Dod o hyd i recordiad amhrisiadwy o Pavarotti yn archifau’r ŵyl.

Mae recordiad o’r côr a lawnsiodd yrfa y tenor o’r Eidal Luciano Pavarotti wedi dod i’r fei yn archifau’r ŵyl gerddorol eiconig.

Rheolwr Gweithrediadau’r ŵyl Sian Eagar ddaeth o hyd i’r recordiad CD oedd wedi ei guddio ymysg yr archifau yn swyddfeydd yr Eisteddfod.

Roedd Pavarotti yn ddarpar athro 19 oed pan ddaeth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda’i dad, Fernando yn 1955 i gystadlu fel rhan o Gorws Rossini o Modena.

Gadawsant yr ŵyl fel y côr buddugol, ac ar ôl mynd adre, penderfynodd Pavarotti taw cerddoriaeth fyddai trywydd ei yrfa, a hynny wedi ei sbarduno gyda’r fuddugoliaeth yn yn Llangollen.

Dychwelodd Pavarotti i Langollen yn 1995, gan nodi, “Rwyf bob amser yn dweud wrth y newyddiadurwyr pan maent yn gofyn i mi pa ddiwrnod yw’r un sydd yn sefyll allan yn y cof, a’r un ateb y maent yn ei gael bob tro  – sef y diwrnod yr enillais i’r gystadleuaeth yn Llangollen oherwydd roeddwn i gyda fy ffrindiau.”

Roedd Sian Eagar yn ferch ysgol oedd yn gwirfoddoli yn yr eisteddfod  pan ymwelodd Pavarotti â Llangollen yn 1995, a dywedodd “Roedd y CD ynghanol tomen o ddeunyddiau mewn basged, ac wedi ei ysgrifennu arno roedd Pavarotti 1955.

“Doedd gen i ddim syniad beth i’w feddwl, ac roeddwn ofn cyffroi yn ormodol, ond roedd yn ymddangos fel “y peth go iawn”, meddai.

“Roedd wedi cael ei gynhyrchu gan Awdurdod Datblygu Cymru yn 1991, gyda deunyddiau gan y BBC ac o 1955.

Luciano Pavarotti and his father, Fernando, in 1995.

“Yn y cyfnod hwnnw, byddai’r holl berfformiadau yn cael eu recordio a’u rhoi ar feinyl, felly gallai fod wedi cael  ei ail recordio o hwnnw fel rhan o’r paratoadau at ddychweliad Pavarotti i Langollen yn 1995.

“Mae tri thrac ar y CD, un yn recordiad o gynhadledd i’r wasg a gynhaliwyd gan Pavarotti yn 1991, lle mae gohebydd o BBC Wales yn gofyn iddo am Langollen ac am y ddwy gân a berfformiwyd gan y Corws Rossini yn 1955 – dydyn nhw ddim  yn hir iawn, ac nid yw ansawdd y recordiad yn arbennig, ond mae’n recordiad prin a hanesyddol.

“Rydym eisoes wedi gwneud copiau ohonynt ond fe fyddai’n ddiddorol gwybod os oes gan rhywun y copi o’r feinyl gwreiddiol o 1955.”

Roedd Pavarotti, a fu farw yn 2007, wedi ymuno gyda chôr lleol, oherwydd bod ei dad, pobydd wrth ei waith, yn aelod selog o’r côr.  Siaradai Pavarotti yn aml am yr effaith a gafodd ennill y gystadleuaeth efo côr Modena yn Eisteddfod Llangollen arno.

Y profiad hwnnw a benderfynodd ei ffawd, a dywedodd un tro – pe medrai ennill y wobr gyntaf honno gyda chôr bychan o Modena, yna y gallai gyflawni unrhywbeth

Yng nghartref Alice a William Griffiths, sef Beech House, Froncysyllte, yr arhosodd Pavarotti a’i dad yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a dywedodd am y profiad o aros gyda’r teulu Griffiths yn y Fron: “Rwy’n cofio’n dda y cartref yr arhosais ynddo.  Yr oeddwn wedi bod yn ymarfer fy Saesneg yr holl ffordd o’r Eidal,  ond ar ôl cyrraedd y tŷ yn Llangollen, a chyfarfod y teulu, doeddwn i ddim yn deall yr un gair.

