Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn croesawu Cyfarwyddwr Cerdd newydd

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi mai Vicky Yannoula fydd ei 8fed Cyfarwyddwr Cerdd a’r cynrychiolydd cyntaf o Wlad Groeg i dderbyn y swydd fawreddog.

Yn gerddor talentog gyda phrofiad rhyngwladol, mae Vicky yn ymuno gyda thîm Eisteddfod Llangollen ar ôl gweithio gyda sefydliadau fel Trinity College Llundain, Prifysgol Middlesex ac Ymddiriedolaeth Drake Calleja. Bydd yn olynu Eilir Owen Griffiths ar ôl ei gyfnod o chwe blynedd wrth y llyw.

“Cyn gynted ag y gwelais i’r swydd yn cael ei hysbysebu, fe ges i fy nenu ati”, meddai Vicky. “Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd âg Eisteddfod Llangollen gan fod ganddi le arbennig iawn yn y calendr cerddorol.

“Mae gwerthoedd craidd yr Eisteddfod a’i rôl fel dathliad amlddiwylliannol o heddwch yn ysbrydoliaeth i mi, felly mae cael fy mhenodi i ddilyn yn ôl traed sawl cyfarwyddwr cerdd talentog yn fraint enfawr.

Ers symud o Corfu i Lundain yn 1995 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, mae dawn gerddorol Vicky wedi ei harwain at ymddangosiadau nodedig fel pianydd ar lwyfannau ar draws y byd ac at gyd-weithio gydag ystod eang o artistiaid rhyngwladol. Mae ei CV trawiadol hefyd yn cynnwys profiad fel tiwtor, artist recordio, rheolwr ac entrepreneur.

Ychwanegodd Vicky: “Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi bod yn ffodus i gael bod yn rhan o sawl perfformiad, prosiect addysgol a swyddi rheoli o fewn y byd cerddorol. Dyma yw fy mhleser a’m harbenigedd – fel cerddor a rheolwr – ac alla’ i ddim disgwyl i wneud y mwyaf ohonyn nhw yn y swydd.

“Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy mhenodi. Mae treftadaeth a phresenoldeb rhyngwladol y corff – ynghyd â gweledigaeth ac angerdd y tîm – yn ysbrydoliaeth fawr i mi.

“Rwy’n ffodus iawn i gael ymuno hefo’r criw arbennig yma ac yn falch iawn o gael cyd-weithio gyda nhw tuag at Eisteddfod Ryngwladol ddeinamig yn 2018.”

Mae profiad eang ac amrywiol Vicky, ynghyd a’i chefndir rhyngwladol perthnasol, yn cynrychioli cyfle cyffrous yn natblygiad Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd Dr Rhys Davies, Cadeirydd yr ŵyl: “Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd gan dawn gerddorol Vicky i’w gynnig i’r ŵyl nesaf a sut y bydd ei phrofiad eang yn cryfhau presenoldeb yr Eisteddfod Ryngwladol ar y llwyfan rhyngwladol.

“Fe fydd ei chefndir trawiadol yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn genedlaethol a rhyngwladol”.

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am luniau, cysylltwch â nikki@thinkdewinter.co.uk neu caitlin@thinkdewinter.co.uk neu galwch 0151 363 8650.