Yr enillwyr Grammy Gipsy Kings yn dod a rhythmau Lladin i Langollen

Fe wnaeth un o fandiau Lladinaidd fwyaf eiconig y byd, yr enillwyr Grammy Gipsy Kings gyda Andre Reyes, feddiannu llwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol neithiwr (nos Wener 5ed Gorffennaf), gan ddiddannu’r gynulleidfa gyda’u meistrolaeth o’r gitâr a rhythmau byrlymus.

Gyda’u hesgidiau dawnsio ymlaen, roedd aelodau’r gynulleidfa yn barod am noswaith o rumba, flamenco a salsa bywiog wnaeth lwyddo i drawsnewid Eisteddfod Llangollen yn barti mawr.

Fe gyflwynodd Gipsy Kings noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, gan agor y noson gyda dehongliad sionc o ‘A tu Vera’, cyn symud yn syth ymlaen I ‘Alegria’.

Am y 90 munud nesaf, ni wnaeth Andre Reyes a’i grŵp prin gymryd anadl. Dyma oedd eu perfformiad cyntaf yn yr Eisteddfod Ryngwladol a does dim amheuaeth iddyn nhw godi to’r Pafiliwn gyda chyngerdd gwefreiddiol, oedd yn cynnwys yr anthemau eiconig ‘Bamboleo’, ‘Volare’ a ‘Djobi, Djoba’.

I gloi, fe wnaeth Gipsy Kings ddod a’r noson egnïol i derfyn – a’r gynulleidfa ar ei thread – trwy berfformio dehongliad angerddol o’r ffefryn ‘Hotel California’.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni hefo Gipsy Kings a’u hegni heintus. Fe wnaeth llais unigryw Andre Reyes a’r sgiliau gitâr cyfareddol danio dychymyg y dorf yn y Pafiliwn Brenhinol, does dim dwywaith amdani”.