Perfformiad gwefreiddiol o Tosca fydd y prif atyniad yng nghyngerdd nos Fawrth Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Fe fydd y sêr opera rhyngwladol Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn rhannu llwyfan am y tro cyntaf erioed yn Eisteddfod Gerddorol Llangollen eleni, i gyflwyno dehongliad unigryw o Tosca gan Puccini.
Stori garu ddramatig wedi ei phlethu â chwant, gwleidyddiaeth a llofruddiaeth yw Tosca a bydd tri o dalentau amlycaf y byd opera yn perfformio’r gwaith ar nos Fawrth 4ydd Gorffennaf. Fe fydd yn un o uchafbwyntiau mewn wythnos o adloniant safonol fydd yn rhoi gwledd o berfformiadau clasurol, Jazz a Soul a chyfoes i’r gynulleidfa.
Aelodau talentog Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru fydd yn cyfeilio i’r triawd operatig.
Fe fydd y bas-bariton Cymraeg Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen unwaith eto i chwarae rhan Baron Scarpia – gŵr sy’n ceisio ennill calon Cavaradossi, sef cymeriad Kristian Benedikt, er ei bod hi mewn perthynas â rhywun arall.
Yn rhan Tosca, fe fydd Kristine Opolais yn ychwanegu deinamig unigryw i’r gwaith a fydd yn gymorth i greu perfformiad cwbl gofiadwy o dan arweinyddiaeth Gareth Jones.
Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Gan adeiladu ar lwyddiant Carmen a Sweeny Todd, mae hwn yn brosiect anturus arall gan yr Eisteddfod. O dan gyfarwyddyd Amy Lane fe fydd y perfformiad yn cynnwys gwaith fideo anhygoel gyda’r holl beth yn cael ei lwyfannu yn gynnil er mwyn dod a’r opera hyfryd hon yn fyw.
“Trwy gyfuno arbenigedd a phrofiad y dalent Gymreig a rhyngwladol, mae talent gynhenid y wlad yn cael ei arddangos ar lwyfan rhyngwladol – gan wneud yn siŵr bod Eisteddfod Llangollen yn parhau i fod yn gyfredol flwyddyn ar ôl blwyddyn”.
Un rhan sydd ddim wedi’i lenwi hyd yn hyn yw ‘Y Bugail Ifanc’ ac felly mae galw am fechgyn ifanc â lleisiau treble, neu boy sopranos, i ymuno â chast y perfformiad uchelgeisiol.
Bydd y clyweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 15fed Ebrill yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, lle bydd gofyn i ymgeiswyr ganu dau ddarn – ‘I give you sighs’ o Act 3 Tosca a darn o’u dewis hwy.
Dywedodd Mario Kreft MBE, perchennog cwmni Parc Pendine sy’n noddi’r Eisteddfod ac sydd hefyd yn gefnogol iawn o’r celfyddydau: “Rydym yn falch iawn o fedru noddi’r perfformiad hwn o Tosca – perfformiad sy’n sicr o fod yn brofiad hudolus i’r gynulleidfa o ystyried y dalent operatig arbennig.
“Mae’r ŵyl yn agos iawn at ein calonnau. Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhan holl bwysig o’n rhaglenni cyfoethogi ym Mharc Pendine ac rydym wir yn credu eu bod yn gwella safon bywyd ein preswylwyr yn ein cartrefi yn Wrecsam a Chaernarfon.
“Mae disgwyl i’r gyngerdd fod yn un gwbl gofiadwy a fydd yn arddangos talent operatig ryngwladol ar ei orau, a hynny ar ein stepen drws yma yng ngogledd Cymru. Mae’n mynd i fod yn noson i’w chofio.