Y Gold Coast yn barod i groesawu perfformiwr o Wrecsam

Mae perfformiwr o Wrecsam a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2017 yn paratoi at deithio i’r Gold Coast yn Awstralia ddydd Sul 15 Hydref.

Fel rhan o’i gwobr, fe fydd Megan-Hollie Robertson, 22, yn ymuno â channoedd o berfformwyr eithriadol yn y Musicale yn Eisteddfod y Gold Coast. Fe fydd y sioe yn ddathliad bywiog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl saith wythnos o hyd.

Gyda’i pherfformiad o Home o Beauty and the Beast, The Girl in 14G a Perfect o Edges, fe wnaeth Megan-Hollie swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid o lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Eisteddfod Llangollen ym mis Gorffennaf.

Ers ennill y teitl mawreddog, nid yn unig y bu Megan-Hollie yn paratoi ar gyfer ei thaith i ben draw byd, mae hi wedi cwblhau taith pantomeim o Gymru a Gwlad yr Haf, yn perfformio Mother Goose, ac wedi graddio gyda BA (Anrhydedd) mewn Theatr o Ysgol Actio Guildford.

Ar ben hynny, mae’r berfformwraig dalentog wedi bod yn brysur iawn gyda chyfweliadau.

“Dw i wastad wedi ceisio mynd i gymaint o gyfweliadau ag y medra i”, meddai Megan-Hollie, “ond mae’n syndod faint o ddrysau sydd wedi agor ers i mi roi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar fy CV.”

Fe fydd Megan-Hollie, sydd ond wedi teithio cyn belled â’r Eidal o’r blaen, yn hedfan i Awstralia ar 10fed Hydref ac yn perfformio yn y sioe gerddorol ar 15fed Hydref wedi diwrnod o ymarferion.

Mae disgwyl iddi ganu dwy o’r caneuon a berfformiodd yn Llangollen ym mis Gorffennaf – Home a The Girl in 14G, yn ogystal â’r enwog The Sound of Music a Life I Never Led o Sister Act.

“Does dim amheuaeth bod y daith hon am fod yn gwbl gofiadwy” meddai Megan-Hollie. “Alla i ddim aros i berfformio yn y Musicale ynghyd â chymaint o fy nghyd berfformwyr. Mi fydda i’n gwireddu breuddwyd.

“Tra bydda i yn Awstralia, fe fydd breuddwyd arall yn dod yn wir gan y bydda i’n mynd ar daith gefn llwyfan o Dŷ Opera Sydney gyda fy nheulu. Dyma sut y bydda i’n gwario’r wobr ariannol.

“Rydw i’n annog unrhyw un sy’n mwynhau canu a pherfformio i gofrestru ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a mynd yno gyda’r bwriad o gael diwrnod gwych yn gwneud beth ydach chi’n ei garu! Dyna’r oll wnes i ac mae wedi talu ar ei ganfed!”

Mae Eisteddfod y Gold Coast yn rhoi llwyfan i dros 70,000 o gantorion, 330 o fandiau a cherddorfeydd, 175 côr, bron i 1,500 o grwpiau dawns a 3,000 o ddawnswyr unigol.

Cafodd costau teithio enillydd Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2017 eu talu yn llawn gan Eisteddfod y Gold Coast – gwobr fydd yn cael ei chynnig eto yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2018.

Dywedodd Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod y Gold Coast: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Megan-Hollie a’i gweld yn perfformio yn y Musicale. Mae ein partneriaeth gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ein galluogi i ddathlu talent gerddorol o ochr arall y byd yn ysbryd cyfeillgarwch ac angerdd tros gerddoriaeth a pherfformio.

“Am y rheswm hwnnw, fe fyddwn ni’n paru gyda’r ŵyl unwaith eto’r flwyddyn nesaf er mwyn rhoi’r cyfle i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd i berfformio yma yn Eisteddfod y Gold Coast 2018.”

Ychwanegodd Cyfarwydd Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Vicky Yannoula: “Mae cyd weithio gydag Eisteddfod y Gold Coast yn ein galluogi i godi proffil rhyngwladol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gan agor drysau i unawdwyr newydd a chyffrous a rhoi hwb i’w gyrfaoedd cerddorol disglair.

“Hoffwn ddiolch i Judith a’r tîm am groesawu enillydd 2017 Megan-Hollie ac am unwaith eto gytuno i gynnig y wobr arbennig yma i enillydd Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018.

Ar hyn o bryd, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn derbyn ceisiadau ar gyfer categorïau grŵp. Gofynnir i geisiadau cystadlaethau grŵp, ensemble a dawns gael eu gyrru cyn dydd Gwener 24ain Tachwedd. Fe fydd y categorïau unawdol yn agor ym mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.eisteddfodcompetitions.co.uk