
Perfformiwr Cymraeg sydd wedi cipio teitl Llais Sioe Gerdd Ryngwladol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019.
Fe wnaeth Jodi Bird, 21, syfrdanu’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i dehongliad o Woman, a berfformiwyd yn wreiddiol gan Stephanie J Block, Tell me on a Sunday gan Marti Webb a 14g, gan Janine Tesori ond a waned yn enwog gan Kristin Chenoweth, ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol yn y rownd derfynol ar ddydd Iau Gorffennaf 4ydd.
Fel enillydd y gystadleuaeth, fe fydd hi’n derbyn medal ryngwladol ynghyd â £1,500 a chyfle i berfformio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur yn Awstralia ym mis Hydref 2019. Bydd y daith yn cael ei chyllido yn llwyr gan Eisteddfod yr Arfordir Aur.
Bu i Jodi serennu ymysg cystadleuaeth gref yn y rowndiau cynderfynol, gafodd eu cynnal yn Eglwys Fethodistiaid Llangollen ar ddydd Mercher Gorffennaf 3ydd, cyn cyrraedd y ffeinal ynghyd â Sadie-Beth Holder o’r Deyrnas Unedig a Sophie Clarke o’r Deyrnas Unedig.
Sadie-Beth Holder dderbyniodd yr ail safle gan y beirniaid Sarah Wigley a Ken Burton am ei dehongliad o Your Daddy’s Son gan Stephen Flaherty, gyda Sophie Clarke yn y trydydd safle yn dilyn ei pherfformiad hyfryd.
Dywedodd Sarah Wigley: “Fe gafwyd perfformiad cwbl gyfareddol gan Jodi, wnaeth arddangos ei gallu i gyfathrebu gyda’r gynulleidfa, ei hoffter o fod ar y llwyfan a’i ystod lleisiol eang.”
Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd Jodi Bird: “Braint yw derbyn y wobr fawreddog hon, faswn i ddim yn medru bod dim hapusach. Roedd hi’n brofiad bythgofiadwy perfformio yn y Pafiliwn Brenhinol ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn Eisteddfod yr Arfordir Aur.”
Mae Eisteddfod yr Arfordir Aur yn estyn croeso i dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, 330 o fandiau a cherddorfeydd, bron i 1,500 o grwpiau dawns a dros 3,000 o ddawnswyr unigol.
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod yr Arfordir Aur, Judith Ferber: “Rydym yn falch iawn o fedru helpu dathlu’r gorau o dalent gerddorol ryngwladol ynghyd âg Eisteddfod Llangollen. Llongyfarchiadau mawr i Jodi am ei pherfformiad gwych yn Llangollen. Allwn ni ddim aros i’w chroesawu ac yn edrych ymlaen at ei pherfformiad yn y Musicale.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Fe roddodd Jodi Bird berfformiad bendigedig a chryf i’r gynulleidfa a’r beirniaid yn y gystadleuaeth hon. Hoffwn ei llongyfarch ar gael ei henwi yn Llais Sioe Gerdd Ryngwladol 2109.
“Mae derbyn y wobr a chael y cyfle i berfformio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur yn galluogi, ysbrydoli ac yn lansio gyrfaoedd cerddorol. Rydym yn falch iawn o fedru arddangos talent mor arbennig.”