Mae tîm o arbenigwyr rhaffau uchel o Langollen wedi dringo i’r uchelfannau er mwyn helpu i ledaenu’r neges am ŵyl gerddoriaeth eiconig y dref.
Bu’r dringwyr rhaffau mentrus yn hongian uwchben yr Afon Dyfrdwy yng nghanol y dref er mwyn gosod baner hysbysebu pedwar metr o hyd ar draws pont Gorsaf Rheilffordd Llangollen i hysbysebu’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, sy’n cael ei chynnal yn y dref yn y mis nesaf.
Bellach, bydd miloedd o deithwyr ar y rheilffordd stêm enwog yn gweld bod yr ŵyl enwog yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, i ddydd Sul, 10 Gorffennaf yn ogystal â chael gwybod beth sydd ymlaen a lle i gael tocynnau.
Bydd y faner hefyd yn amlwg i’r llu o bobl sy’n ymweld â’r dref hardd ac sy’n mynd am dro ar draws pont enwog y Ddyfrdwy, un o Saith Rhyfeddod Cymru, ac sy’n aros ennyd i edmygu’r olygfa ysblennydd i fyny’r afon.
Y dyn a gafodd y syniad oedd Ian Lebbon, Cadeirydd Marchnata’r Eisteddfod, ac meddai: “Mae’n enghraifft ardderchog o wahanol sefydliadau yn y dref yn gweithio gyda’i gilydd.
“Mi wnaethon ni ofyn i Reilffordd Llangollen a fydden nhw’n fodlon i ni osod y faner ar eu pont i gerddwyr ar draws y traciau ac mi wnaethon nhw gytuno ac yna mi wnaethon ni ofyn i’n cymdogion yn R3 Safety and Rescue sy’n rhentu swyddfa ar safle’r Eisteddfod ac mi wnaethon nhw ddarparu’r arbenigedd rhaffau uchel er mwyn ein galluogi i osod y faner yn ddiogel.
“Mae’r orsaf rheilffordd mewn lleoliad trawiadol iawn ac mae Rheilffordd Llangollen hefyd wedi caniatáu i ni osod mwy o faneri ar hyd y lein yng ngorsafoedd Berwyn, Glyndyfrdwy, Carrog a Chorwen.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rheilffordd ac i R3 am eu cymorth – mewn tref fechan fel hon mae’n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd.”
Mae Rheilffordd Llangollen, rheilffordd treftadaeth sy’n cael ei rhedeg gan ddilynwyr trenau brwd, yn gweithredu gwasanaeth trenau stêm yn bennaf ar hyd deg milltir y lein rheilffordd i Gorwen ac yn ôl gan gludo dros 1,000 o deithwyr yr wythnos yn ystod cyfnodau prysur.
Dywedodd Kevin Gooding, Rheolwr Cyffredinol y Rheilffordd: “Bydd miloedd o ymwelwyr yn pasio drwy’r orsaf felly mae’n fan delfrydol i osod y faner.
“Rydym yn elwa o’r Eisteddfod yn aml am fod y teledu yn dod ag artistiaid a pherfformwyr i lawr yma i ffilmio ac felly rydym yn cael cyfran o’r cyhoeddusrwydd yn sgîl hynny.
“Y llynedd mi gawson ni Prunella Scales Prunella a Timothy West yma i gael te prynhawn oherwydd eu bod yn ffilmio ar y gamlas, a cyn i ni droi roeddem yn cael llu o geisiadau o bob cwr o’r wlad am de prynhawn.”
Y dyn oedd yn hongian dros ddyfroedd afon Dyfrdwy, oedd yn llifo’n gyflym oddi tano, oedd Rheolwr Gyfarwyddwr R3 Safety and Rescue, Paul O’Sullivan gyda Chyfarwyddwr Gweithrediadau’r cwmni Chris Heath yn cadw llygad barcud arno.
Dywedodd: “Rydym yn ddarparwr hyfforddiant diogelwch ac achub ac rydym yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig. Gofynnodd Ian i ni roi help llaw gyda hyn ac roeddem yn falch iawn o wneud hynny.
“Rydym yn addysgu ystod o sgiliau i’r holl wasanaethau brys gan gynnwys achub mynydd ac achub o ddŵr ac rydym yn defnyddio’r Afon Dyfrdwy a hyd yn oed y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol sy’n ddelfrydol ar gyfer ein gwaith ar y rhaffau uchel, felly roeddem yn fwy na pharod i estyn cymorth.”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.