Mae’r gantores leol, Elan Catrin Parry, yn canu clodydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am ei helpu i sicrhau cytundeb recordio enfawr gyda’r un label recordio a Katherine Jenkins – gan annog perfformwyr brwd eraill i fod yn rhan o’r ŵyl eleni.
Fe wnaeth y gantores dalentog 16 oed o Wrecsam gyrraedd rowndiau terfynol Eisteddfod Llangollen ddwy flynedd yn ôl ac, yn ogystal â chael marciau llawn gan feirniad yr ŵyl, fe lwyddodd i gael clyweliad gyda’r label recordio Prydeinig, Decca.
Heb yn wybod iddi, roedd sgowt o’r label recordio yn y gynulleidfa wrth iddi berfformio ar lwyfan y Pafiliwn ac ers hynny, mae hi wedi arwyddo ei chytundeb recordio delfrydol gyda Decca.
Cyhoeddwyd albwm gyntaf Elan fis Awst ac fe fydd hi’n perfformio yn y Royal Albert Hall y mis yma (Hydref 13eg) fel gwestai arbennig yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain, a gyfarwyddir gan Gyfarwyddwr Cerdd interim Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Edward-Rhys Harry. Hyn oll wrth astudio ar gyfer ei TGAU!
Dywedodd Elan Catrin Parry: “Oni bai am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, mae’n annhebygol iawn y buaswn i yn y sefyllfa yma heddiw – ac rwy’n andros o ddiolchgar am hynny. Alla i ddim diolch ddigon i Eisteddfod Llangollen am eu cefnogaeth barhaol trwy gydol fy siwrnai, ac mi fuaswn i’n hoffi annog cymaint o berfformwyr ac sy’n bosib i gofrestru ar gyfer cystadlaethau arbennig yr Eisteddfod.”
“Roeddwn i a fy nheulu yn ymweld â’r ŵyl am sawl blwyddyn cyn i mi ddechrau cystadlu, ac mae’r awyrgylch bywiog a chroesawgar yn aros yn gadarn yn y cof.
“Mae’r cyfuniad o ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns a gwisgoedd gwahanol ynghyd â naws gynnes a chyfeillgar yr ŵyl yn creu profiad hudolus. Fe all hyd yn oed fod yn wers foesol i’r byd ar heddwch a harmoni rhyngwladol.”
Yn ôl Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies: “Mae Eisteddfod Llangollen yn falch iawn o Elan â’r hyn mae hi wedi ei gyflawni. Bob haf, rydym yn croesawu’r byd i’n cornel fach ni yma yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o fedru rhoi llwyfan i dalent ifanc a chyffrous o bob cornel o’r byd.
“Ar ôl ymweld â’r ŵyl am sawl blwyddyn a chyrraedd y rowndiau terfynol mewn amryw o gystadlaethau yma, rydym wrth ein boddau bod ei thalentau wedi cael eu cydnabod gan label recordio rhyngwladol ac yn dymuno pob lwc iddi yn y dyfodol. Rydym yn sicr y bydd hi’n llwyddiant mawr.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerddorol interim Eisteddfod Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Rydym yn llongyfarch Elan ar ei llwyddiant ysgubol ers ymddangos ar lwyfan enwog y Pafiliwn ac rydym yn sicr bod y perfformwyr a’r gynulleidfa fydd yn mynychu’r perfformiad yn y Royal Albert Hall yn edrych ymlaen at ei chlywed.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i gofrestru trwy wefan yr Eisteddfod, ewch i: http://eisteddfodcompetitions.co.uk