Helo gan y Cynhyrchydd Gweithredol – Rydyn ni nôl – Cyhoeddi Cyngherddau 2022!

Helo gan ein Cynhyrchydd Gweithredol newydd!

Annwyl Gyfeillion,

Mae’n bleser enfawr i mi ysgrifennu fy nghylchlythyr cyntaf atoch chi i gyd gyda’r newyddion rhagorol y byddwn yn dychwelyd i greu cerddoriaeth yn fyw ym mis Gorffennaf 2022.

Ers ymuno â’r Eisteddfod ar ddechrau mis Tachwedd mae’r tîm a minnau wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddod â dathliad i chi sy’n deilwng o’n 75 mlynedd o fodolaeth. Er y bydd yr ŵyl ychydig yn fyrrach, ac yn cael ei chynnal ar y maes ac yn y Pafiliwn heb yr estyniad arferol er mwyn sicrhau diogelwch ein holl gynulleidfaoedd tra bo cyfyngiadau Covid yn dal i fodoli, rwy’n gobeithio y cytunwch â mi ein bod wedi dal y gorau o bopeth sydd gan Langollen i’w gynnig.

Edrychaf ymlaen at gyfarfod â llawer ohonoch yr haf nesaf, os nad cyn hynny. Os hoffech ddarllen mwy am fy nghefndir, edrychwch ar y post newyddion ar ein gwefan. [https://international-eisteddfod.co.uk/appointment-of-new-executive-producer-for-llangollen-international-musical-eisteddfod/]

Gyda phob dymuniad da i chi ar gyfer y Nadolig hwn a’r flwyddyn i ddod,

Camilla

 

Rydyn ni Nôl – Cyhoeddi Cyngherddau 2022!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi, ar ôl bwlch o ddwy flynedd ers cynnal digwyddiadau byw, y byddwn yn dychwelyd yn 2022 gyda chystadlaethau, cyngherddau a dathliadau ar gyfer ein pen-blwydd yn 75 oed!

Fel cefnogwr gwerthfawr, roeddem am i chi fod y cyntaf i wybod ac i roi cyfle i chi archebu eich hoff seddi. Felly o 10am ddydd Llun 13 Rhagfyr rhoddir blaenoriaeth archebu i Ddeiliaid Tocynnau Gŵyl, Cyfeillion yr Eisteddfod a chwsmeriaid â chredyd ar gyfrif a gariwyd drosodd o 2020, , gyda thocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd o 10am ddydd Llun 20 Rhagfyr.

Bydd dau o leisiau mwyaf poblogaidd y byd clasurol, Aled Jones a Russell Watson, yn perfformio gyda’i gilydd yn Llangollen am y tro cyntaf i agor rhaglen 2022 (wedi’i gohirio o 2020), mewn noson fendigedig o gerddoriaeth a chyfeillgarwch. Ymhlith yr artistiaid sy’n ymddangos yn Llangollen 2022 am y tro cyntaf y mae Anoushka Shankar, enillydd Gwobr Grammy, gyda Manu Delgado a’r Britten Sinfonia, ac wrth gwrs artisitiad poblogaidd Llanfest (a fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan!)

 

Os yw eich ffrindiau a’ch teulu hefyd am fod y cyntaf i archebu eu seddi, mae croeso iddyn nhw ymuno â Chyfeillion yr Eisteddfod neu ddod yn Ddeiliad Tocyn Gŵyl er mwyn manteisio ar y cynigion arbennig hyn.

Neu beth am roi tocyn cyngerdd Llangollen yn rhodd i’ch anwyliaid  – yr anrheg berffaith y Nadolig hwn, i’w fwynhau yn 2022. Gellir prynu ein talebau rhodd a’n cynlluniau archebu blaenoriaeth trwy gysylltu â ni ar info@llangollen.net

Bydd manylion llawn oriau agor ein swyddfa docynnau a’n manylion cyswllt yn cael eu hanfon yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

 

Rhestrau Llawn 2022:

Dydd Iau 07 Gorffennaf | 7.30pm | £48, £37 | Yn ôl Mewn Harmoni: Russell Watson ac Aled Jones

Yn dilyn eu taith In Harmony, a werthodd allan yn 2019, mae dau o leisiau clasurol mwyaf poblogaidd y byd yn lansio rhaglen gyngerdd Llangollen 2022 yn perfformio caneuon o’u halbwm, Back In Harmony.

*Sylwer mai nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer y cyngerdd hwn ac rydym yn rhagweld galw mawr felly argymhellir archebu’n gynnar i osgoi cael eich siomi.*

Dydd Gwener 08 Gorffennaf | 8pm | £42, £34, £26 | Cyngerdd gydag Anoushka Shankar a Manu Delago

Yn y cyngerdd cyfareddol hwn cyflwynir uchafbwyntiau o waith  Anoushka Shankar mewn trefniant newydd gan Jules Buckley, gan gynnwys darnau wedi eu hysgrifennu ar y cyd â’i chyfaill Manu Delago, y mae ei gyfansoddiadau unigol yn cyfannu’r perfformiad, ar gyfer noson fydd yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith wyllt ac annisgwyl.

Dydd Sadwrn 09 Gorffennaf | 7.30pm | £30, £25 | Côr y Byd, Pencampwyr Dawns a Llais y Dyfodol 2022

Mae cystadleuwyr rownd derfynol y corau yn cystadlu am deitl nodedig Côr y Byd a Thlws Pavarotti. Ochr yn ochr â hyn rydym yn coroni Pencampwyr Dawns 2022 gyda Thlws Lucille Armstrong, a bydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine hefyd yn ymuno ag artistiaid nos Sadwrn am y tro cyntaf. Mi fydd hon yn noson i’w chofio gyda’r perfformwyr a’r dawnswyr gorau o bedwar ban byd.

Dydd Sul 12 Gorffennaf | o 12pm | £28 | Llanfest 

Mae Llanfest wedi dod yn ffefryn cadarn yn nyddiadur gwyliau’r haf gyda llwyfannau awyr agored yn cynnwys cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd ac awyrgylch braf a chyfeillgar i deuluoedd, yn lleoliad ysblennydd Dyffryn Dyfrdwy. Mae manylion y prif artistiaid a pherfformwyr eraill 2022 i ddod yn fuan. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu nawr er mwyn osgoi cael eich siomi!