Llanffest yn croesawu’r enwog Reverend and The Makers a’r DJ Radio 1 Huw Stephens i’r rhaglen

Nifer gyfyngedig o dicedi eistedd a sefyll sy’n weddill, wedi i berfformwyr eiconig ymuno â lein-yp Llanffest 2017

Cyhoeddwyd heddiw mai neb llai na’r band roc eiconig a dadleuol Reverend and The Makers a’r DJ Radio 1 Huw Stephens fydd yn cefnogi’r band Cymreig Manic Street Preachers yn gig Llanffest eleni.

Gyda dim ond ychydig o dicedi eistedd a sefyll yn weddill ar gyfer y diwrnod, mae gan gefnogwyr dal siawns i brynu ticedi i weld y perfformwyr byd-enwog yma.

Y band roc indie Reverend and The Makers a’r DJ Cymraeg Huw Stephens fydd yn gosod y naws ar gyfer perfformiadau’r nos, cyn i’r Manics feddiannu’r llwyfan a thynnu Llanffest, sy’n cael ei noddi gan Aldi, at ei therfyn.

Yn enwog am eu clasur o 2007 ‘Heavyweight Champion of the World’, fe fydd Reverend and The Makers yn sicr o roi perfformiad unigryw fydd, yn unol â’u personoliaethau chwareus, yn plesio ac yn synnu’r gynulleidfa. Fe fydden nhw hefyd yn rhoi blas o’u halbwm diweddaraf o 2015, Mirrors.

Mae Huw Stepehens yn adnabyddus am ei gyfraniadau wythnosol i raglenni BBC Radio 1 a BBC Cymru C2 ac fe fydd y DJ Cymraeg yn siŵr o ddod â chymysgedd eclectig ac ysbrydoledig o draciau a chaneuon newydd i Llanffest – gan adeiladu at yr hyn sydd i ddod.

Fel un sy’n frwdfrydig iawn am dalent newydd, bydd yn dod a blynyddoedd o brofiad cerddorol i’r Pafiliwn Rhyngwladol gan ymgorffori naws amrywiol yr ŵyl mewn set na ellid ei methu.

Fe fydd y diwrnod yn agor gyda pherfformiadau ar y llwyfannau awyr agored, gan artistiaid sy’n cynnwys Roving Crows, Army of Skanks, Ben Roberts, Buddy Holly and the Black Jacks, Captain Zed, Delta Radio, Full Circle, Living Sounds, Mr Blunders, Skeet Williams, Thunderbug, Tom Wilson a Y Gogs.

Bydd y rhaglen yn cynnig gwledd o ddiwylliant cerddorol i’r gynulleidfa gan roi cyfle iddyn nhw wrando ar eu hoff fandiau adnabyddus, yn ogystal â darganfod rhai newydd.

O 2yp ymlaen, fe fydd y tri llwyfan awyr agored yn arddangos talentau lleol a rhyngwladol, a hynny ynghanol golygfeydd gwefreiddiol. Bydd yno hefyd stondinau bwyd a diod fydd yn cynnig digonedd o fwydydd amrywiol ar y cae.

Wrth archebu ticed, gellir dewis rhwng ticed £50 neu £65, sy’n rhoi dewis o sefyll neu eistedd i’r prynwr wrth iddyn nhw dreulio’r pnawn a’r nos yn cael eu cyfareddu gan fandiau ac artistiaid penigamp.

Dywedodd cyfarwydd cerddorol yr wŷl, Eilir Owen Griffiths: “Nawr bod rhaglen Llanffest wedi’i gyhoeddi’n llawn, rwy’n sicr mai eleni fydd y sioe fwyaf yn hanes yr ŵyl. Mae dweud bod y tîm yn edrych ymlaen yn ddweud bach!

“Rydym yn mynd i fod yn croesawu perfformwyr rhyngwladol o’r safon uchaf i sefyll ochr yn ochr â thalent Gymreig anhygoel, gan sicrhau bod dathliadau pen-blwydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gorffen ar uchafbwynt.

“Ar ddiwedd wythnos arbennig iawn, fydd yn gweld cantorion fel Bryn Terfel a Gregory Porter fe yn camu i’r llwyfan, mae disgwyl i Llanffest fod yn ddiwrnod bythgofiadwy gan atgyfnerthu enw da’r ŵyl am gerddoriaeth fyw. Ewch i brynu’ch ticedi tra bod gennych dal gyfle!”

 

Fe fydd y perfformiadau byw yn cychwyn am 2yp ar y llwyfannau awyr agored. Yn ddiweddarach, fe fydd Reverend and The Makers a Huw Stephens yn lansio perfformiadau’r nos yn y Pafiliwn Rhyngwladol, cyn i’r Manic Street Preachers gloi’r noson. Am fwy o wybodaeth ac i brynu ticedi, cliciwch yma.