Disgyblion o Ysgol Y Gwernant, Llangollen yn ymarfer cyn eu perfformiad o’r Neges Heddwch. Fe fydd y disgyblion lleol yn perfformio’r Neges Heddwch – uchafbwynt blynyddol yn yr ŵyl – ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, fel rhan o’r Dathliad Rhyngwladol. Fe fydd perfformiad hefyd yn cael ei gynnal yfory (4ydd Gorffennaf) yn ystod Diwrnod y Plant. Eleni mae’r neges – sydd wedi ei chyd-lynu gan gyn-weithiwr yr Eisteddfod Christine Dukes – yn adlewyrchu hanes yr Eisteddfod a’n benodol ei pherthynas gyda’r tywydd.