Bydd cast lliwgar “ansbaredigaethus” yn dod yn fyw mewn gŵyl gerddoriaeth a dawns eiconig.
Bydd canmlwyddiant yr athrylith llenyddol Roald Dahl, a aned yng Nghymru, yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Bydd cyngerdd blynyddol y plant, Roald Dahl’s Phizz-whizzing Big Friendly Concert, yn gweld dychweliad y cerddor amryddawn Owen Gunnell a Cherddorfa Siambr Llangollen.
Bydd y rhaglen yn cynnwys y Tri Mochyn Bach gan Paul Patterson, dawns gan Kajal Sharma, y Neges Heddwch Rhyngwladol gan Theatr yr Ifanc Rhosllannerchrugog ac ambell syrpreis ychwanegol hefyd.
Bydd cymeriadau fel Mr Cadno Campus, Willy Wonka, Matilda a’i gelyn pennaf Miss Trunchball, i gyd yn rhan o’r perfformiad diolch i brosiect Trosfeddiannu Roald Dahl 2016 Ysgolion Sir Ddinbych.
Bydd y prosiect yn gweld 24 o ysgolion cynradd arbennig ac uwchradd y sir yn cymryd rhan mewn gweithdai Roald Dahl, gan gyrraedd uchafbwynt gyda pherfformiad promenâd gyda chriw o ddisgyblion ifanc Ysgol Dinas Brân.
Dywed Sarah Dixon, swyddog cyfoethogi’r cwricwlwm Gwasanaeth Addysg a Phlant Sir Ddinbych, y bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn llwyfan delfrydol ar gyfer penllanw’r prosiect gwych.
Wrth siarad mewn gweithdai a gynhaliwyd yn Ysgol y Gwernant Llangollen, dywedodd: “Dyma’r 20fed ysgol i ni ymweld â hi hyd yma ac erbyn i ni orffen byddwn wedi cyrraedd mwy na 3,000 o ddisgyblion.
“Rydym yn edrych ar wahanol lyfrau a chymeriadau Roald Dahl gyda phob ysgol. Rydym yn cyrraedd yr ysgolion sy’n cymryd rhan ben bore felly rydym ar y blaen i Glybiau Brecwast.
“Rydym yn addurno’r ysgol gyda balwnau a gwaith celf ar thema Roald Dahl ac rydym i gyd yn gwisgo crysau-T y prosiect.
“Mae’r gweithdai yn cynnwys gweithgareddau adrodd straeon a drama, theatr gerdd a phypedau a gwneud masgiau. Bydd pob un o’r 23 o ysgolion sy’n cymryd rhan yn gwneud pyped mawr yn seiliedig ar gymeriad gan Roald Dahl a fydd wedyn yn cael ei wisgo gan ddisgybl o’r ysgol.
“Bydd y 23 o bypedau yn gorymdeithio drwy faes yr Eisteddfod cyn y perfformiad promenâd.
“Llythrennedd yw’r llinyn aur sy’n rhedeg drwy bob pwnc ysgol ac rydym am annog plant nid yn unig i ddarllen ond hefyd i fwynhau’r hyn y maen nhw’n ei ddarllen.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at Ddiwrnod y Plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol ac at ddigwyddiad fydd yn rhywbeth newydd a chyffrous.”
Dywedodd y cyfarwyddwr Theatr Bethan Mascarenhas, sydd hefyd yn rhedeg gweithdai theatr gerdd y prosiect: “Mae Diwrnod y Plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni yn mynd i fod yn ddathliad cofiadwy o Roald Dahl.
Dywedodd: “Mae’r perfformiad promenâd rwy’n ei gyfarwyddo yn cynnwys cwmni o actorion ifanc o fy hen ysgol, Ysgol Dinas Brân. Bydd y perfformiad yn dechrau ar y prif lwyfan ac yna’n symud o gwmpas safle’r Eisteddfod.
“Mae’n mynd i fod yn ysblennydd ac yn rhywbeth arbennig iawn ac wrth gwrs byddwn hefyd yn gweld gorymdaith o bypedau ar thema cymeriadau Roald Dahl y mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn y prosiect wedi eu creu.”
