Mae Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig sy’n haeddu cefnogaeth yn ôl Gweinidog

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig yng Nghymru, sy’n haeddu cefnogaeth gan y Llywodraeth a’r sector preifat, yn ôl cyn-wleidydd a Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Nick Bourne, Arweinydd blaenorol y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cymru ac Is-weinidog presennol yn y Swyddfa Gymreig: “Mae’r Eisteddfod yn hollbwysig i Gymru. Mae’n un o’r eiconau diwylliannol sydd gennym, ochr yn ochr â’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’n bwysig yn lleol i Langollen ac i Gymru gyfan, ac mae gan bobl falchder haeddiannol yn yr ŵyl.

“Mae’n bwysig ei bod yn cael ei chefnogi gan y Llywodraeth a’r sector preifat ac mae’n dda gweld cwmnïau fel Scottish Power a ffrindiau eraill yr Eisteddfod a busnesau yn cyfrannu ati.”

Ymwelydd arall i’r digwyddiad oedd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol Cymru, sydd ag atgofion melys o gystadlu yn yr Eisteddfod gyda’i ysgol gynradd o Aberystwyth.

Meddai: “Cafodd yr Eisteddfod a Cymorth Cristnogol eu sefydlu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac rydym bellach yn 70 oed ac mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal am y 70ain tro.

“Mae gennym argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop ar raddfa nad ydym wedi gweld ers 70 o flynyddoedd, ac mae cyfrifoldeb ar ein cenhedlaeth ni i wneud rhywbeth am sefyllfa’r bobl hyn.

“Mae’r refferendwm wedi rhyddhau ofn pobl o ddieithriaid a’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud fel Cristnogion yw dangos bod amrywiaeth diwylliannol yn beth da a dyna pam mae’r Eisteddfod mor bwysig yn uno pobl ar draws diwylliannau ac ieithoedd gwahanol.

“Rwy’n cofio dod yma yn blentyn gyda fy ysgol ac mae’n parhau i fod yn fwrlwm diwylliannol gwych ac yn ffenestr ar y byd.”