
Roedd baner Indonesia’n chwifio’n uchel uwchben Llangollen ar ôl i Gôr Ieuenctid Pangudi Luhur gael eu coroni’n Gôr Plant y Byd yn yr Eisteddfod Ryngwladol.
Roedd llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE, wrth law i gyflwyno’r tlws rhyngwladol i arweinydd y côr, Sonia Nadya Simanjuntak, y cafodd hithau hefyd ei choroni’n arweinydd mwyaf ysbrydoledig y gystadleuaeth.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod: “Roedd y safon yn eithriadol o uchel ond cafodd Côr Ieuenctid Pangudi Luhur sgôr uchel ar draws pob cystadleuaeth ac maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiant.
“Ac mae Sonia’n arweinydd gyda chymhelliant a brwdfrydedd a fydd yn sicrhau bod y côr yn mynd o nerth i nerth. Rwy’n gobeithio y gallwn eu croesawu nhw’n ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”