“Rwyf wedi mwynhau mynd i ysgolion a gweithio gyda disgyblion yn ystod gweithdai theatr gerdd yn fawr iawn. Rydym yn cynnwys plant o bob oed o’r feithrinfa yr holl ffordd i fyny at flwyddyn 10.
“Mae wedi bod yn anhygoel wrth i ysgolion, disgyblion ac athrawon, ymgysylltu mewn ffordd wirioneddol â’r prosiect a dangos cymaint o frwdfrydedd.
“Rwy’n credu ei fod yn help ein bod wedi symud i ffwrdd oddi wrth amgylchedd dysgu pwysau uchel ac yn hytrach wedi annog dysgu drwy’r celfyddydau, fel dawns ac actio.”
Dywedodd yr actor proffesiynol Sean Jones o Ddinbych, sydd wedi bod ar daith gyda’r cynhyrchiad llwyfan o Blood Brothers ac sy’n chwarae rhan y comic yn rheolaidd ym mhantomeim blynyddol y Rhyl: “Mae wedi bod yn anhygoel ac yn andros o hwyl. Mae’n amlwg bod y plant wedi mwynhau pob munud o’r profiad. Gobeithio y bydd yn annog y plant i ddarllen a mwynhau llyfrau yn ogystal â rhoi cynnig ar ddrama ac actio.”
Mi wnaeth Manon Roberts, cynorthwyydd addysgu yn Ysgol y Gwernant, eistedd i mewn ar y gweithdai a dywedodd bod y disgyblion wedi mwynhau’r prosiect yn arw.
Meddai: “Mae wedi bod yn anhygoel ac mae’r plant wedi ymgysylltu go iawn gyda’r holl brofiad Roald Dahl. Wrth gwrs mae llawer o’r plant eisoes yn gwybod am y cymeriadau ac felly’n gallu uniaethu â’r storïau.”
Cafodd Molly Jones a Llyr Jones, disgyblion Blwyddyn 4 yn Ysgol y Gwernant, gyfle i actio golygfa o Charlie a’r Ffatri Siocled mewn gweithdy adrodd straeon a drama a gynhaliwyd gan yr actor Sean Jones.
Meddai Molly: “Mae Charie a’r Ffatri Siocled yn llyfr doniol iawn ac mi wnes i fwynhau clywed y stori ac actio rhan. Roedd ychydig yn wirion ond yn hwyl.
“Rwy’n hoffi llyfrau Roald Dahl; mae yna bob amser gymeriadau doniol a gwirion sy’n gwneud i chi chwerthin. “
Ychwanegodd Llyr: “Rwy’n hoffi llyfrau a chymeriadau Roald Dahl a Willy Wonka yw fy ffefryn. Doedd o ddim fel gwers normal a gallem fod ychydig yn wirion ac roedd hynny’n llawer o hwyl.
“Roedd yr actor sy’n darllen y stori yn dda iawn ac yn gwneud i ni gyd chwerthin llawer. Mae wedi bod yn dipyn o hwyl.”
Dywed Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fod Diwrnod y Plant bob amser yn ddigwyddiad arbennig yn yr ŵyl.
Meddai: “Mae’n rhan o ystyr yr Eisteddfod ac mae’n sicr yn ddiwrnod rwyf bob amser yn edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Bydd Diwrnod y Plant eleni, a gaiff ei gynnal ar ddydd Mercher y 6ed o Orffennaf, yn ddiwrnod o ddathlu ym mlwyddyn canmlwyddiant Roald Dahl.
“Mae yna gymaint yn mynd ymlaen gan gynnwys perfformiad promenâd sy’n addo bod yn rhywbeth hollol wahanol. Hefyd bydd grwpiau dawns rhyngwladol, corau a gweithdai yn ogystal â swigod mawr, cerddwyr ar stiltiau, dawnswyr Bollywood a drymio Affricanaidd.”
“Mae Diwrnod y Plant yn arbennig ac yn unigryw i Langollen. Yn syml iawn, ni fyddai’r ŵyl yr un fath hebddo.