Eisteddfod Llangollen yn Croesawu’r Nadolig gyda Chyngerdd Carolau

Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal cyngerdd carolau, i ddathlu lansio ei gyfres cyngherddau ar gyfer 2019.

Ar ddydd Sul 16eg Rhagfyr, fe fydd talent ifanc leol yn camu i’r llwyfan gan gynnwys y gantores Gymraeg llwyddiannus ac enillydd Unawd Lleisiol 2018, Elan Catrin Parry, fydd yn cyflwyno caneuon o’i halbwm “Angel”. Ymysg y gwesteion arbennig eraill fydd  Julian Gonzales, Llangollen Operatic Young ‘Uns’, Band Ysgol Dinas Brân a Chôr Plant Sir Wrecsam.

Bydd mins pei a gwin poeth yn croesawu aelodau’r gynulleidfa, er mwyn cynhesu eu lleisiau a’u caniatau i ymuno yn y cyd-ganu ym mhrif neuadd y pafiliwn. Fe fydd Eisteddfod Llangollen hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ennill cyfres o wobrau raffl, gyda phob elw yn mynd tuag at gronfa sy’n cefnogi cystadleuwyr rhyngwladol yn ystod eu hymweliad â Llangollen.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies: “Mae’r wythnosau diwethaf yn Llangollen wedi bod yn hynod brysur wrth i ni gwblhau trefniadau ar gyfer lawnsio cyngherddau Eisteddfod Llangollen 2019, fydd yn rhoi llwyfan i gerddorion arbennig ac yn cynnig rhywbeth i bawb.

“Rydym yn falch iawn o lein-yp yr ŵyl eleni ac fe fydd y cyngerdd Nadolig yn dod a phobl ynghyd mewn dathliad cerddorol fydd yn gynrychioliad perffaith o’r Eisteddfod. Mae’n addo i fod yn noson wych ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu Elan Catrin Parry yn ôl i Langollen”.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Dr Edward-Rhys Harry: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn yma yn Eisteddfod Llangollen wrth i ni gyhoeddi rhaglen 2019 a chroesawu cyfnod y Nadolig yr un pryd.

“Fe fydd y cyngerdd Nadolig yn gymorth i godi cyllid angenrheidiol ar gyfer y gronfa sy’n sicrhau ein bod yn medru croesawu gymaint o gystadleuwyr rhyngwladol ag sy’n bosib i Langollen fis Gorffennaf. Mae’n wych bod perfformwyr ifanc lleol mor dalentog yn fodlon rhoi eu hamser i gefnogi hyn.

“Yn bendant, mae’n gyngerdd Nadolig na ellir ei fethu, ac yn esgus perffaith i deimlo’n Nadoligaidd.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y cyngerdd Nadolig o Swyddfa Docynnau’r Eisteddfod trwy alw 01978 862000 neu Swyddfa Dwristiaeth Llangollen. Pris tocyn yw £10 i oedolyn, £8 i’r henoed a myfyrwyr, £5 i blant ac fe fydd plant dan bump oed yn cael mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.llangollen.net .

Wedi’r cyhoeddiad hir ddisgwyliedig am gyfres cyngherddau 2019 yr wythnos diwethaf, fe aeth tocynnau blaenoriaeth i’r ŵyl saith diwrnod ar werth i ddeiliaid Pas yr Ŵyl a Ffrindiau’r Eisteddfod. I ymaelodi fel Ffrind yr Eisteddfod a chael tocynnau blaenoriaeth, galwch 01978 862001 new ewch i www.international-eisteddfod.co.uk/get-involved/become-a-friend.

Bydd tocynnau cyngherddau 2019 yn mynd ar werth i’r cyhoedd am 9 y bore ddydd Mercher 12fed Rhagfyr.

Am newyddion a diweddariadau rheolaidd am yr ŵyl, dilynwch ein cyfrif Twitter @llangollen_Eist, hoffwch ein tudalen Facebook Llangollen International Musical Eisteddfod neu dilynwch ni ar Instagram @llangollen_eisteddfod.