Llanfest yn Denu Noddwr Dwbl

Mae gŵyl Llanfest, sy’n cloi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan ddau fusnes lleol o Wrecsam ar gyfer y digwyddiad hynod boblogaidd ar ddydd Sul Gorffennaf 7fed 2019.

Y cwmni datblygu tai, SG Estates, ynghyd â Wrecsam Lager fydd cyd-noddwyr Llanfest 2019, lle bydd sêr fel The Fratellis, The Coral, The Pigeon Detectives a Dodgy yn ymddangos yr haf yma.

Dyma’r tro cyntaf erioed i SG Estates noddi’r ŵyl. Yn dilyn llwyddiant ysgubol o fewn y cwmni, sydd wedi ennill gwobr am bob datblygiad a adeiladwyd hyd yn hyn, mae’r datblygwr tai lleol yn awyddus iawn i warchod ei dreftadaeth Gymreig a chefnogi Eisteddfod Llangollen.

Wrth drafod nawdd y cwmni, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr SG Estates, Steve Griffin: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wrth galon ein cymuned leol yn Llangollen. Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i gynhaliaeth a datblygiad yr ardal, rydym yn awyddus iawn i gefnogi’r digwyddiad lleol yma ac rydym yn gweld ein nawdd eleni fel dechrau partneriaeth hir dymor.”

Ar y llaw arall, mae cysylltiad Wrecsam Lager â’r ŵyl yn deillio nôl dros 70 mlynedd! Bu i’r ŵyl ddarganfod hysbyseb i’r bragdy yn rhaglen gyntaf un yr Eisteddfod Ryngwladol yn 1947.

Ychwanegodd Mark Roberts o Wrecsam Lager: “Heb os, mae’r ŵyl yn un o uchafbwyntiau ein calendr ac rydym yn falch o fod yn un o’i noddwyr hynaf.

“Rydym wedi bod yn cefnogi ethos yr ŵyl ers y cychwyn cyntaf, wrth i gymunedau ddod at ei gilydd i fwynhau a dathlu fel un.”

Lansiwyd Llanfest yn 2011 fel diweddglo egnïol i’r Eisteddfod Ryngwladol ac fel modd o gyflwyno’r ŵyl i gynulleidfa newydd, ifanc o bob cwr o’r wlad.

Mae’r cyhoeddiad am ymddangosiad 2019 The Fratellis a The Coral yn dilyn gig wefreiddiol y band indie-pop, Kaiser Chiefs, y llynedd a’r band Cymreig Manic Street Preachers yn 2017.

Fe fydd y tocynnau, sy’n mynd ar werth ddydd Gwener (1af Chwefror 2019) yn cychwyn am gyn lleied â £39, gyda chefnogwyr yn cyfri’r oriau nes medru prynu’r seddi gorau.

Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, mae’r trefnwyr wedi penderfynu ailwampio strwythur y Pafiliwn ar gyfer 2019 i greu mwy o le, gan greu ardal sefyll o flaen y llwyfan. Bydd hyn yn cynyddu maint y gynulleidfa i fwy na 5,200, gan olygu mai dyma un o gigs mwyaf yr ŵyl ac y gall cefnogwyr fynd yn agosach nag erioed at y perfformwyr. Yn ogystal, bydd ardal eistedd uwch hefyd ar gael yng nghanol y Pafiliwn.

Gyda dau fand yn rhannu prif bennawd Llanfest eleni, fe fydd The Coral, wnaeth gyhoeddi’r albwm llwyddianns Move Through The Dawn yn ddiweddar, yn diddanu cynulleidfa’r Pafiliwn Rhyngwladol gyda chaneuon melodaidd ac ecsentrig. Yno hefyd i ddiddanu’r dorf fydd y band Albanaidd, The Fratellis, sy’n bwriadu codi to’r Pafiliwn gyda’u senglau mwyaf poblogaidd, Chelsea Dagger a Whistle For The Choir yn ogystal â chaneuon newydd sbon.

Dyma fydd ymddangosiadau cyntaf y ddau fand yng Ngogledd Cymru yn 2019, ac un o gyfleoedd cyntaf y flwyddyn i gefnogwyr yr ardal eu gweld yn fyw. Yn ymuno â’r ddau fand eiconig ar y diwrnod fydd y grwp indie-roc, The Pigeon Detectives, sy’n gyfrifol am draciau fel This is an Emergency a Take Her Back, a’r triawd papurwch o’r nawdegau, Dodgy, i berfformio caneuon fel Staying out for the Summer a Good Enough.

Bydd perfformiadau byw gan ystod o artistiaid ar y llwyfannau allanol yn cychwyn am 2yp a bydd y bandiau cefnogol, Dodgy a The Pigeon Detectives, yn chwarae o 6:15yh yn y Pafiliwn, cyn i The Fratellis a The Coral gamu i’r llwyfan. Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocynnau cliciwch yma neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.