr rybudd.”

Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd yr ŵyl, ac yn wirfoddolwr ei hun: “Pobl fel Betty sydd yn gwneud y digwyddiad yr hyn ydy o, ac yn sicrhau ei fod yn parhau, ac mae bellach yn ei 70ain flwyddyn

“Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith ffantastig ac maen nhw wir yn llysgenhadon ar gyfer Llangollen ac ar gyfer Cymru, ac rydym ni angen mwy ohonyn nhw – maen nhw’n cael gymaint o’r gwaith ag y maen nhw’n ei roi mewn.

“Dyna pam fod pobl fel Betty ac eraill wedi bod gyda ni cyhyd a dyma sy’n gwneud Llangollen yn unigryw ymysg gwyliau.”

Mae gwreiddiau cysylltiad Betty gyda’r eisteddfod yn mynd yn ôl i 1953, y flwyddyn cyn iddi briodi ei diweddar ŵr Vernon, pan fu iddi gyfarfod dau aelod o grŵp canu Americanaidd oes yn aros gyda’i mam, Sally Oliver, yng Nghefn Mawr.

Dywedodd: “Roedden nhw gyda’r Purdue Glee Club o Indiana ac fe ddes i’w hadnabod yn eithaf da.

“A dweud y gwir, bu i mi gadw mewn cysylltiad eithaf rheolaidd gydag un ohonyn nhw, dynes o’r enw Bertha Fleming, nes iddi farw yn 92 mlwydd oed tua 20 mlynedd yn ôl.

“Ei chyfarfod hi yn nhŷ fy mam a siarad am yr Eisteddfod wnaeth fy ysbrydoli i fod yn wirfoddolwr. Hynny ac ychydig o anogaeth gan fy ffrind Joyce Davies oedd hefyd o Gefn Mawr ac oedd yn Ysgrifennydd Lletygarwch.

“I ddechrau roeddwn i’n gyfrifol am ddod o hyd i lety ar gyfer y cystadleuwyr yn Johnstown, lle rwyf wedi byw am y 60 mlynedd diwethaf, ond yn ddiweddarach bum yn Ysgrifennydd fy hun am 13 mlynedd ac yna’n Gadeirydd am 12 mlynedd arall, gan orffen yn 2004. Roeddwn hefyd ar fwrdd yr Eisteddfod am 24 mlynedd o’r 1980au ymlaen.

 

Llangollen International Music Eisteddfod volunteer Betty Roberts

Llangollen International Music Eisteddfod volunteer Betty Roberts

“Mae pethau wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd a phan ddechreuais roedd rhaid dod o hyd i welyau i tua 2,000 bob blwyddyn, a rheiny i gyd mewn cartrefi preifat mewn ardal eang o’r Bala i Whittington yn Swydd Amwythig.

“Nawr, mae’r rhan fwyaf yn aros mewn ysgolion a gwestai ond mae gennym rai sydd dal eisiau’r profiad o aros gyda rhywun, ac rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl fyddai’n hoffi cynnig llety i bobl.

“Rydyn ni gyd ar y pwyllgorau bob amser ar flaenau ein traed a byddem yn falch iawn o groesawu aelodau newydd – a fyddan nhw’n sicr ddim yn difaru ymuno â ni.”

Dros y blynyddoedd mae Betty wedi gwneud nifer o ffrindiau drwy ei gwaith mewn lletygarwch, a bu iddi gyfarfod Tywysog a Thywysoges Cymru pan wnaethant ymweld â’r Eisteddfod yn 1985.

Cofiodd Betty: “Dywedodd Diana, oedd yn ferch neis iawn ac yn ymddangos i fod wedi gwneud ei gwaith cartref ar yr Eisteddfod, ei bod yn gobeithio mod i’n cael tocynnau ar gyfer perfformiadau’r nos gan fy mod wedi bod yn gweithio mor galed.

“Rwy’n cofio dweud wrthi nad oeddem ni’n cael mynd i wylio’r perfformiadau’n aml gan ein bod ni’n rhy brysur, er ein bod ni bellach yn gallu gan fod gennym ni sgrin deledu yn ein hadeilad lletygarwch, felly gallwn eu gwylio nhw wrth i ni weithio.”

Bellach yn ei rôl fel Swyddog Cydlynu Lletygarwch yr Eisteddfod, dydy Betty byth yn colli’r cyfle i hyrwyddo’r Eisteddfod i gynulleidfa ehangach ac mae’n rhoi sgyrsiau i grwpiau ledled Gogledd Cymru.

Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. tra bydd gweithgareddau dydd  Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.