Côr gwreiddiol o 1947 i ymuno a Chorau’r Fron a’r Rhos ar gyfer cyngerdd dathlu 70ain

Cystadleuwyr gwreiddiol o Eisteddfod Ryngwladol 1947, Côr Meibion Dyffryn Colne, i ymuno â chorau meibion enwog Froncysyllte a Rhosllannerchrugog ar gyfer Cyngerdd Agoriadol Dathliadau 70ain yr ŵyl

Fe fydd côr meibion a berfformiodd yn yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf un yn 1947 yn canu gyda dau o gorau meibion mwyaf adnabyddus Cymru yng Nghyngerdd Agoriadol Dathliadau 70ain yr ŵyl eleni.

Bydd Côr Meibion Dyffryn Colne (Swydd Efrog) yn ymuno gyda chorau Froncysyllte (Fron) a Rhosllannerchrugog (Rhos) ar Orffennaf 3ydd. Mi fydd y tri chôr hefyd yn rhannu’r llwyfan gyda Chôr Meibion Canoldir, Band Pres Cory, yr arweinydd uchel ei barch Owain Arwel Hughes CBE, yr unawdydd ewffoniwm David Childs, ac enillydd Llais y Dyfodol 2015 Meinir Wyn Roberts mewn Cyngerdd Agoriadol pwerus.

                          Côr Meibion Froncysyllte

Mae’r arlwy yn cynnwys ffefrynnau clasurol, sawl corws operatig adnabyddus a rhai o emynau enwocaf Cymru, gan gynnwys Myfanwy, ac fe fydd y gyngerdd – a noddir ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Hamper Llangollen – yn ddathliad arbennig o offerynnau pres a lleisiau. Bydd yn sicr o osod y naws ar gyfer yr ŵyl wythnos o hyd sy’n dathlu ei phen-blwydd 70ain.

Fel yr Eisteddfod, mae Côr y Fron yn dathlu 70 mlynedd ers sefydlu eleni. Ffurfiwyd y côr yn 1947 ar ôl i’r sefydlwyr gael eu hysbrydoli gan yr ŵyl ryngwladol gyntaf erioed. Mae ei hanes yn adlewyrchu hanes yr Eisteddfod, gyda llawer o’r aelodau yn dod at ei gilydd ar ôl dychwelyd o’r rhyfel. Yn rhyfeddol, mae dau o’r aelodau gwreiddiol yn dal i ganu hefo’r côr hyd heddiw.

         Côr Meibion Rhosllanerchrugog

Yn ymuno â Chôr y Fron mae Côr Meibion y Rhos, un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru ac enillydd yr adran corau meibion yn Eisteddfod Ryngwladol 2015. Fe enillodd y côr hatric eithaf unigryw wrth ddod i’r brig yng nghystadlaethau côr meibion Eisteddfod Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol ac yng nghystadleuaeth Côr Cymru yn 2013. Ar ben yr holl gystadlu, mae’r côr wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i gefnogi elusennau lleol a rhyngwladol, gan godi miloedd o bunnau bob blwyddyn.

       Côr Meibion Canoldir

Fel dolen gysywllt â’r Eisteddfod gyntaf erioed, Côr Dyffryn Colne oedd y côr meibion cyntaf i ymddangos ar lwyfan yr ŵyl yn 1947 gan fynd ymlaen i fod yn un o gystadleuwyr mwyaf cyson yr Eisteddfod Ryngwladol. Mae gan y côr chwe gwobr gyntaf dan ei felt – gan gynnwys hatric yn 1960, 1961 ac 1962 – pump ail wobr a dwy trydedd wobr o fewn 23 ymweliad.

Côr meibion o Firmingham yw Canoldir a sefydlwyd yn Nhyddewi yn 1966 gan grŵp o allfudwyr Cymreig a’u cyfeillion, a nhw’n yw’r enw olaf ar raglen ardderchog y cyngerdd agoriadol.

Fe fydd y perfformiadau ar y noson yn gyfuniad eiconig o orffennol, presennol a dyfodol yr ŵyl gyda chorau meibion traddodiadol yn rhannu llwyfan hefo’r perfformwyr byd-enwog Cory Brass Band a David Childs, a’r gantores ifanc Meinir Wyn Roberts – a ddaeth i sylw’r cyhoedd ar ôl ennill Llais y Dyfodol yn 2015.

Derbyniodd Owain OBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth ac elusennau, ac fe’i hanrhydeddwyd ymhellach yn 2009 gyda CBE.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol: “Mae’r rhestr o berfformwyr ar gyfer y cyngerdd agoriadol yn gwbl anhygoel ac yn cyfuno hanes a threftadaeth yr Eisteddfod gyda thalent gerddorol fyd enwog.

“Mae hefyd yn pwysleisio’r cyfleon mae’r ŵyl yn ei roi i dalentau ifanc, gyda Meinir Wyn Roberts, enillydd cystadleuaeth Llais y Dyfodol 2015, yn mynd o gystadleuydd i berfformiwr mewn cwta ddwy flynedd.

“Ar ben hyn, rydym yn cael yr anrhydedd o groesawu côr wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf un yn ol i berfformio yn y dathliadau 70ain.

“Caiff hyn oll ei gyfuno a thalentau’r Cory Brass Band a David Childs, sy’n cael ei gydnabod fel un o brif dalentau byd pres y genhedlaeth hon, oll o dan arweinyddiaeth Owain Arwel Hughes CBE. Yn sicr, mae hi’n argoeli i fod yn agoriad gwych i ŵyl 2017.

Dywedodd Dr Mohammed Mehmet o Gyngor Sir Ddinbych: “Unwaith eto, mae’r Eisteddfod Ryngwladol wedi llunio lein-yp ddisglair ar gyfer y cyngerdd agoriadol. Fe fydd y cyngerdd yn arddangos talent gerddorol Gymreig arbennig ac allwn ni ddim aros i’w clywed. Rydym yn falch iawn o fod yn un o noddwyr yr Eisteddfod eto eleni.”

Ychwanegodd Bob Jaques o Hamper Llangollen, cyd-noddwr y gyngerdd: “Am ddechrau bendigedig i amserlen dathliadau 70ain yr Eisteddfod Ryngwladol. Rydym yn edrych ymlaen at noson o gerddoriaeth glasurol adnabyddus ac emynau Cymraeg pwerus i osod y naws ar gyfer gweddill yr wythnos”.

Mae’r gyngerdd nos Lun yn nodi cychwyn wythnos o gerddoriaeth, dawns, dathliadau a hwyl – fydd hefyd yn gweld perfformiadau gan Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca; Gregory Porter; The Overtones; Christopher Tin a Chorws Dathlu Llangllen; Manic Street Preachers; Reverend and The Makers a’r DJ Radio 1 Huw Stephens.

Hefyd ar y cae, bydd gweithgareddau teuluol – o ‘Adrodd Straeon Chwedlonol’, sgiliau syrcas a gweithdai swigod i grefftau ac offerynnau cerddorol mewn dwy babell.

Am fwy o wybodaeth neu i brynu ticedi i’r Eisteddfod a Llanfest, cliciwch yma.