Cyfarwyddwr Cerdd newydd yn galw am unawdwyr talentog

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi mai Dr Edward-Rhys Harry fydd y nawfed cyfarwyddwr cerdd i ymuno â’r ŵyl, fydd yn rhedeg o 1af – 7fed Gorffennaf 2019.

Adnabyddir Edward yn rhyngwladol am ei allu i ysbrydoli trwy bŵer cerddoriaeth a’r celfyddydau creadigol, ac mae nawr yn gobeithio annog y genhedlaeth nesaf o unawdwyr yn Eisteddfod Llangollen 2019.

Wedi iddo raddio o Brifysgol Aberdeen gyda Doethuriaeth mewn Athroniaeth, mewn Cyfansoddi Corawl, mae Edward yn berchen ar CV arbennig iawn, sy’n cynnwys cyrraedd rhif 3 yn y siartiau clasurol yn 2016 a hyfforddi’r ‘Emyn Olympaidd’ yn Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Ond erbyn hyn, mae Edward yn gobeithio ysbrydoli unawdwyr i gofrestru ac ymuno yn hwyl Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cyn y dyddiad cau ar 1af Mawrth. Gall ymgeiswyr llwyddiannus gystadlu am ystod eang o wobrau mawreddog gan gynnwys cyfle i berfformio yn Eisteddfod y Gold Coast yn Awstralia, sy’n rhoi llwyfan i tua 66,000 o gystadleuwyr dros gyfnod o saith wythnos.

Yn ôl cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Edward-Rhys Harry: “Rwy’n ffodus fod fy ngyrfa wedi mynd a fi o amgylch y byd, sy’n golygu bod gen i gysylltiad clos gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wrth ddychwelyd i wlad fy mebyd ag i Langollen, tref sy’n croesawu’r byd bob blwyddyn”.

Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Fel tîm, rydym wrth ein boddau bod rhywun o statws Edward yn ymuno â ni. Mae’n gyffrous meddwl i ba gyfeiriad fydd o’n ein tywys.

“Rydym yn gobeithio manteisio ar brofiad rhyngwladol gwerthfawr Edward i ehangu enw da’r Eisteddfod Ryngwladol ymhellach ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym yn cefnogi galwad Edward am i fwy o unawdwyr gofrestru ac yn edrych ymlaen at groesawu’r rheiny fydd yn falch o gael cyfle i arddangos eu doniau.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i gofrestru i fod yn rhan o’r ŵyl trwy wefan cyfranogwyr yr Eisteddfod, ewch i: http://eisteddfodcompetitions.co.uk/2019-solo-competitions/