Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn taflu golau disglair gobeithiol yn erbyn tywyllwch yr oes hon.
Dyma oedd neges allweddol Martin Bell OBE, gohebydd rhyfel profiadol a chyn-wleidydd, yn ei araith o’r prif lwyfan fel un o Arlywyddion y Dydd yn yr ŵyl.
Daeth Mr Bell yn enwog fel y Dyn yn y Siwt Wen am ei fod yn arfer gwisgo felly, a bu’n sôn am ei bryderon am effaith y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar yn y refferendwm ym Mhrydain.
Dywedodd: “Rwy’n pryderu am y rhaniadau yn y wlad sydd wedi dod i’r golwg yn ystod y refferendwm – rhaniadau rhwng dinasoedd a chefn gwlad a rhwng hen ac ifanc.
Ac roedd yn pwysleisio: “Mae’n rhaid i ni adfer ein hunain ar ôl yr ymgyrch hon.”
Fe soniodd Mr Bell am y blynyddoedd hir y bu’n gohebu ar ryfeloedd, gan ennill gwobrau am ei waith ar y teledu. Roedd wedi dechrau gyda’r gwrthdaro yn Nigeria yn 1966 a mynd ymlaen i gynnwys cyfnodau mewn gwahanol lefydd helbulus o gwmpas y byd, yn cynnwys Vietnam, y Dwyrain Canol, Angola a Zimbabwe.
Fe soniodd am ei brofiadau ei hun mewn perthynas ag adroddiad Ymchwiliad Chilcott i ran Prydain yn y rhyfel yn Irac, a ddaeth allan yn ddiweddar. Dywedodd Mr Bell wrth y gynulleidfa: “Rwy’n credu na allwn fforddio ystyried rhyfel fel dewis o ran polisi, a rhaid i ni ei weld fel y dewis olaf un mewn argyfwng.”
Gan barhau i drafod rhyfel, fe soniodd am y digwyddiadau yr wythnos ddiwethaf i gofnodi canmlwyddiant Brwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd mai honno oedd y frwydr ddrutaf yn hanes Byddin Prydain, a thalodd deyrnged i’r beirdd rhyfel, Siegfried Sassoon a Wilfred Owen oedd, yn ôl beth ddywedodd ef, wedi newid am byth ein barn am ryfel.
Gan droi at yr Eisteddfod, dywedodd bod: “Y gwahaniaeth rhwng yr anghytgord yn ein gwleidyddiaeth a’r cytgord yn ein cerddoriaeth yn amlwg iawn yn y fan hon ar yr adeg hon.
“Rydym ar hyn o bryd yn byw yn y cyfnod mwyaf peryglus i’r byd ers adeg argyfwng taflegrau Ciwba yn 1962, felly mae angen i ni dangos mai pobl, fel ein gilydd, ydym ni, a deall bod gennym ni’r gallu i fod yn dda.”
Ac roedd yn pwysleisio: “Mae angen i ni gael iaith y bydd pawb yn ei deall, ac mae gennym ni iaith felly yn y gerddoriaeth sy’n codi o’r dyffryn hwn.
“Mewn adeg o dywyllwch fel sydd ar hyn o bryd, mae’r ŵyl fawr hon yn disgleirio fel goleuni i roi gobaith i bobl.”
Mae Mr Bell yn llysgennad UNICEF i Brydain, a chafodd wahoddiad i ddod yn Llywydd y Dydd i’r Eisteddfod gan ei gyfaill ers blynyddoedd lawer, Terry Waite. Terry ydi’r dyn sydd wedi gwasanaethu hiraf fel llywydd i’r Eisteddfod, a bu’n garcharor yn Beirut, yn cael ei gadw mewn cell laith dan ddaear am 1,763 o ddyddiau ofnadwy.
Mae Mr Bell wedi gwasanaethu fel Aelod Seneddol annibynnol am un tymor, ar ôl cael ei ethol yn 1997, a dywedodd bod y gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd yn “anrhydedd o ddifri”.
Dywedodd: “Fy nghyfaill Terry Waite wnaeth ofyn i mi’r flwyddyn ddiwethaf i ystyried y rôl.”
“Rwyf wedi bod yn gyfaill i Terry am amser maith iawn, ac wrth gwrs mae o’n dod yn wreiddiol o Swydd Caer, y sir roeddwn i’n ei chynrychioli fel Aelod Seneddol.
“Mae Terry Waite yn ddyn rhyfeddol, a byddwn ein dau’n arfer mynd i ŵyl yn Norfolk ar yr un pryd bob blwyddyn.
“Mae’n hynod o beth fod gŵyl Llangollen yn dathlu 70 mlynedd eleni.
“Mae’n ysbrydoliaeth bendant mai gweledigaeth wreiddiol yr Eisteddfod oedd hyrwyddo heddwch a chytgord, a’i bod yn dechrau gyda neges o heddwch.”