Mae nifer y corau a chwmnïau dawnsio o dramor sy’n bwrw am ŵyl gerddorol ryngwladol eiconig Gogledd Cymru wedi cynyddu am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo heddwch a chytgord ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac sy’n dathlu carreg filltir hanesyddol y mis hwn, wedi gweld ymchwydd yn nifer y grwpiau sy’n cystadlu.
Yn fuan iawn, fe fydd cantorion a dawnswyr o Kyrgyzstan i California yn cyrraedd am y 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych
Mae wedi cael ei chynnal yn y dref brydferth gerllaw’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ers iddi gael ei sefydlu ym 1947 gan y newyddiadurwr enwog o Gymru, Harold Tudor. Ei weledigaeth oedd creu cynulliad diwylliannol mawreddog er mwyn helpu lleddfu creithiau’r rhyfel.
Bydd Cymru unwaith eto’n croesawu’r byd i’r dref fach ar lannau Dyfrdwy a bydd y cystadleuwyr eleni’n cynnwys grŵp dawnsio o Kyrgyzstan, y tro cyntaf i’r genedl honno yng Nghanol Asia anghysbell gael ei chynrychioli yn yr Eisteddfod.
Ymhlith y lleill mae parti o 93 o ynysoedd calypso Trinidad a Tobago, côr o California sydd wedi cefnogi’r Rolling Stones a rhai dawnswyr iau o Zimbabwe sydd ar fin creu argraff fawr ar yr ŵyl.
Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu’r byd unwaith eto ac rydym wedi’n calonogi’n fawr gan y cynnydd yn nifer y grwpiau, corau a chwmnïau dawnsio o dramor sy’n gwneud y daith yma.
“Mae’n parhau i fod yn ddigwyddiad rhyfeddol, lliwgar a go arbennig, sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, sy’n dal i lwyddo i ddenu cystadleuwyr o bedwar ban byd i’w cystadlaethau a sêr rhyngwladol i berfformio yn ei gyngherddau.”
Unwaith eto, mae cyngherddau’r nos yn brolio arlwy llawn sêr a fydd yn dechrau ar nos Fawrth gyda detholiad o Carmen gan Bizet yn cael ei ganu gan y soprano enwog America, Kate Aldrich, sy’n arwain cast clodwiw gan gynnwys y tenor gwych o Efrog Newydd sy’n gefnogwr mawr i Langollen, Noah Stewart, yn y cyngerdd agoriadol ar nos Fawrth, 5 Gorffennaf.
Bydd y thema operatig yn parhau pan fydd y bas-baritôn mawr o Gymru, Bryn Terfel, yn cael cwmni’r tenor hynod ddawnus o Falta, Joseph Calleja ar gyfer cyngerdd nos Iau.
Rhwng y ddau gyngerdd hyn, fe fydd cyngerdd Nos Fercher a fydd yn ddathliad o theatr gerddorol sy’n cynnwys Kerry Ellis, a elwir yn Brif Foneddiges y West End, a’r band dynion ifanc clasurol Collabro a enillodd gystadleuaeth Britain’s Got Talent yn 2014.
Bydd nos Wener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn rhoi gwledd o gerddoriaeth a dawns gan gystadleuwyr rhyngwladol gorau’r Eisteddfod gydag uchafbwynt ar ffurf cystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd yn y cyngerdd.
Bydd dydd Gwener yn gweld newid trefn oherwydd bydd Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, yn cael ei newid o ddydd Mawrth oherwydd bod ddisgwyl presenoldeb mwy o dorfeydd a mwy o gystadleuwyr.
Daw’r cystadlaethau i ben ar nos Sadwrn gyda chystadleuaeth enwog Côr y Byd lle bydd Tlws mawreddog Pavarotti i’w hennill. Bydd y gynulleidfa’n cael eu diddanu gan y grŵp lleisiol poblogaidd, y Swingle Singers, wrth i’r beirniaid bwyso a mesur.
Bydd diweddglo i’ch peri chi stompio’r traed hefyd wrth i Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm and Blues godi’r to ar y noson olaf, sef nos Sul, 10 Gorffennaf.
