Chwilio am sêr canu’r dyfodol

Mae “soprano ifanc, hynod ddawnus” wedi lansio cystadleuaeth i ddarganfod cantorion ifanc mwyaf talentog yn y byd.

Yn ôl Charlotte Hoather, 24 oed, roedd ennill cystadleuaeth fawreddog Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y llynedd wedi agor cyfleoedd newydd iddi ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywed y trefnwyr bod ceisiadau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eisoes yn llifo i mewn, gyda gwobr o £5,000 i’r enillydd, ynghyd â siec o £2,000 i’r cystadleuydd yn yr ail safle.

Bob blwyddyn mae Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy yn croesawu tua 4,000 o berfformwyr rhyngwladol a thua 50,000 o ymwelwyr i’r ŵyl o gerddoriaeth a dawns sy’n parhau am wythnos.

Un o  uchafbwyntiau’r ŵyl yw cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, sy’n arddangos doniau ifanc o bob cwr o’r byd ynghyd â pherfformwyr profiadol.

Unwaith eto mae sefydliad gofal Parc Pendine, sy’n rhoi lle amlwg i’r celfyddydau, yn cyfrannu £5,000 i gronfa’r wobr a thlws arian prydferth drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, gyda gweddill y wobr yn dod o sefydliad Syr Bryn Terfel ac Eisteddfod Llangollen.

Yn dilyn ei phrofiad y llynedd, wnaeth drawsnewid ei bywyd, mae Charlotte, o Winsford yn Swydd Gaer, yn annog unawdwyr eraill i beidio methu’r dyddiad cau ar y 1af o Fawrth ar gyfer cymryd rhan.

Bydd y drefn ychydig yn wahanol eleni, gyda’r rhagbrofion yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Llangollen ar ddydd Mawrth, yr 2il o Orffennaf.

Cynhelir y rownd gynderfynol wedyn ar lwyfan y pafiliwn y diwrnod canlynol, gyda’r  ddau berfformiwr gorau yn mynd benben â’i gilydd mewn cyngerdd gyda’r hwyr fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu.

Dywedodd Charlotte, a gafodd ei hyfforddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol: “Rhoddodd y gystadleuaeth hon hwb enfawr i mi. Mae wedi bod yn wych i fy hyder gan fy helpu i wthio’r ffiniau o ran lle gallaf fynd a beth y gallaf ei wneud. A rhoddodd y wobr ariannol gyfle enfawr i mi hefyd i wella fy ngyrfa.

“Mi wnaeth yr arian fy ngalluogi i hedfan draw i Efrog Newydd er mwyn cael clyweliad ar gyfer Opera Pittsburgh a mynychu digwyddiad yn Nhŷ Opera’r Metropolitan, ac rwyf hefyd yn hedfan i Seoul, De Corea ar ddiwedd mis Mawrth ar gyfer cystadleuaeth arall, sy’n gyffrous iawn.”

Ychwanegodd Charlotte, a enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Gonservatoire Brenhinol yr Alban: “Byddwn yn annog unrhyw ganwr ifanc i roi cynnig arni.

“Mae ennill y gystadleuaeth yn rhywbeth sy’n trawsnewid bywyd. Mae wedi fy helpu i gymryd mwy o risgiau a theithio’n rhyngwladol i gael cyfleodd fel canwr proffesiynol.”

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Cefias gyfle i berfformio  rôl Uccelina in Paris ar daith gyda Théâtre du Châtelet, ac mi wnes i ymddangos yn Nhŷ Opera’r Metropolitan yn yr un rôl, ac yna teithio Ucheldiroedd Yr Alban yn perfformio rhan Bambino i Opera’r Alban.

“Mi wnes i hefyd berfformio yng Ngŵyl Opera Waterperry, sy’n cael ei noddi gan Jonathan Dove, cyfansoddwr Mansfield Park, a byddaf yn perfformio yno unwaith eto ym mis Gorffennaf eleni.

“Roeddwn hefyd yn unawdydd gwadd yng nghyngerdd Cofio Tideswell, ac mi wnes i ganu mewn datganiad o Rachmaninov yn Nhŷ Pushkin yn Bloomsbury, Llundain. Yn fwy diweddar cyrhaeddais y rownd gogynderfynol mewn cystadleuaeth Canu Rhyngwladol yn Nulyn. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur!”

Roedd llwyddiant Charlotte yn fiwsig i glustiau perchnogion Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill.

Dywedodd Mr Kreft: “Dyma drydedd flwyddyn cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine ac mae’r safon yn gwella bob blwyddyn. Roedd enillydd y llynedd, Charlotte Hoather, yn eithriadol ac yn enillydd teilwng iawn.

“Mae hi’n soprano hynod o ddawnus ac mae’r gystadleuaeth wedi agor y drws iddi i ddyfodol disglair iawn.

“Ein bwriad wrth gefnogi’r gystadleuaeth ar y cyd â Sefydliad Syr Bryn Terfel yw darparu llwyfan a chyfle i gantorion ifanc gwych o bedwar ban byd i gyflawni eu breuddwydion o sefydlu gyrfa ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae Syr Bryn ei hun yn brawf bod talent yn medru mynd â chi yn bell iawn ac rydym wrth ein boddau gallu gwneud ein rhan i helpu cantorion ifanc talentog i gyrraedd uchelfannau newydd.

“Mae’r gystadleuaeth yn gweddu’n berffaith gyda’n hethos ni ym Mharc Pendine, oherwydd y celfyddydau yn gyffredinol, a cherddoriaeth yn benodol, yw’r llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth a wnawn i wella bywydau ein preswylwyr a’n staff.”

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Edward-Rhys Harry: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine am eu cefnogaeth barhaus i’r gystadleuaeth ryngwladol hon.

“Rwy’n gwybod fod y gystadleuaeth wedi rhoi hwb sylweddol i yrfa Charlotte Hoather, enillydd y llynedd, a’r ffordd y mae hi wedi defnyddio’r wobr ariannol i hyrwyddo ei gyrfa.

“Mae’n gyfle enfawr i berfformio o flaen cynulleidfa fawr ac yn fyw ar y teledu. Mae fy nghyngor i yn syml iawn, os ydych yn ganŵ ifanc rhwng 19 a 28 oed ac yn meddwl eich bod chi’n ddigon da, yna ewch amdani.

“Ewch i mewn i’r gystadleuaeth gyda dewrder ac argyhoeddiad a hyd yn oed os na wnewch chi gyrraedd y rownd derfynol, doed a ddêl mi fydd wedi bod yn wers amhrisiadwy ac yn brofiad gwych.”

“Mae’r gystadleuaeth hon yn rhywbeth y mae angen i ni ei feithrin, a diolch i gefnogaeth Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, mae artistiaid ifanc yn cael cyfle i wella eu gyrfaoedd.

“Mae’n sicr yn gystadleuaeth yr wyf yn edrych ymlaen yn eiddgar ati ac mae’n addo i fod yn un o uchafbwyntiau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol eleni. Ac agwedd newydd arall y gystadleuaeth yw’r cyfle a gaiff yr enillydd i berfformio mewn lleoliadau eraill. Felly mae’r gystadleuaeth yn codi i lefel uwch eto.

I ddarganfod mwy am y gystadlaethau ewch i www.eisteddfodcompetitions.co.uk