Anrhydeddu chwaer John Lennon fel Llywydd y Dydd cyntaf Llanfest

Julia Baird, chwaer John Lennon, fydd y person cyntaf erioed i gael ei anrhydeddu fel Llywydd y Dydd Llanfest, diweddglo yr Eisteddfod Ryngwladol.

Mae traddodiad hir o anrhydeddu Llywyddion y Dydd dros wythnos yr Eisteddfod. Estynnir gwahodd i’r llywyddion yn dilyn eu gwaith cyfredol o ledaenu neges heddwch ac ewyllys da – neges sydd wrth galon yr ŵyl.

Cynhelir Llanfest ar ddydd Sul olaf yr ŵyl ac mae’n ddigwyddiad sydd wedi datblygu i fod yn gymysgedd fodern o fandiau roc, pop ac indie, gydag ymddangosiadau gan enwogion fel y Manic Street Preachers a’r prif atyniad eleni, Kaiser Chiefs.

Fe fydd Julia yn ymuno hefo criw o’r Caven Club yn Llanfest ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf ac fe fydden nhw’n cynnal eu llwyfan pop-yp cyntaf, gan ddod a thalentau rhai o artistiaid preswyl y clwb i Langollen.

Heddiw, mae Julia yn ymwneud â llawer o weithgareddau’r Cavern Club ac mae hi hefyd yn gefnogwr brwd o rannu neges heddwch ac ewyllys da trwy gerddoriaeth.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Julia: “Mae’n fraint cael fy newis fel Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Rwy’n credu’n gryf yn ethos yr ŵyl, sy’n dod a diwylliannau gwahanol o bedwar ban byd at ei gilydd i ddathlu heddwch a chyfeillgarwch.

“Ac alla’ i ddim meddwl am ffordd well o nodi 50 mlynedd ers cyhoeddi Yellow Submarine, fydd yn syrthio ar ddiwrnod Llanfest (8fed Gorffennaf)! Bydd y gân yn sicr o gael ei pherfformio ar lwyfan pop-yp y Cavern Club ac rydym yn gobeithio bydd y gynulleidfa yn ymuno â ni i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon”.

Fe fydd Julia yn dilyn ôl traed sawl Llywydd y Dydd amlwg iawn, gan gynnwys Pavarotti, Mike Peters o The Alarm, Julian Lloyd Webber, Lesley Garrett CBE, Karl Jenkins CBE a Shân Cothi.

Meddai Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Rhys Davies: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Julia ar y dydd Sul. Mae cysylltiad agos rhwng y negeseuon yng nghaneuon John Lennon a neges ein gŵyl ni. Rydym yn cyfoethogi bywydau trwy gerddoriaeth.

“Mae safbwyntiau gwleidyddol a chrefyddol yn cael eu rhoi i un ochr, ac mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd trwy gyfrwng cerddoriaeth a dawns a’n cystadlu mewn awyrgylch unigryw a chyfeillgar.”

Gan ddenu dros 4,000 o berfformwyr a hyd at 50,000 o ymwelwyr o bob rhan o’r byd, mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn cael ei chynnal yn flynyddol yn ystod wythnos gyntaf Gorffennaf. Mae’n cynnig chwe diwrnod o gerddoriaeth a dawnsio gwerin safonnol, ynghyd â chyfuniad unigryw o gystadlaethau, perfformiadau a dathliadau.

Eleni, mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid byd enwog fel Van Morrison ac Alfie Boe. Bydd y band indie gwych Kaiser Chiefs, y band eiconig o’r nawdegau Toploader a’r band pop-roc Hoosiers yn diddanu’r gynulleidfa yn ystod Llanfest, dathliad olaf yr ŵyl ar 8fed Gorffennaf.