Gwobr Côr Plant y Byd cyntaf i Loegr

Mae Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wedi croesawu arweinydd côr Cantabile Hereford Cathedral School, Jo Williamson i gasglu eu gwobr fawreddog Côr Plant y Byd.

Ar ôl gadael yr ŵyl y mis diwethaf heb sylweddoli eu bod wedi ennill, mae’r côr buddugol bellach wedi derbyn eu gwobr o’r diwedd. Roedd y wobr ar y cyd â’r British Columbia Girls’ Choir o Ganada, y ddau gyda sgôr o 89.7 yr un yn golygu eu bod hefyd yn derbyn gwobr Owen Davies, sydd yn wobr uchel iawn ei pharch.

Yn teithio dros y ffin i dref brydferth Llangollen, cyrhaeddodd Jo, ynghyd â’i gŵr Phil, yn ôl ddeng mlynedd union i’r dyddiad y sefydlwyd y côr gan y cyn-gantores opera i nodi buddugoliaeth fel y côr cyntaf o Loegr i hawlio’r teitl.

Mae Côr Plant y Byd yn wobr fawreddog, wedi’i noddi gan y cadeirydd, Dr Rhys Davies a’i wraig Ann er cof am eu mab Owen a fu farw yn 2016 yn 33 mlwydd oed yn unig. Roedd Owen yn ryng-genedlaetholwr gwirioneddol wedi gweithio fel athro o Tsieina i Chile, a’r Ariannin i Sbaen. Cyflwynwyd y wobr gyntaf erioed gan Millie, chwaer Owen, ac roedd hi’n briodol bod y côr buddugol cyntaf yn dod o Shanghai, y ddinas lle bu Owen yn gweithio.

Dywedodd Jo Williamson, Cyfarwyddwr Cantabile: “Fel y côr cyntaf o Loegr i ennill y wobr fawreddog hon, roeddwn mewn sioc pan glywais pa mor dda roedden ni wedi’i wneud, ac ni allwn i fod yn fwy balch o’r merched.

“Ar ôl ennill y Corau Gwerin i Blant ar ddydd Mercher yr Eisteddfod, fe wnaethom gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Plant y Byd y diwrnod wedyn. Nid oedden ni’n meddwl ein bod wedi cael sgorau digon uchel i ddod yn fuddugol a phenderfynu teithio adref.

“Roeddem ar ein ffordd yn ôl i Henffordd pan y cefais alwad ffôn gan yr ŵyl i ddweud ein bod ni mewn gwirioned yn gyd-enillwyr gyda’r British Columbia Girls’ Choir o Ganada ond ar yr adeg hon roedden ni’n teithio adref mewn cerbydau gwahanol.

“Roeddem wedi gwirioni ac mewn sioc ond yn falch iawn o’r wobr hon yn enwedig am ei bod er cof am fab Dr a Mrs Davies, Owen a fu farw mor ifanc. Ni allwn ddiolch digon i’r Eisteddfod am y cyfle bythgofiadwy hwn.”

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen a noddwr Côr Plant y Byd, Dr Rhys Davies: “Rydym yn falch iawn bod Cantabile Girls’ Choir wedi derbyn y wobr hon ynghyd â’r British Columbia Girls’ Choir.

“Roeddem wrth ein boddau’n cyflwyno’r wobr ar yr achlysur hwn i Jo Williamson sy’n arwain y grŵp sy’n cynnwys 22 o ddisgyblion o Hereford Cathedral School, hyd yn oed os oedd hynny ychydig yn hwyr.”

Mae Cantabile Girls Choir wedi dychwelyd yn rheolaidd i’r Eisteddfod ac wedi dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Côr Gwerin Plant yn 2015. Ers hynny, maen nhw wedi ennill BBC Songs of Praise ac yn Gôr Ysgol y Flwyddyn i Barnardo’s yn 2017.