CYHOEDDI TOM JONES, GREGORY PORTER a KATHERINE JENKINS OBE AR GYFER WYTHNOS GRAIDD EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Dydd Mawrth 2il – Dydd Sul 7fed Gorffennaf 2024

 

TOCYNNAU AR WERTH O 9AM DYDD GWENER RHAGFYR 8fed YMA

Bydd yr eiconau o Gymru Tom Jones a Katherine Jenkins a’r artist rhyngwladol hynod boblogaidd Gregory Porter oll yn perfformio mewn prif gyngherddau yn ystod wythnos graidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2024.

 

Wrth i restr lawn y digwyddiadau gael ei chyhoeddi heddiw, datgelir y bydd yr eicon cerddorol Tom Jones yn cyflwyno cyngerdd agoriadol wythnos graidd yr Eisteddfod ym Mhafiliwn Llangollen ar ddydd Mawrth Gorffennaf 2il, gan gychwyn chwe diwrnod o gyngherddau gyda’r nos, gyda’r mezzo-soprano Katherine Jenkins yn cau’r wythnos ar Ddydd Sul 7fed.

 

Rhwng y dyddiadau hyn gall y cynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau gyda’r nos, yn cynnwys y band gwerin arobryn Calan, y delynores frenhinol Alis Huws, ffefrynnau Britain’s Got Talent John’s Boys Male Chorus, sêr y West End a Broadway Kerry Ellis a John-Owen Jones, a’r seren jazz sydd wedi ennill gwobr GRAMMY ddwy waith, Gregory Porter.

 

Mae’r tocynnau’n mynd ar werth am 9am Ddydd Gwener Rhagfyr 8 o llangollen.net

Mae wythnos graidd yr ŵyl heddwch eiconig yn dychwelyd o Ddydd Mawrth Gorffennaf 2il hyd ddydd Sul Gorffennaf 7fed 2024.

 

Yn cychwyn yr wythnos o ddigwyddiadau, sy’n dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o’r byd, bydd y canwr o fri Tom Jones ar Ddydd Mawrth 2il. Mae’r eicon rhyngwladol sydd wedi ennill sawl gwobr yn dod â’i sioe hynod boblogaidd, Ages and Stages, yma i gynnal noson sy’n siŵr o fod yn fythgofiadwy ac yn llawn o hoff ganeuon pawb.

 

Ar Ddydd Mercher y 3ydd, bydd dathliad o gerddoriaeth Gymreig gyda Chymru’n Croesawu’r Byd  yn cynnwys y band gwerin o Gymru, Calan, y delynores frenhinol Alis Huws, a Chôr Dynion John’s Boys, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent ar ITV yn 2023.

 

Bydd cefnogwyr theatr gerdd wrth eu boddau Ddydd Iau 4ydd pan fydd y sêr Kerry Ellis a John Owen-Jones, yn perfformio noson o glasuron Broadway a’r West End yn Direct From The West End.

 

Ac ar Ddydd Gwener y 5ed bydd Gregory Porter yn dychwelyd yn orfoleddus i Langollen. Mae Gregory yn cael ei ystyried, yn haeddiannol iawn, yn ganwr-cyfansoddwr jazz mwyaf teimladwy ei genhedlaeth ac, ers iddo ddod yn enwog bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi dod yn seren annwyl iawn yn ffurfafen ddiwylliannol Prydain. Mae’r canwr hwn o California wedi chwarae mewn amrywiol wyliau, yn cynnwys Glastonbury, lle syfrdanodd ei gynulleidfa ar y Llwyfan Pyramid, a Live in Hyde Park Radio 2, ac yn awr mae ar ei ffordd i Langollen.

 

Mae’r corau, y grwpiau dawnsio a’r sêr operatig ifanc gorau un yn cystadlu am wobrau uchaf yr Eisteddfod, yn cynnwys y wobr y dyheir amdani, Tlws Pavarotti gyda Chôr y Byd ar Ddydd Sadwrn 6ed.

 

Yn cau’r wythnos bydd cyngerdd gwylaidd clasurol gyda Katherine Jenkins yn arwain – a hi, yn swyddogol, yw cantores glasurol fwyaf llwyddiannus y byd wedi iddi gael ei choroni’n ‘Artist Clasurol y Ganrif a Werthwyd Orau’ gan Classic FM. Mae hi’n artist recordio hynod o lwyddiannus sydd wedi torri’r recordiau yn deilchion drwy gael 14 albwm rhif 1 a pherfformio i filoedd o filwyr Prydeinig sy’n gwasanaethu dramor yn ogystal â Phabau, Arlywyddion a Thywysogion mewn gyrfa anhygoel dros 20 mlynedd.

 

Y prif sioeau gyda Tom Jones, Katherine Jenkins a Gregory Porter yw’r diweddaraf i gael eu cyhoeddi yn rhan o bartneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation Cuffe & Taylor. Mae cyfres o gyngherddau sy’n digwydd y naill ochr a’r llall i’r wythnos wedi cael eu cyhoeddi’n barod, yn cynnwys Madness, Kaiser Chiefs, Manic Street Preachers a Suede, Paloma Faith, Jess Glynne a Nile Rodgers & CHIC ac mae mwy i ddod.

 

Meddai Is-gadeirydd yr ŵyl Chris Adams: “Eleni, rydym wedi mynd i bartneriaeth â’r hyrwyddwyr Cuffe & Taylor, ac mae pobl yn gweld yn barod yr artistiaid rhyngwladol yr ydym yn eu tynnu i Langollen cyn ac ar ôl ein Heisteddfod graidd. Mae ein gŵyl graidd yn ateb popeth y mae ein cefnogwyr hirdymor wedi dod i’w ddisgwyl gan ein gŵyl heddwch, a mwy.”

 

Ychwanegodd Rheolwr Cynhyrchu a Rhaglennydd Arweiniol Eisteddfod Llangollen, Dave Danford: “Wythnos graidd yr Eisteddfod yw canolbwynt ein gweithgareddau bob blwyddyn, ac yn 2024 bydd yn fwy ac yn well nag erioed. Rydym wedi ymroi i gadw pob un o’r elfennau y mae ein cefnogwyr ffyddlon yn eu disgwyl, fel Côr y Byd ar y nos Sadwrn, sy’n gweithio’n wych ochr yn ochr â’r artistiaid byd-enwog sydd gennym yn dod i berfformio.

 

“Does dim amheuaeth fod y rhaglen yr ydym yn ei chyhoeddi heddiw’n cyfuno elfennau gorau ein traddodiadau Eisteddfodol gyda disgwyliadau cynulleidfaoedd modern. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ffrindiau yn hen a newydd i Langollen ym mis Gorffennaf.”

 

Ac meddai cyd-sylfaenydd Cuff & Taylor, Peter Taylor: “Mae’n gyffrous bod yn rhan o wythnos mor bwysig yng nghalendr Gogledd Cymru. Rydym yn cymeradwyo gwaith diflino tîm yr Eisteddfod ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw i ddarparu eu gweithgareddau tra byddent yn parhau i ddenu enwau adnabyddus i berfformio yn y rhan brydferth hon o’r wlad.”