Ceisiadau ar gyfer Gwobr Heddwch Rotary Rhyngwladol yn agor

Mae Gwobr Heddwch Rotary Rhyngwladol, sy’n cydnabod mentrau heddwch ym Mhrydain a ledled y byd, nawr yn derbyn enwebiadau hyd nes Ebrill 30ain 2019.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn annog holl aelodau’r gymuned i gyflwyno manylion am unigolion neu gwmnïau sy’n gyfrifol am hyrwyddo heddwch , am gyfle i dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.

Fe fydd y wobr yn cael ei chyflwyno gan Rotary Rhyngwladol, a’i chefnogi gan y noddwr Westminster Stone.

Dyma fydd y bedwaredd flwyddyn i’r Eisteddfod Ryngwladol gydweithio gyda Rotary Rhyngwadol i gyflwyno’r wobr fawreddog. Fel un o fentrau dyngarol mwyaf y byd, mae’r bartneriaeth rhwng y Rotary a’r Eisteddfod yn ddelfrydol a’r Wobr Heddwch yn estyniad rhesymegol i amcanion yr ŵyl unigryw, a sefydlwyd i hybu heddwch a harmoni rhwng y cenhedloedd.

Fe fydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i dref brydferth Llangollen, Gogledd Cymru, lle bydd enillydd 2019 yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol ar ddydd Iau 4ydd Gorffennaf, yn dilyn noson o ddathliad rhyngwladol – rhywbeth y mae Eisteddfod Llangollen yn adnabyddus amdano.

Eleni, fe fydd Dr Waheed Arian yn ymuno a’r panel beirniadu wedi iddo ennill y Wobr Heddwch ysbrydoledig y llynedd.

Cafodd Dr Waheed Arian a Sefydliad Arian eu cydnabod am gynllun arloesol Arian Teleheal, sy’n galluogi meddygon gwirfoddol ym Mhrydain, yr UDA a gwledydd eraill i gysylltu â’i gilydd gan ddefnyddio ffonau symudol, Skype neu WhatsApp – er mwyn cynnal trafodaethau ar y gofal gorau i gleifion.

Yn siarad ar ôl i’r Wobr Ryngwladol gael ei chyflwyno ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, dywedodd Dr. Arian: “Fe wnes i sefydlu Arian Teleheal fel bod pobl ledled y byd sy’n byw mewn amodau erchyll, yn medru elwa o ofal iechyd safonol trwy ddefnyddio technoleg bob dydd i gryfhau cysylltiadau.

“Mae ein meddygon gwirfoddol yn llwyr deilwng o’r Wobr Heddwch yma, sy’n cael ei chyflwyno i bob un ohonyn nhw, a’r holl feddygon yn y gwledydd maen nhw’n eu helpu.”

Mae’r beirniaid eleni hefyd yn cynnwys Richard Hazlehurst o Ganolfan Heddwch Bradford, a sefydlydd Prosiect Heddwch y Rotary, Jean Best, a gydnabuwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2018 am ei gwaith.

Am fod mentrau heddwch yn dod mewn sawl ffurf, fe fydd y panel beirniadu yn ystyried budd cyhoeddus y prosiect, proffil a hirhoedledd y sefydliad neu unigolyn, ac effaith y gwaith.

I gyflwyno cais ar gyfer Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotary, gofynnir i chi yrru e-bost i Molly Youd at myoud@talktalk.net, yn cynnwys manylion am yr enwebiad ac unrhyw ddolenni cyswllt i wefannau neu wybodaeth cefnogol.  Rhaid cyflwyno cais erbyn Ebrill 30ain ac ni ellir ystyried ceisiadau ar ôl y dyddiad yma.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies: “Yn dilyn y gwaith ysbrydoledig a’r llwyddiant ysgubol dros y tair blynedd diwethaf, rydym unwaith eto yn falch iawn o gydnabod unigolion a sefydliadau sy’n gweithio mor galed i wneud gwahaniaeth trwy hybu heddwch yma ym Mhrydain ac ar draws y byd.

“Fe wnaeth y syniad gwreiddiol o greu Gwobr Heddwch Rotary Rhyngwladol flaguro yn Eisteddfod Llangollen bum mlynedd yn ôl. A gyda neges yr ŵyl o ledaenu heddwch, cyfeillgarwch ac ewyllys da ar hyd y cenhedloedd mor gryf ag erioed, mae’n bleser medru rhoi llwyfan i hyrwyddwyr heddwch mewn dathliad rhyngwladol.”

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gwobr Heddwch Rhyngwladol Rotary, cliciwch yma.