Detholiad o grwpiau llais a dawns yn dathlu amlddiwylliant Eisteddfod Ryngwladol

 

 

 

Bydd miloedd o berfformwyr o 28 gwlad a chwe chyfandir yn llenwi Dyffryn Dyfrdwy gyda dawns a chan yr haf hwn, wrth iddyn nhw ddiddanu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf.

Yn dilyn proses ddethol gynnil, lle’r oedd cannoedd o ymgeiswyr dan ystyriaeth, mae tîm yr Eisteddfod Ryngwladol wedi llunio rhaglen o 84 grŵp rhyngwladol, egnïol ac amrywiol – gan estyn gwahoddiad iddyn nhw berfformio mewn cystadlaethau neu ddigwyddiadau yn yr ŵyl eleni.

Gyda thocynnau ar gyfer gŵyl 2018 (3ydd – 8fed Gorffennaf) yn gwerthu’n gyflym, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi datgelu 16 o grwpiau cyffrous fydd yn perfformio ar lwyfan eiconig y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol yr haf yma.

Esboniodd Vicky Yannoula, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Roedd hi wir yn dasg anodd iawn. Roedd safon yr ymgeiswyr yn eithriadol o uchel, a gan fod perfformwyr yn cysylltu’r Eisteddfod Ryngwladol gyda bri rhyngwladol, roedd yr ymholiadau gan grwpiau dawns a chorawl yn gorlifo.

“Eleni, fe fydd ymwelwyr yr ŵyl yn cael eu diddanu gan bopeth o ddawnsio Indiaidd a Groegaidd traddodiadol, i berfformiadau lleisiol o chwe chyfandir gwahanol.”

Dyma 15 grŵp i gadw llygad amdanynt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:

 KorRey – Gwlad yr Iâ

Yn wreiddiol, côr eglwys traddodiadol oedd Kor Reyðarfjörður (neu KorRey yn fyr) o orllewin Gwlad yr Iȃ. Erbyn hyn, mae’r côr wedi ymestyn i fod yn gôr cymunedol o 21 o gantorion rhwng 24 a 70 oed. Mae nhw hefyd wedi perfformio gyda’r Manchester Community Choir, waneth eu hannog i ymgeisio i berfformio yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni.

Côr Cymunedol Manceinion – Lloegr

Yn dychwelyd i’r Eisteddfod Ryngwladol ar gyfer eu trydydd ymweliad anghystadleuol, fe fydd y côr 110 aelod – sydd wedi bod yn canu hefo’i gilydd am bron i 20 mlynedd – yn diddanu ymwelwyr gyda cherddoriaeth a capella. Mae nhw hefyd yn gobeithio perfformio ar y cyd gyda’u ffrindiau, KorRey o Wlad yr Iâ.

Côr Prifysgol Stellensbosch – De Affrica

Wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Stellenbosch yn 1936, mae’r ensemble ifanc hwn yn cynnwys 115 o aelodau rhwng 18 a 24 oed. Dyma’r côr hynaf yn Ne Affrica a, mewn naws Affricanaidd, fe fydden nhw’n perfformio’n a capella.

Aroha Junior Choir – India

Aroha Junior Choir o Shillong fydd y grŵp corawl cyntaf o India i ddod i’r Eisteddfod Ryngwladol. Ar ôl perfformio gyda’i gilydd am ddwy flynedd, mae’r grŵp amrywiol yn cynnig rhywbeth i bawb – o Gospel ac R ‘n’ B, i glasurol a gwerin.

Côr Meibion Froncysyllte – Gogledd Cymru  

Wedi ei leoli dafliad carreg o Langollen, cafodd Côr Meibion Froncysyllte ei sefydlu yn 1947 er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf. Mae’r 72 aelod yn cynnwys plismyn, athrawon, cogyddion, bancwyr, cyfrifwyr, pobyddion, adeiladwyr a rhai sydd wedi ymddeol. Ac mae dau o’r aelodau gwreiddiol yn dal i ganu hefo’r côr hyd heddiw.

Reine Mannersache Zellhausen – Yr Almaen

Sefydlwyd Reine Mannersache Zellhausen ar ôl i ddau gôr, fu’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am dros gan mlynedd, uno. Yn 2014, daeth 15 aelod o bob côr at ei gilydd, a heddiw mae’r cantorion 19-84 oed yn canu darnau a capella o sawl cyfnod a genre.

