Clwb Rotari Dinbych yn rhoi £1,000 i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Rhodd hael gan Glwb Rotari Dinbych i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyfrannu at lwyddiant parhaus yr ŵyl ddiwylliannol.

Wrth i ddigwyddiadau godi arian ar gyfer pen-blwydd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 70 oed godi stêm, mae un o gefnogwyr hir dymor yr ŵyl wedi addo rhodd bellach o £1,000.

Clwb Rotari Dinbych yw’r sefydliad diweddaraf i gefnogi’r digwyddiad, sy’n garreg filltir yn hanes yr ŵyl.

“Mae’r clwb wedi cefnogi Eisteddfod Llangollen ers sawl blwyddyn, gyda nifer o’n haelodau yn mynychu’r digwyddiad yn flynyddol,” meddai’r llefarydd ar ran y Clwb Rotari, John Davies.

Ychwanegodd: “Fel uchafbwynt yng nghalendr Llangollen, rydym yn falch o ddangos ein cefnogaeth i’r ŵyl eiconig hon sy’n rhan mor fawr o dreftadaeth yr ardal.

Fe fydd yr arian yn mynd tuag at gyllideb bwrsari Eisteddfod Llangollen ac yn cefnogi cystadleuwyr o bedwar ban byd sydd angen cymorth ariannol i ddod i gystadlu yn yr ŵyl.

Dywedodd Merle Hunt, Swyddog Cyswllt Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Fel corff di-elw, mae’r Eisteddfod yn ddibynnol ar roddion, nawdd a chefnogaeth gan wirfoddolwyr.

“Diolch yn fawr iawn i bawb yng Nghlwb Rotari Dinbych am y rhodd hael yma.

“Mi fuasem hefyd yn hoffi diolch i’r Clybiau Rotari eraill yn yr ardal sy’n cefnogi’r Eisteddfod, yn ariannol a gyda’u hamser yn gwirfoddoli yn yr ŵyl.

“Y cefnogwyr hyn sy’n ei gwneud yn bosib i’r Eisteddfod Ryngwladol fynd yn ei blaen bob blwyddyn.”

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, dathliad unigryw o gerddoriaeth, dawns a diwylliant rhyngwladol, yn cael ei chynnal o ddydd Llun 3 – i ddydd Sul 9 Gorffennaf 2017.