Hwb anferth i gystadleuaeth cantorion ifanc gorau’r byd

Mae cystadleuaeth eiconig i ddod o hyd i gantorion ifanc gorau’r byd wedi cael hwb enfawr gan sefydliad gofal arloesol.

Mae Parc Pendine wedi cytuno i fwy na threblu’r wobr ariannol fydd ar gael i’w hennill yng nghystadleuaeth fawreddog Llais y Dyfodol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Yn ôl Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, bydd cynyddu’r wobr flynyddol i £5,000 o 2017 ymlaen, yn “codi’r gystadleuaeth i lefel hollol newydd”.

Meddai: “Mae’r rhodd yma’n gyfraniad gwirioneddol nodedig a fydd yn arwain at ymchwydd mawr yn y diddordeb am ddoniau lleisiol newydd.

“Mae’r amseriad yn arbennig o briodol gan y byddwn yn dathlu ein 70ain gŵyl yn 2017 ac yn edrych ymlaen at ddyfodol fydd hyd yn oed yn fwy disglair.”

Cafodd y cyhoeddiad am gyfraniad ariannol sylweddol Parc Pendine ei wneud gan Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Skates, sy’n AC dros Dde Clwyd: “Mae’n fuddsoddiad gwych ac yn rhodd anhygoel o hael gan gyflogwr cyfrifol a da sy’n uchel iawn ei barch.

“Rwy’n credu bod angen i ni yng Nghymru gael yr hyn rwy’n ei alw yn ‘agwedd  Martini’ tuag at y celfyddydau, a gwneud yn siŵr eu bod ar gael unrhyw bryd, unrhyw fan ac mewn unrhyw le.

“Mae Pendine yn helpu i gyflawni hyn mewn lleoliad gofal cymdeithasol, ac rwy’n dathlu llwyddiant y sefydliad.”

Llais y Dyfodol yw un o brif uchafbwyntiau’r Eisteddfod Ryngwladol, sy’n denu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bedwar ban byd bob blwyddyn.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unawdwyr ifanc o dan 28 oed a bwriad y wobr ariannol – sydd bellach wedi cynyddu o £1,500 i £5,000 diolch i gyfraniad Parc Pendine – yw eu helpu i ddatblygu eu gyrfa broffesiynol.

Mae’r wobr hefyd yn cynnwys cyfle i berfformio yng nghyngherddau’r ŵyl yn y dyfodol.

Yn ystod y gystadleuaeth ddeuddydd, mae’n ofynnol i gantorion gyflwyno rhaglen gyferbyniol o hyd at wyth munud o gerddoriaeth, gan gynnwys oratorio, opera, lieder a chân, gan berfformio pob un yn eu hiaith wreiddiol.

Yn y rownd derfynol mae’n rhaid i gystadleuwyr gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth sy’n para am hyd at 10 munud.

Bydd Eirlys Myfanwy Davies, enillydd teitl Llais y Dyfodol 2014, yn rhannu’r llwyfan gyda’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel, pan fydd yn perfformio mewn cyngerdd nos arbennig ar 7 Gorffennaf.

Caiff y gyngerdd i ddathlu’r 70ain Eisteddfod hefyd ei noddi gan Barc Pendine a  bydd yn cynnwys  perfformiad hefyd gan Joseph Calleja, y canwr opera hynod dalentog o Malta, y mae ei lais wedi cael ei gymharu â’r enwog Caruso.

Ar ôl cyhoeddi’r wobr o £5000 dywedodd Mario Kreft, perchennog Parc Pendine: “Mae ethos yr Eisteddfod yn asio’n berffaith gyda’r hyn y mae fy ngwraig Gill a minnau yn ei wneud ym Mharc Pendine.

“Rwy’n credu’n gryf yn y rhan hanfodol y mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ei chwarae mewn gofal cymdeithasol, ac fel rhan o’n rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl sydd â dementia mae cerddorion o’r radd flaenaf o gerddorfa Hallé ac Opera Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn rheolaidd yn ein gweithdai cyfoethogi a’n rhaglen hyfforddi a datblygu staff.

“Ers rhai blynyddoedd bellach rydym wedi cefnogi’r cyngherddau nos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac rydym am roi hwb pellach i’r ŵyl unigryw a chystadleuaeth Llais y Dyfodol yn benodol, drwy gynyddu’r wobr ariannol sydd ar gael i’r enillydd.”

Ychwanegodd: “Mae neges yr Eisteddfod am bwysigrwydd heddwch a chytgord mor berthnasol heddiw ag y bu erioed.

“Rydym yn hynod falch o roi’r cymorth ychwanegol yma i’r Eisteddfod, fel y gwnaethom ar Ddiwrnod y Plant yng ngŵyl y llynedd,ac ni wnawn ni fyth anghofio gweld dros 800 o bobl ifanc o ysgolion lleol yn cymryd rhan gydag aelodau o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru mewn gweithdai cerddoriaeth a noddwyd gennym.

“Fel mae Terry Waite, Llywydd yr Eisteddfod, wedi dweud ar sawl achlysur, does dim byd pwysicach na rhoi atgofion da i bobl ifanc.”

Dywedodd  Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Mae’n wych bod Parc Pendine, yn dilyn noddi ein cyngherddau nos yn y gorffennol, yn parhau i gefnogi’r ŵyl trwy gynnig y wobr ariannol yma o £5,000 ar gyfer Llais y Dyfodol.

“Rwy’n gwybod y bydd yr arian yma’n gwneud gwahaniaeth wrth ddenu llawer mwy o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth hon.

“Mi wnes i redeg cystadleuaeth debyg mewn rhan arall o Gymru a phan gynyddwyd y wobr ariannol mi wnaeth nifer y ceisiadau dreblu.”

Ychwanegodd Dr Rhys Davies, cadeirydd yr Ŵyl: “Mae hwn yn gyfraniad hynod o hael gan Barc Pendine a bydd y gwobrau ariannol yn helpu i gefnogi hyfforddiant y canwr neu’r gantores ifanc llwyddiannus.

“Mae’r gystadleuaeth hefyd yn rhoi llwyfan i sêr canu yfory, ac mae hynny yr un mor bwysig mewn gwirionedd, ac roedd yn un o’r rhesymau dros sefydlu’r gystadleuaeth yn y lle cyntaf.”