Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yw’r gyntaf i ennill gwobr newydd bwysig i’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ryngwladol.
Bydd Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari’n cael ei ddyfarnu bob blwyddyn gan Ardal 1180 y Rotari, ar y cyd gyda’r Eisteddfod.
Ac mae’r aelod arweiniol o’r mudiad Rotari sydd wedi cael y syniad o’r wobr newydd yma yn dweud na allai hi feddwl am unrhyw un mwy haeddiannol i gael y wobr na’r Eisteddfod ei hunan. Eleni mae’r Eisteddfod yn dathlu 70 mlynedd o hyrwyddo heddwch a chytgord ar draws y byd trwy gerddoriaeth a’r celfyddydau.
Dim ond ers ychydig y penodwyd Molly Youd yn llywodraethwr ar yr ardal anferth hon o’r Rotari. Mae’n cynnwys o Southport yn y gogledd i Ganolbarth Cymru yn y de ac o Ynys Môn yn y gorllewin i Crewe a Nantwich yn y dwyrain. Dyma’r tro cyntaf i ferch fod yn dal y swydd hon.
Mae Molly’n byw yn Rhostyllen ger Wrecsam a dywedodd hi: “Rydw i’n caru’r Eisteddfod ac wedi bod yn gyfrifol am babell y Rotari ar faes yr ŵyl am y 15 mlynedd diwethaf.
“Dyma sut daeth y syniad i mi o sefydlu’r wobr heddwch ar y cyd gyda’r Eisteddfod, am fod gennym ni’r un syniadau am heddwch a dealltwriaeth ryngwladol.
“Gan fod yr Eisteddfod wedi cyrraedd 70 mlynedd eleni roeddem ni’n meddwl ei bod yn briodol rhoi’r cyntaf o’r gwobrwyon i’r ŵyl hon, am ei bod wedi gwneud cymaint er mwyn heddwch dros yr holl flynyddoedd hynny.”
Mae’r wobr newydd yn olygus ac yn droedfedd o dal, wedi’i gwneud o wydr. Cafodd ei chyflwyno gan Eve Conway, Llywydd Rotari Rhyngwladol Prydain Fawr ac Iwerddon, i Gadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies a’r Llywydd Terry Waite yn ystod cyngerdd nos Wener. Roedd y cyngerdd hwnnw, o’r enw Calon Llangollen, yn cynnwys strafagansa o garnifal y Caribî, pencampwriaethau dawns a’r gystadleuaeth Cerddor Ifanc.
Ychwanegodd Molly: “Heblaw am fod yn gyfrifol am stondin y Rotari rydw i hefyd wedi cael yr anrhydedd o fod yn Llysgennad Swyddogol Llangollen am y chwe blynedd diwethaf, ac roeddwn i wedi meddwl am ddechrau ar y wobr gryn amser yn ôl.
“Bydd y wobr yn cael ei dyfarnu bob blwyddyn, i unigolyn neu gorff proffil uchel sydd wedi gwneud fwyaf yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo achos heddwch y byd ac ateb gwrthdaro.
“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cytuno i’n helpu ni a’r Eisteddfod i ganfod rhai addas i gael y wobr. Cafodd y Gymdeithas hon ei sefydlu ym Mai 2010 gyda’r nod o hyrwyddo dysgu ac ysgolheictod ar draws y wlad.
“Rydw i’n credu y gall y Rotari a’r Eisteddfod gael budd o’n partneriaeth newydd ni, ac i mi mae creu’r wobr yn cyflawni breuddwyd oedd gen i ers amser hir.
“Roedd yn gymaint o anrhydedd cael gwylio cyflwyno’r wobr am y tro cyntaf i’r Eisteddfod yn ystod y cyngerdd. Roedd hefyd yn briodol iawn mewn nifer o ffyrdd oherwydd, heblaw am fod yr ŵyl yn dathlu 70 mlynedd eleni, mae hefyd yn ganmlwyddiant Sefydliad y Rotari, sef yr elusen sydd gennym ni ein hunain. Mae yn ogystal yn 30 mlwyddiant cael merched yn aelodau o’r Rotari, a 10 mlwyddiant Gwobr Dinesydd Ifanc y Rotari, sydd hefyd yn cael ei chyflwyno’n flynyddol.
Roedd Cadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies, yn croesawu creu’r wobr newydd a dywedodd ei bod yn anrhydedd cael derbyn yr un gyntaf ar ran yr ŵyl.
Dywedodd: “Mae’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a’r Rotari’n cysylltu dau sy’n gweddu’n berffaith i’w gilydd am fod y ddau ohonom yn gweithio i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth yn y byd.
“Roedd yn hyfrydwch pur i mi glywed bod y Rotari wedi penderfynu cyflwyno’r cyntaf o’r gwobrau hyn i’r Eisteddfod, ac rydw i’n falch iawn a’i gweld yn anrhydedd mawr cael ei derbyn.
“Rydw i’n sicr y bydd y wobr newydd yn dod yn fwyfwy pwysig yn y dyfodol.”