Traddodiad y blodau wedi gwreiddio’n ddwfn yn yr Eisteddfod

Mae wedi dechrau gydag ychydig o flodau mewn potiau jam, i guddio polion y pebyll. Ond dros y 70 mlynedd ddiwethaf mae’r traddodiad o harddu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda blodau wedi dod yn arferiad yr un mor gadarn â’r ŵyl eiconig ei hunan.

Dechreuodd Marjorie Pierce y traddodiad yn yr Eisteddfod gyntaf. Yn ystod ei 35 mlynedd fel cadeirydd bu’n arwain tîm o ferched mewn gwaith ddatblygodd o fod yn gangen fechan o’r Pwyllgor Tiroedd i fod yn Bwyllgor Blodau annibynnol gyda 50 o aelodau arno. Roedd Marjorie’n arddwraig frwdfrydig a hefyd yn cymryd rhan mewn dawnsio gwerin.

Ers ei chyfnod dim ond dau gadeirydd arall sydd wedi bod – Jean Walker, fu’n gwasanaethu gyda’r blodau am tua 15 mlynedd, a’r ddeilydd bresennol, Sandy Attenburrow, sydd wedi gweithio am gyfnod tebyg o amser hyd yma.

Dywedodd: “Mae prif lwyfan yr Eisteddfod wedi tyfu’n ddramatig mewn maint dros y blynyddoedd, ac felly’r her ydi creu addurniadau newydd a chyffrous bob blwyddyn.

“Bydd y gwaith yn dechrau gyda thorri a chasglu llwythi lori o wyrddni o’r enw thuja.   Wedyn rhaid codi fframwaith yr arddangosfeydd.

“Bydd yn cymryd dyddiau o waith i lenwi’r potiau dŵr, a hefyd gosod y thuja yn ei le gyda gwifrau.

“Ar yr adeg olaf un bydd y trefnwyr blodau’n brysur iawn ar y rhannau sydd wedi’u neilltuo iddynt.”

Bydd y mwyafrif o’r blodau’n dod i mewn yn ffres o’r Iseldiroedd, lle maen nhw wedi tyfu, ychydig ddyddiau cyn dechrau’r ŵyl, a daw rhai eraill o erddi aelodau’r pwyllgor.

Gan fod y tywydd yn pennu pa liwiau a mathau fydd ar gael, dim ond rywfaint o gynllunio ymlaen llaw sy’n bosibl, a’r grefft ydi gwneud y defnydd gorau o beth fydd ar gael.

Sandie Attenburrow (1280x853)

Ychwanegodd Sandy: “Byddwn yn edrych ar y tywydd ac wedyn yn meddwl am gynllun lliw. Ar ôl hynny bydd angen bywiogi dipyn ar yr arddangosfeydd bob dydd wrth i fwy o flodau ddod i mewn.

“Mae hyn oll angen gryn dipyn o lafur, felly bydd ein tîm o wirfoddolwyr – merched yn bennaf ond mae un dyn hefyd – yn cadw’n brysur gydol yr wythnos.

“Y brif arddangosfa ydi’r un o flaen y prif lwyfan, sy’n cynnwys miloedd o flodau unigol.

“Eleni mae hynny’n cynnwys rhosod, lilïau, gladioli, delphiniums a bysedd y cŵn. Ond y tro hwn mae wedi bod yn anodd cael popeth sydd ei angen am fod y tywydd yn yr Iseldiroedd wedi bod mor wael.

“Mae hynny hefyd wedi effeithio ar y prisiau. Y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, roeddem ni’n gwario cyfanswm o tua £2,000 ond y tro hwn mae’n tua £2,500.

“Ond byddwn yn cadw at yr arian rydym ni wedi’i amcangyfrif bob blwyddyn, ac mi wnawn hynny eto eleni.”

Yn ogystal ag arddangosfeydd syfrdanol o flodau o flaen y prif lwyfan, bydd Sandy a’r tîm ymroddedig yn darparu’r trefniannau blodau ar draws holl safle’r ŵyl.

Byddant hefyd yn creu’r tuswau a’r basgedi i’w cyflwyno i sêr y cyngherddau min nos.

Mae aelodau’r Pwyllgor Blodau’n dod o Langollen a mannau pellach fel Caerlŷr, Caer ac Amwythig, yn ogystal â Dinbych a Rhuthun.

Mae rhai wedi bod yn gwirfoddoli ers llawer o flynyddoedd, a dwy o’r merched yn dilyn y genhedlaeth o’u blaen, gan wasanaethu ar y pwyllgor fel roedd eu mamau’n gwneud o’u blaenau.

Dywedodd Sandy: “Mae’r blodau’n draddodiad yn yr Eisteddfod, yn dilyn ymlaen o’r blodau mewn potiau jam yn y dyddiau cynnar ac yn dod yn fwy a mwy uchelgeisiol bob blwyddyn.

“Rydw i’n credu bod ein harddangosfeydd ni’n bwysig am eu bod yn dod ag arogl yr haf i mewn, yn ysgafnu pethau a chael gwared â’r trymder.

“Rydw i’n credu eu bod yn arbennig iawn i’n holl gystadleuwyr a pherfformwyr a hefyd, wrth gwrs, yr ymwelwyr.

“Ar ddiwrnod olaf yr ŵyl, y dydd Sul, mae’n draddodiad arall gadael i bwy bynnag sydd eisiau’r blodau gymryd y cyfan, a rhoi cyfraniad am gael gwneud hynny.

“Bydd hyn yn helpu i dalu am yr arddangosfeydd ac yn bywiogi’r holl dref wrth i bobl fynd â nhw adref.”