Eisteddfod Llangollen yn dathlu lleisiau ifanc gyda cherddoriaeth newydd

Mae un o wyliau cerddoriaeth hynaf Prydain, sydd wedi croesawu corau rhyngwladol am dros 70 mlynedd, wedi comisiynu dau ddarn newydd o gerddoriaeth i adlewyrchu’r nifer cynyddol o gantorion ifanc sy’n dewis bod yn rhan o’i gystadlaethau corawl.

Comisiynwyd dau ddarn newydd gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, y naill gan Roderick Williams OBE o’r enw ‘Delight in Disorder’ a’r llall gan Gyfarwyddwr Interim Eisteddfod Llangollen, Dr Edward-Rhys Harry, o’r enw ‘Reset the World’. Cafodd y ddau ddarn eu comisiynu er mwyn taro tant gyda phobl ifanc yn eu harddegau ac mae’r trefnwyr yn annog arweinwyr côr o unrhyw wlad i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth Côr Plant Hyn cyn y dyddiad cau ar ddydd Gwener, 23 Tachwedd.

Mae’r gan ‘Reset the World’, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Interim Eisteddfod Llangollen, Dr Edward-Rhys Harry, yn canolbwyntio ar themâu fel technoleg a’r cyfyngau cymdeithasol.

Dywedodd y cyfansoddwr: “Rydym wedi croesawu perfformwyr rhyngwladol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ond er mwyn aros yn gyfredol rydym yn trafod yn gyson sut i foderneiddio ein harlwy ac ymateb i gynulleidfaoedd newydd. Wrth ysgrifennu’r darn, dychmygais sut beth fyddai pe bai gan y byd fotwm ‘reset’, yn debyg i’n dyfeisiadau technoleg.

“Gobeithiwn y bydd y gân, sydd wedi ei hysbrydoli gan steil gospel, yn gyfraniad gwerthfawr i’r dewis o ddarnau prawf ac fe hoffem annog pobl ifanc o bedwar ban byd i gymryd seibiant a mwynhau harmonïau newydd, amrywiaeth a diwylliant trwy gerddoriaeth a pherfformiad”.

Fel un o wyliau blaenllaw’r byd, mae’r eisteddfod wedi cael ei henwebu am sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Heddwch Nobel, ac mae’n parhau i hybu heddwch ac ewyllys da rhwng cenhedloedd trwy gerddoriaeth, chwedloniaeth a dawns.

Fe all grwpiau o 16 neu fwy, rhwng 12-18 oed, ddilyn ôl traed enillwyr 2018, Côr Merched British Columbia o Ganada, a chofrestru am y cyfle i ennill. Fe fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol ac yn mynd benben am deitl Côr Plant y Byd. Mae rhai o’r cerddorion sydd wedi perfformio ar y llwyfan yn y gorffennol yn cynnwys Pavarotti, Van Morrison, Alfie Boe a Gregory Porter.

Y dyddiad cau ar gyfer categori’r Côr Plant Hyn yw dydd Gwener, 23ain Tachwedd 2018 a gofynnir i ymgeiswyr gysylltu â’r Eisteddfod i gael copi o’r darnau prawf.

Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rhedeg o 1af–7fed Gorffennaf 2019.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i gofrestru ar wefan yr Eisteddfod, ewch i: <http://eisteddfodcompetitions.co.uk/>