Manic Street Preachers yn meddiannu llwyfan Llanfest 2017

Band roc eiconig yn cloi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda diweddglo tanllyd

Fe ddaeth Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddiweddglo mawreddog neithiwr gyda set gan y band roc Cymreig Manic Street Preachers yn Llanfest 2017.

Bu i ymddangosiad cyntaf un y grŵp yn Llangollen godi to’r Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol wrth iddyn nhw berfformio rhai o’u clasuron, gan gynnwys Everything Must Go, If You Tolerate This Your Children Will Be Next, a A Design For Life.

Fe gafodd y gynulleidfa yn Llanfest eu diddanu gan holl aelodau’r band, ar ôl i’r chwaraewr bâs Nicky Wire orfod methu gig yng ngŵyl MadCool ym Madrid ar ddydd Sadwrn [8fed Gorffennaf] yn sgil salwch teuluol.

Dechreuodd y pnawn gydag amryw o berfformiadau gan fandiau newydd a chyfoes ar lwyfannau agored maes yr Eisteddfod. Yna, fe wnaeth set egnïol gan y DJ Radio 1 Huw Stephens, arwain at i’r gynulleidfa yn y pafiliwn a’r tu allan ddechrau bownsio ar eu traed.

Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod Ryngwladol gael gwared â seddi o gefn y pafiliwn i wneud lle, gan fod galw mor uchel am docynnau.

Nesa’ i berfformio ar y noson oedd y Reverend and The Makers, fu’n canu rhai o’u caneuon enwocaf, fel Heavyweight Champion of the World a Out of the Shadows –  “blas tamaid” i brif gwrs y Manics, yn ôl y prif leisydd Jon McClure.

A wnaeth y prif gwrs ddim siomi. Roedd awyrgylch trydanol yn y pafiliwn llawn wrth i’r Manics feddiannu’r llwyfan ac agor eu set gyda Motorcycle Emptiness o 1992 a Everything Must Go – gan godi’r gynulleidfa ar ei thraed yn syth.   

Wrth i’r band arddangos ei storfa drawiadol o glasuron, fe ddaeth i’r amlwg mai rhai o ffefrynnau’r gynulleidfa oedd You Stole the Sun, Kevin Carter a If You Tolerate This Then Your Children Will Be Next.

Yna, wrth agosáu at ddiwedd y set wefreiddiol, fe wnaeth y Manics arafu’r tempo ryw ychydig gyda fersiynau acwstig o This Sullen Welsh Heart a 30 Year War, cyn adeiladu at uchafbwynt arall gyda You Love Us, Tsunami a Show Me The Wonder.

Fe groesawyd cordiau agoriadol y gân olaf gyda chymeradwyaeth fyddarol o bob cwr o’r pafiliwn, ac fe ddaeth y noson i ben gyda’r anthem Design For Life – i gyfeiliant lleisiau’r cannoedd o gefnogwyr.

Roedd yn ddiweddglo mawreddog i ddathliadau 70ain yr ŵyl, a oedd eisoes wedi clywed gan artistiaid byd-enwog eraill gan gynwys Gregory Porter, Only Boys Aloud, Syr Bryn Terfel, The Overtones, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca, Reverend and The Makers a’r DJ BBC Radio 1, Huw Stephens.

Trefn y Noson

Motorcycle Emptiness

Everything Must Go

Your Love Alone

Walk Me To The Bridge

Indian Summer

You Stole the Sun

This is The Day

Kevin Carter

Found That Soul

2nd Great Depression

No Surface All Feeling

If You Tolerate This Then Your Children Will Be Next

This Sullen Welsh Heart (acwstig)

30 Year War (acwstig)

You Love Us

Ocean Spray

Tsunami

Show Me The Wonder

Design For Life

I archebu tocynnau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, neu am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Llangollen.net