Kerry brenhines y gân yn anelu am Langollen

Yr haf yma bydd y gantores sydd wedi cael ei galw yn Frenhines y West End yn anelu am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Mae trefnwyr yr ŵyl eiconig wedi llwyddo i ddenu Kerry Ellis i berfformio yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Mae Kerry wedi ymddangos mewn rhai o brif sioeau cerdd y West End yn Llundain a Broadway yn Efrog Newydd ac mae wedi cydweithio sawl tro gyda gitarydd enwog Queen Brian May.

Kerry fydd un o’r prif artistiaid yng nghyngerdd Lleisiau Theatr Gerdd ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6, pryd y bydd hi’n rhannu’r llwyfan gydag enillwyr Britain’s Got Talent, Collabro, y band bechgyn canu clasurol a theatr gerdd.

Daeth Kerry, 36 oed, i amlygrwydd mewn cynyrchiadau fel Wicked, Cats, Les Misérables, My Fair Lady a We Will Rock You.

Hi yw’r seren ddiweddaraf i gael ei chyhoeddi ar gyfer wythnos arbennig y 70ain gŵyl.

Bydd y gantores glasurol anhygoel Katherine Jenkins yn codi’r llen ar y noson agoriadol, ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, sy’n cael ei noddi gan sefydliad gofal Parc Pendine.

Bydd y mezzo soprano boblogaidd yn perfformio fersiwn cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen.

Ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf, bydd y seren opera byd-enwog Bryn Terfel yn rhannu’r llwyfan gyda ffrind da iddo, sydd hefyd yn denor o’r radd flaenaf, sef y canwr opera hynod dalentog o Malta, Joseph Calleja, mewn cyngerdd sydd hefyd wedi ei gefnogi gan Parc Pendine.

Ar ben hynny, bydd Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues yn dychwelyd i Langollen hefyd er mwyn cloi’r ŵyl gyda pharti gwyllt ar ddydd Sul, 10 Gorffennaf, sydd wedi ei noddi gan y Village Bakery.

Yn ôl Kerry, bydd perfformio yn Llangollen, mewn cyngerdd a noddwyd gan Kronospan, yn rhywbeth arbennig iawn gan y bydd yn canu llawer o’i hoff ganeuon ar noson sy’n siwr o fod yn un hudol iawn.

Bydd hi a Collabro yn ymuno â doniau talentog Academi Theatr Gerdd Glasgow, CBC Voices o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cherddorfa Opera Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk.

Kerry Ellis

Kerry Ellis

Dywedodd Kerry, sy’n fam i ddau o blant: “Does dim dwywaith mae’n ddigwyddiad arbennig a rhyfeddol iawn.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr hyn fydd yn noson wych mewn lleoliad mor hudol. A chan fod pobl anhygoel, fel Collabro, yn ymuno â mi ar y llwyfan, mae’n mynd i fod yn noson i’w chofio.

“Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn canolbwyntio mwy ar fy ngwaith cyngerdd gyda Brian May o’r band Queen. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd ers 13 mlynedd bellach. Mi wnes i gael rôl Meat yng nghast gwreiddiol We Will Rock You ac rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ers hynny.

“Mae’n gyfuniad annhebygol ac rydym yn dod o ddau fyd gwahanol iawn, ond mae’n gweithio a’r rhan gyffrous i mi yw cael perfformio rhai caneuon gwahanol iawn i’r arfer.”

Dywed Kerry, a enillodd y wobr BroadwayWorld.com 2015 am yr Actores Orau mewn cynhyrchiad newydd o sioe gerdd am ei phortread o Grizabella yn y cynhyrchiad newydd o Cats yn y London Palladium, y bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o’i ffefrynnau personol.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd gyda chaneuon fel ‘Memory’ o Cats ac ‘Anthem’ o Chess. A dweud y gwir, cân i ddyn yw ‘Anthem’ fel arfer ond ysgrifennodd Brian May drefniant newydd i mi ac mae hynny wedi fy mhlesio yn arw.

“Mae’n wirioneddol wahanol ac yn golygu rhywbeth. Rwy’n credu ei bod yn un o’r caneuon hynny y mae pawb yn ei hadnabod ac yn ei hoffi.”

“Mae’n mynd i fod yn flwyddyn gyffrous a gwahanol iawn ac mae Llangollen yn sicr yn mynd i fod yn uchafbwynt mawr i mi. Rwy’n ceisio mynd â fy meibion gyda mi lle bynnag rwy’n perfformio ac mae’n swnio i mi eu bod yn mynd i fod wrtheu boddau yn Llangollen.”

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl: “I ddathlu’r 70ain Eisteddfod rydym yn awyddus iawn i drin cefnogwyr ein gŵyl i gyngerdd sy’n llwyfannu’r gorau o theatr gerddorol.

“Rydym wrth ein bodd i groesawu Kerry Ellis, un o berfformiwr amlycaf theatr y West End, i Langollen am y tro cyntaf.

“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weld Collabro, Opera Genedlaethol Cymru a CBC Voices, Academi Theatr Gerdd a’r Celfyddydau Glasgow, a fydd hefyd yn ymddangos ac yn ychwanegu at beth fydd yn noson hudolus i ddathlu’r gorau o theatr gerdd.”

Ychwanegodd: “Rwy’n credu fod gan bawb eu hoff gynhyrchiad o ddrama gerdd a chân sy’n golygu rhywbeth iddynt. Bydd hon yn noson wych o gerddoriaeth ac yn un rwy’n siŵr y bydd pawb yn ei mwynhau yn fawr.”