Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn llwyddiant mawr iawn eleni ac yn ymddangos ei bod am dalu ei ffordd yn ariannol.
Llwyddodd tri o’r cyngherddau gyda’r nos i werthu bron bob un tocyn ar eu cyfer, sydd wedi rhoi hwb sylweddol i bethau dros y flwyddyn ddiwethaf, a daeth mwy o ymwelwyr nag yn 2015, gan ychwanegu at y rhagolygon ariannol iach.
Mae Dr Rhys Davies newydd gwblhau ei flwyddyn lwyddiannus gyntaf fel Cadeirydd yr Eisteddfod. Dyma ddywedodd ef: “Yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf, lle nad oedd pethau’n edrych yn rhy dda yn ariannol, rydym yn gwybod ein bod ni ar y llwybr iawn i dalu ein ffordd y tro yma.
“Beth wnaeth gynorthwyo fwyaf oedd y tri chyngerdd, oedd wedi gwerthu bron bob un tocyn – Carmen nos Fawrth gyda’r sêr opera Kate Aldrich a Noah Stewart, nos Iau efo Bryn Terfel a Joseph Calleja, a sioe nos Sul gyda Jools Holland.
“Mae pawb yn y tîm hefyd yn dweud bod nifer yr ymwelwyr i fyny o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi cynorthwyo i’n rhoi ni mewn sefyllfa ariannol iach iawn.”
Rhoddodd Dr. Davies hanes rhai o’r uchafbwyntiau yn ystod yr wythnos yr ŵyl: “Roedd y cyngerdd Carmen min nos yn wirioneddol ardderchog ac roedd Kate yn ymgorffori’r brif ran yn llwyr, a hithau wedi dod i mewn bron iawn ar y funud olaf wedi i Kathleen Jenkins orfod tynnu nôl oherwydd firws. Roedd Kate yn rhywiol, yn llawn bywyd ac yn canu’n odidog.
“Roedden ni’n hynod o ffodus i gael y fath gantores opera o safon byd-eang, ac roedd y gynulleidfa wedi gwirioni efo hi, fel oedd i’w weld wrth i bobl godi ar eu traed i gymeradwyo ar y diwedd.
“Ac ar nos Iau roedd perfformiadau Bryn Terfel a Joseph Calleja hefyd yn wirioneddol gofiadwy ac roedd yn bleser gweld un o fy ffefrynnau personol, Jools Holland, yn dychwelyd i lwyfan yr Eisteddfod am gyngerdd gwych nos Sul.
“Unwaith eto eleni, roedd safon y cystadleuwyr yn hynod o uchel ac roedd yn dda gweld bod nifer y bobl o dramor yn cymryd rhan yn parhau i gynyddu – o 22 o wahanol wledydd eleni.”
Ac ychwanegodd: “Rwy’n teimlo bod ein penderfyniad ni i symud gorymdaith draddodiadol yr Eisteddfod o ddydd Mawrth i ddydd Gwener er mwyn caniatáu i fwy o gystadleuwyr tramor gymryd rhan wedi bod yn gywir. Roedd y ffaith bod dros 1,000 yn cymryd rhan ynddo’n profi hynny, a thyrfa anferth yn gwylio, oedd mae’n debyg yn un o’r tyrfaoedd mwyaf ers blynyddoedd.
“Eleni roedd yr ŵyl yn gyffredinol yn llawer mwy o faint a mwy lliwgar nag erioed, ac efo gwell ysbryd iddi.
“Ond allwn ni ddim fforddio gorffwys a gadael i bethau aros fel y maen nhw, rhaid parhau i adeiladu ar ein hanes o lwyddiant.”
Roedd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, hefyd yn hynod falch efo’r ffordd roedd pethau wedi mynd yn yr ŵyl.
Dywedodd Eilir: “Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol efo rhai newidiadau mawr yn strwythur yr ŵyl.
“Roedd cael yr orymdaith ar y dydd Gwener yn llwyddiant anferth. Roedd y torfeydd yn niferus iawn a dros 1,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan.
“Heblaw am rywfaint o law ar y penwythnos, roedd y tywydd hefyd yn dda i ni.
“Roedd Diwrnod y Plant yn wirioneddol ryfeddol, a hefyd y prosiect cynhwysiad wedi’i noddi gan Sefydliad ScottishPower.
“Cafodd y cyngherddau gyda’r nos ddechreuad rhyfeddol, gyda Carmen a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn wirioneddol gampus.
“O feddwl mai dim ond tri diwrnod o ymarfer oedd y sêr a’r tîm cynhyrchu wedi’i gael, mae hwn yn ddigwyddiad i mi ei gofio am amser hir.
“Gwnaeth Kerry Ellis waith rhyfeddol gyda chyngerdd nos Fercher, ac roedd yn hudolus cael dau o westeion sy’n fawrion y byd opera, Bryn Terfel a Joseph Calleja, ar nos Iau.
“Roedd yn ffantastig o beth i mi gael y gerddorfa’n perfformio’r anthem, Ffanffer i Heddwch, roeddwn wedi’i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y 70fed Eisteddfod eleni, yn y Cyngerdd Gala.
Ychwanegodd: “Mae ein cystadlaethau wedi bod yn wych, gyda grwpiau dawns ysblennydd a rhai perfformiadau rhyfeddol gan y corau.
“Mae’r digwyddiad yn golygu llawer iawn o waith caled ond rydw i’n ystyried fy hun yn ddyn ffodus iawn i gael y cyfle i weithio mor agos efo cymaint o bobl arbennig iawn, yn wirfoddolwyr, staff, cystadleuwyr a’r sêr ddaeth yma’n westeion.