Côr Merched British Columbia – Canada

 Ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yn Eisteddfod Llangollen yr haf hwn, mae’r côr 40 aelod, sydd rhwng 13-18 oed, am ganu mewn sawl iaith wahanol gan hefyd gyflwyno cerddoriaeth draddodiadol o Ganada. Yn eu perfformiad, caiff natur amrywiol ac amlddiwylliannol yr Eisteddfod ei amlygu, gan fod teuluoedd y merched wedi cyrraedd Canada o nifer o wledydd gan gynnwys Brasil, Bosnia, Croatia, Kenya, Sweden, De Affrica, China a Costa Rica. Mae gan aelodau eraill berthnasau o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Kyklos Hellenic Performing and Literary Arts Group – Canada

Fel grŵp dawnsio gwerin Groegaidd o Ganada, mae Kyklos yn falch o ddathlu a hybu eu cefndir celfyddydol Helenaidd. Wedi’i sefydlu yn 1983, mae’r grŵp yn cyflwyno steiliau dawnsio o wahanol rannau o Wlad Groeg a Cyprus, yn aml gyda lleisiau byw fel cyfeiliant.

Hallmark of Harmony – Lloegr

Fe ddaw grŵp harmoni clos (Barbershop) Hallmark of Harmony o Sheffield, ac eleni mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 40ain a’i bedwerydd ymweliad i’r Eisteddfod Ryngwladol. Mae’r 70 aelod rhwng 18 a 80 oed.

Côr Merched Gimnazija Kranj – Slofenia

Côr ysgol uwchradd o Slofenia yw Côr Merched Gimnazija Kranj ac mae tua chwarter o’r aelodau yn newid bob blwyddyn, gyda’r mwyafrif o ferched yn treulio pedair blynedd gyda’r côr. Caiff y cantorion gorau eu dewis i ymuno gyda’r côr siambr enwog, Carmen Manet, gafodd ei enwi yn Eurovision Choir of the Year yn 2017.

Grŵp Dawns Mother Touch – Simbabwe

Cafodd Grŵp Dawns Mother Touch ei ffurfio fel gweithgaredd ysgol allgyrsiol, ac ers hynny mae’r aelodau wedi diddanu ymwelwyr yn yr Eisteddfod Ryngwladol sawl tro. Mae’r aelodau 6-16 oed yn perfformio caneuon a dawnsfeydd traddodiadol, gan chwarae’r marimba Affricanaidd.

Corws Merched Phoenix, Cantabile – UDA

Dyma fydd y tro cyntaf i’r côr hwn deithio i’r Eisteddfod Ryngwladol i berfformio eu repertoire clasurol, gwerinol, ysbrydol a gospel. Cychwynnodd eu taith Ewropeaidd olaf yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd cyn hedfan i Sbaen i berfformio yn Abatu Monserrat a La Sagrada Familia. Mae Cyfarwyddwr Artistig y côr, Danya Tiller, hefyd yn canu’n broffesiynol gyda’r enillwyr Grammy, Phoenix Chorale.

Tring Park 16 – Lloegr

16 aelod rhwng 16 a 18 oed o Tring yn Hertfordshire sy’n rhan o Tring Park. Mae’r grŵp yn perfformio darnau a capella ynghyd a darnau clasurol modern. Nid yw’r aelodau yn arbenigo mewn canu clasurol, ond maen nhw’n dod o gefndir actio, cerddorol neu sioe gerdd. Mae’r aelodau hefyd yn mwynhau gweithgareddau fel ju-jitsu, deifio scwba, gymnasteg a chwarae’r sacsoffon a’r uculele.

Grŵp Dawns Sapat – Gweriniaeth Kyrgyz  

Yn gymysgedd o blant ag oedolion, mae Grŵp Dawns Sapat wedi perfformio gyda’i gilydd ers bron i 10 mlynedd, gan ymweld ȃ’r Eisteddfod Ryngwladol ddwywaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae nhw’n falch o gynrychioli diwylliant unigryw’r Weriniaeth Kyrgyz, a hefyd yn mwynhau dysgu am ddiwylliant a thraddodiadau pobl mewn gwledydd eraill.

21 Strings Guzheng Ensemble – China

Wedi eu lleoli yn Ninas Dongguan yn China, mae pob aelod o’r grŵp offerynnol hwn yn chwarae’r Guzheng – offeryn llinynnol traddodiadol o China sy’n dyddio nôl 2,500 mlynedd, a gaiff hefyd ei adnabod fel y zither. Mae’r ensemble wedi bod yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol werinol ers pum mlynedd.

Eleni, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rhedeg o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf i ddydd Sul 8fed Gorffennaf gyda chyfres o gyngherddau nos gydag Alfie Boe, Van Morrison a Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader. Yn ogystal, fe fydd perfformiadau byw gan gystadleuwyr, bandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd o bedwar ban byd ynghyd ȃ gweithgareddau plant, stondinau bwyd a chrefftau lleol.

Am fwy o wybodaeth, neu i archebu tocynnau, ewch i www.llangollen.net neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Am y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r ŵyl, dilynwch ein cyfrif Twitter @llangollen_Eist neu ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.