
Cyn-gyfreithwraig o Gaer yw’r person newydd sy’n gyfrifol am y gwaith o redeg un o wyliau cerddorol mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig.
Mae Sian Eagar wedi ymgymryd â swydd newydd Rheolwr Gweithrediadau gŵyl nodedig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n cael ei llwyfannu yn y dref fechan yn Sir Ddinbych am y 70ain tro ym mis Gorffennaf eleni.
Bydd Sian, sy’n byw yn Boughton, Caer, yn camu i’r swydd ar ôl 25 mlynedd fel un o’r fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi helpu i redeg y digwyddiad ers 1947.
Un o’r gwirfoddolwyr hynny oedd ei thaid, Dr Gwilym Benjamin, meddyg teulu yn Llangollen ac un o sylfaenwyr yr ŵyl a gododd o lwch yr Ail Ryfel Byd, gyda’r nod o hyrwyddo heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol.
Mae’r cyn-arbenigwraig ar drawsgludo gyda chwmni cyfreithiol Russell and Russell o ddinas Caer yn dod yn wreiddiol o Weston Rhyn, ger Croesoswallt, ac mae ei mam, Ann, yn dal i wirfoddoli gyda’r Eisteddfod.
Bu Sian yn Ysgrifennydd Cwmni’r Eisteddfod am ddwy flynedd. Swydd wirfoddol oedd honno, ond erbyn hyn fel swyddog cyflogedig hi fydd yn gyfrifol am redeg Swyddfa’r Eisteddfod o ddydd i ddydd, ynghyd â chydlynu gwaith swyddogion, staff a’r fyddin o wirfoddolwyr gweithgar sy’n cynorthwyo’r Eisteddfod.

Sian Eagar, newly appointed Operations Manager at the Llangollen International Musical Eisteddfod.
Dywedodd: “Os yw’ bwrdd yn gwneud penderfyniad fy nhasg i fydd ei roi ar waith a gwneud i bethau ddigwydd.
“Mae’n deg dweud bod gen i wybodaeth ymarferol dda ynglŷn â sut mae’r cyfan yn gweithredu gan fy mod wedi bod yn wirfoddolwr ers pan oeddwn i’n 12 oed, ac wedi tyfu i fyny gyda’r Eisteddfod.
“Mae yn fy ngwaed. Roedd nain a taid, mam a dad, fy modryb a fy ewythr i gyd yn wirfoddolwyr. Mae fy mam yn dal i fod ar y pwyllgor blodau a bu fy ewythr, Gareth Benjamin, yn rheolwr llwyfan am flynyddoedd lawer.
“Un o fy atgofion cynharaf yw eistedd yn nhŷ taid a nain yn Llangollen yn aros i mam a dad ddod yn ôl o un o gyngherddau’r Eisteddfod.
“Cyn i’r Pafiliwn gael ei adeiladu, rwy’n cofio mai mewn pabell enfawr oedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ac fel plant roeddem yn arfer eistedd ar y glaswellt yn yr eiliau.
“Roeddwn bob amser yn hoffi’r dawnsio oherwydd y wledd o liw a sioe ac roeddwn yn arfer gofyn i’r cystadleuwyr am eu llofnod.
“Roeddwn yn negesydd gyda’r bobl cerddoriaeth a llwyfannu ac yna ar un adeg bûm yn helpu yn y siop recordiau lle’r oeddent yn arfer gwerthu casetiau sain o berfformiadau’r cystadleuwyr.”
“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan mor bwysig o fy mywyd ac wedi arwain at amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol na fyddwn i byth wedi eu cael fel arall.
“Pan feddyliwch chi am yr artistiaid gwych rydym wedi eu cael yma, ac sy’n parhau i ddod a gweld yr ymdrech fawr y mae’r cystadleuwyr yn ei wneud dim ond i gyrraedd yma a’r trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu.
“Y llynedd cawsom bobl yn teithio yma o Nepal ar ôl y ddaeargryn drychinebus ac rwy’n cofio pobl o wledydd y Balcanau a oedd yn ymarfer ar gyfer yr ŵyl tra’n cael eu bomio ac yn dal yn awyddus i ddod yma.”
Bellach mae Sian wedi rhoi’r gorau i’r gyfraith ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr her newydd sydd o’i blaen ac meddai: “Rwyf wedi bod yn gwneud gradd astudiaethau busnes rhan amser drwy’r Brifysgol Agored a fydd gobeithio yn help i mi yn fy swydd newydd.
“Rwy’n gobeithio fod gen i rywfaint o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau a sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a gwella.
“Yr her fwyaf yw sicrhau bod pobl yn gwybod ac yn deall perthnasedd neges yr Eisteddfod,ei bod yn hyrwyddo

Llangollen International music Eisteddfod … Pictured is Sian Eagar.
heddwch a chytgord ac nad yw’n ddigwyddiad Cymreig ond yn ddathliad o amrywiaeth diwylliannol byd-eang.
“Nid lleoliad cyngerdd yn unig ydan ni. Mae yna neges y tu ôl i’r hyn rydym yn ceisio ei wneud ac mae’n ymwneud â heddwch a chytgord a dealltwriaeth ac mae hynny’n fwy gwir nag erioed o ystyried y trafferthion sydd yn y byd.”
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet gyda’r tenor Americanaidd Noah Stewart.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. Tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.