Julian yr actor o Hollywood yn cymryd rhan mewn noson serennog yng ngogledd Cymru

Mae un o actorion Hollywood sydd wedi gweithio gyda mawrion byd y ffilmiau fel Clint Eastwood a Morgan Freeman yn cymryd rhan mewn perfformiad serennog yng Ngogledd Cymru.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth Julian Lewis Jones i gymryd rhan yr adroddwr mewn addasiad cyngerdd o opera Carmen gan Georges Bizet, gan gymryd rhan gyda’r sêr opera rhyngwladol o fri Kate Aldrich a Noah Stewart yn y cyngerdd agoriadol nos yfory (dydd Mawrth, mis Gorffennaf 5).

Un o brosiectau nesaf Julian, fydd actio yn un o’r ffilmiau mwyaf drud yn hanes sinema, Justice League, sy’n seiliedig ar gymeriadau DC Comics.

Daeth i amlygrwydd rhyngwladol yn dilyn ei ran flaenllaw yn ffilm Invictus, yn 2009, lle chwaraeodd ran Etienne Feyder, pennaeth tîm diogelwch Nelson Mandela.

DSC_3275

Actor Julian Lloyd Lewis

Yn ôl Julian, 48 oed, roedd gweithio ar y ffilm a enwebwyd am Oscar ac a gafodd ei chyfarwyddo gan Eastwood gyda Morgan Freeman a Matt Damon hefyd yn serennu, yn “brofiad gwych”.

Nid dyma fydd y tro cyntaf i’r actor, a aned yn Ynys Môn, ymddangos ar lwyfan Llangollen gan iddo gyflwyno cyngerdd gyda’r nos yn yr ŵyl ychydig dros bum mlynedd yn ôl.

Dywedodd Julian, sy’n briod ac yn dad i dri o blant: “Bydd hwn yn brofiad gwahanol iawn i mi gan nad wyf wedi adrodd opera erioed o’r blaen. Bydd yn rhywbeth newydd ac rwy’n hynod falch o gael gwahoddiad i wneud hynny.

“Fy rôl fel adroddwr yw gosod yr olygfa i’r gynulleidfa fel eu bod yn gwybod beth sy’n digwydd a beth sy’n mynd ymlaen ymhob golygfa. Bydd yn newydd i mi hefyd gan nad wyf erioed wedi gweithio gydag opera fel ffurf gelfyddydol o’r blaen.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld a chlywed Kate Aldrich a Noah Stewart yn perfformio. Rwyf ond wedi gallu cael cip ar broffil Kate ar y rhyngrwyd ond mae’n amlwg ei bod yn un o’r prif sêr opera ar lwyfan y byd. Ac rwy’n credu bod Noah Stewart eisoes yn dipyn o ffefryn gyda chynulleidfa Llangollen.

“Dydw i ddim yn cael cyfle i ddod nôl i Ogledd Cymru mor aml ag yr hoffwn ond rwyf bob amser yn mwynhau Llangollen. Mae wedi bod yn rhy hir ers i mi fod yno ac rwy’n falch iawn fy mod yn mynd yn ôl.

“Rwy’n hynod o brysur ar hyn o bryd ac rwyf newydd orffen ffilmio ffilm newydd ar gyfer Warner Brothers, Justice League, sef ffilm newydd sy’n seiliedig ar gymeriadau arwyr DC Comics.

“Dydw i ddim yn cael dweud eto pa ran rwy’n ei chwarae ond mi fedra i ddweud fod gen i rôl yn yr hyn sy’n debygol o fod y ffilm fwyaf drud a wnaed erioed. Cafodd ei ffilmio yn stiwdio Warner Brothers yn Leavesden yn ogystal â lleoliadau amrywiol o amgylch y DU a Gwlad yr Iâ.

“Y cyfarwyddwr yw Zak Snyder gyda Ben Affleck, Jeremy Irons a llu o actorion blaenllaw eraill yn serennu. Rwy’n hapus iawn fy mod wedi cael cymryd rhan yn y ffilm ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn y sinema y flwyddyn nesaf.”

Dywed Julian iddo gael ei gyfle mawr pan lwyddodd i gael rhan yn y ffilm Invictus oedd yn adrodd hanes digwyddiadau yn Ne Affrica cyn ac yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd a gynhaliwyd yn 1995 yn union ar ôl i apartheid ddod i ben yn y wlad.

Ychwanegodd: “Mi wnaeth Invictus yn sicr ddod â chydnabyddiaeth eang i mi ac agor drysau. Mae gweithio gyda phobl fel Clint Eastwood, Morgan Freeman, Matt Damon ac Adjoa Andoh yn brofiad anhygoel.

“Does yna ddim egos enfawr na dim agwedd ffuantus neu hunan bwysig. Pobl gyffredin ydyn nhw yn gwneud gwaith anhygoel. Maen nhw’n gweithio’n eithriadol o galed ac roedd Clint Eastwood yn arbennig yn ddyn gwirioneddol gwrtais a thalentog.”

“Rwy’n brysur gyda rhai prosiectau fy hun ar hyn o bryd. Rwy’n gynhyrchydd gweithredol ar gyfer ffilm Prydeinig, Rugby Girls, a fydd yn adrodd hanes y gystadleuaeth cwpan rygbi’r byd cyntaf i ferched a gynhaliwyd yng Nghymru yn 1991.

“Mae’n stori anhygoel ac rydym yn gobeithio dechrau ffilmio yn ddiweddarach eleni. Rwyf hefyd wedi bod yn gwneud llawer o stwff teledu ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ar gyfer cyfres bysgota teledu newydd.”

Roedd cyfarwyddwr cerdd Llangollen Eilir Owen Griffiths wrth ei fodd bod Julian Lewis Jones wedi cytuno i fod yn adroddwr.

Dywedodd: “Bydd cynulleidfa Llangollen yn cael y fraint o glywed sêr opera o’r radd flaenaf yn Kate Aldrich a Noah Stewart

“Does neb yn perfformio rôl Carmen fel Kate; mae hi’n wirioneddol arbennig ac o safon ryngwladol ac wedi perfformio yn lleoliadau opera gorau’r byd. Mae wedi gwneud enw i’w hun yn canu’r rhan yma, yn wir mae’n cael ei chydnabod fel Carmen ei chenhedlaeth.

“A phwy allai anghofio’r derbyniad a gafodd y tenor Noah Stewart pan berfformiodd yn Llangollen ychydig flynyddoedd yn ôl a chanu’r emyn Gymraeg, Calon Lan.

“Hwn fydd trydydd ymddangosiad Noah yn Llangollen ac mae eisoes yn ffefryn mawr gyda chynulleidfa wybodus Llangollen.

“Dyma cyngerdd cyntaf yr ŵyl eleni ac mae’n sicr yn ddigwyddiad sy’n mynd i osod y bar yn uchel iawn ac rwy’n siŵr y bydd yn noson fydd yn byw yn hir yng nghof pawb gaiff y fraint o fod yno.”