Camodd Kate Aldrich i’r adwy ar ôl i’r soprano Katherine Jenkins orfod tynnu’n ôl oherwydd firws ond mae hi’n un o enwau mwyaf y byd opera, ac wedi’i disgrifio gan y beirniaid fel “Carmen ei chenhedlaeth” ac mae wedi perfformio’r opera poblogaidd gyda’r tenor gwych o’r Almaen, Jonas Kaufmann, yn Opera’r Metropolitan yn Efrog Newydd.
Dywedodd: Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad eiconig ac alla i ddim aros i ddilyn yn ôl traed mawrion operatig fel Luciano Pavarotti sydd wedi camu ar lwyfan enwog y pafiliwn yn y gorffennol.
“Carmen yw un o’m hoff rolau ac rydw i wedi clywed bod y gynulleidfa yn Llangollen yn un llawn gwybodaeth a gwerthfawrogiad, felly rydw i’n edrych ymlaen at noson arbennig yn canu gyda Noah a’r cantorion dawnus eraill yn yr ensemble.”
Noddir y cyngerdd gan y sefydliad gofal sydd wrth eu bodd â’r celfyddydau, Parc Pendine, sydd â lleoliadau yn Wrecsam a Chaernarfon.
Mae’r bas-bariton nodedig o Gymru, Bryn Terfel, a gamodd i lwyfan Llangollen i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 60 oed yn ogystal ag ymddangos yn Sweeney Todd ddwy flynedd yn ôl, bob amser yn edrych ymlaen at ymddangos mewn gŵyl y mae’n ei disgrifio fel un unigryw.
Y tro hwn, bydd cerddorfa Sinfonia Cymru yn gyfeiliant i Bryn a Joseph Calleja, dan arweiniad Gareth Jones.
Dywedodd Bryn: “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad bendigedig ac rwy’n ddiolchgar o fod wedi cael cyfle arall i berfformio ar y llwyfan yma eto – ac mae’r ffaith fod Joseph Calleja yn ymuno â mi yn golygu fy mod i’n gwireddu breuddwyd.
“Y cyngerdd diwethaf i mi ymddangos ynddo gyda Joseph oedd yn ei wlad enedigol ym Malta, felly mae’n wych gweld Joseph yn dod i’m gwlad enedigol innau y tro hwn.”
Mae cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, ar ben ei ddigon gyda’r arlwy eleni a dywedodd: Mae’n addo bod yn noson wych ac er ein bod ni wedi colli Katherine i firws, mae gallu cael Kate yn ei lle yn hollol wych.
“Rydym yn gyffrous iawn hefyd y bydd Bryn Terfel a Joseph Calleja yn serennu yn ein 70ain cyngerdd gŵyl fawr. Bydd hi’n noson aruthrol o gerddoriaeth.
“Mae’n bwysig iawn i ni hefyd fod safon y cystadleuwyr yn uchel iawn ac mae hynny’n wir unwaith eto a’n bod ni hefyd yn cynnig platfform i ddoniau ifanc o Gymru ac o bedwar ban byd ac mae hynny’n fwy gwir nag erioed gyda rhai categorïau unawd cyffrous.”
Ac mae’r teimlad cadarnhaol hwnnw’n llifo allan o’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol i’r maes lle mae cannoedd o gystadleuwyr a miloedd o ymwelwyr yn tyrru wrth i gantorion, cerddorion a dawnswyr o Seland Newydd a Rwsia, Tsieina, India a De America gymysgu.
Gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth fyw, ymuno mewn gweithdai dawns neu amsugno’r awyrgylch llesmeiriol ar hyd yr wythnos wrth i gystadleuwyr o’r radd flaenaf berfformio mewn dathliad syfrdanol o ddiwylliannau gyda cherddoriaeth gorawl drawiadol a dawnsio traddodiadol bywiog yn y Pafiliwn, ar y llwyfannau awyr agored ac mewn perfformiadau digymell o gwmpas y maes i gyd.