“Doeddwn i ddim yn gwybod am yr iaith Gymraeg.  Hyd yn oed heddiw, rydwi’n credu fy mod yn lwcus nad oeddent yn ysgrifennu operau yn y Gymraeg – fe fyddwn i allan o waith.  Mae’n iaith amhosib i ni’r Eidalwyr ei dysgu.”

Roedd Pavarotti wedi dweud sawl gwaith am ei ddymuniad i gael dychwelyd i Langollen, ac yn wir fe wireddwyd ei freuddwyd pan ddaeth i serennu yn yr ŵyl honno yn 1995 – gan nodi 40 mlynedd ers ei ymweliad cyntaf â Gogledd Cymru.

Derbyniodd y gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd ar yr amod bod ei dad yn cael rhannu’r llywyddiaeth gydag o.  Dyna’r unig dro yn hanes yr Eisteddfod i ddau gael bod yn Llywydd y Dydd ar y cŷd.

Roedd cyn-Gadeirydd yr Eisteddfod, Gethin Davies yn dywysydd yn Eisteddfod yn 1955, ond yn anffodus nid oes ganddo unrhyw gof o’r Pavarotti ifanc.  Dywedodd “Roeddwn yn cadw dyddiadur y dyddiau hynny, ac roeddwn yn edrych arno yn ddiweddar – a’r cyfan sydd gen i ydyw ‘diwrnod y corau meibion heddiw – a chôr o’r Eidal a enillodd.’  Roedd gen i fwy o ddiddordeb yn fy nghariad ar y pryd!

“Mae gen i recordiad fideo o’r cyngerdd yn 1995 – ac rwy’n mwynhau ei wylio.  Mae ymddangos ar Sianel Sky Arts o dro i dro hefyd.”

Mae gwerthiant tocynnau ar gyfer y cyngherddau eleni yn mynd yn dda, gyda thocynnau cyngerdd nos Fawrth 5 Gorffennaf, lle bydd Katherine Jenkins yn agor y cyngerdd gyda Carmen gan Bizet yn gwerthu’n arbennig o dda.  Mi fydd yn gychwyn rhagorol i raglen wych.

Bryn Terfel fydd yn arwain y Cyngerdd Gala 70 ar y nos Iau, a hynny yn dilyn dathlu enillwyr Côr Plant y Byd.

Bydd y dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd, gyda gwledd o gerddoriaeth a dawns yn cael ei gyflwyno gan y cystadleuwyr rhyngwladol.  Uchafbwynt y diwrnod fydd cystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd yn y cyngerdd fin nos.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda dathliad Carnifal y Caribi, yn cael ei ddilyn gan Neges Heddwch Ryngwladol, fydd eleni yn cael ei gyflwyno gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Bydd newid i’r drefn ar gyfer y dydd Gwener, pan welir Gorymdaith y Cenhedloedd, fydd yn cael ei arwain gan Lywydd yr Eisteddfod Terry Waite.  Mae’r newid hwn yn y gobaith y bydd mwy o bobl a chystadleuwyr yn bresennol.

Mae’r dydd Sadwrn yn cael ei neilltuo ar gyfer y corau arobryn, gan gloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd, gyda’r corau yn ymgiprys am Dlws Pavarotti.  Dydd Sul bydd cyfle i bawb ymlacio yn Llanfest cyn y cyngerdd clo mawreddog.

Er mwyn archebu tocynnau ac am fwy o wybodaeth am ŵyl 2016, ewch i’r wefan www.international-eisteddfod.co.uk