Mae dau athro ysgol ifanc o Wrecsam ac athro piano o Gaer ymhlith cyw gantorion opera o bob cwr o’r DU a fydd yn agor cyngerdd y seren soprano Katherine Jenkins yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.
Mae Rachael Marsh a Karen Davies, o Wrecsam, a Lorna Kettle o Dilston, ger Caer, ymhlith grŵp o fyfyrwyr canu opera a gaiff brofiad bythgofiadwy wedi iddynt gael eu gwahodd i berfformio ar y llwyfan allanol ar ddiwrnod cyntaf y 70ain Eisteddfod fis Gorffennaf.
Maent wedi bod yn codi’r to mewn eglwys yn Llangollen wrth gael eu hyfforddi gan yr hyfforddwyr llais opera priod, Anne Williams-King a David Bartleet, sy’n denor operatig ei hun.
Mae Anne, o Ben-y-Cae, wedi treulio’r rhan fwyaf o’r 20 mlynedd diwethaf yn byw ac yn gweithio yn Llundain, ac mae hi newydd orffen ei thrydydd cwrs a werthodd allan ar gyfer darpar gantorion opera yn yr Eglwys Fethodistaidd ar Stryd y Dywysoges, ac mae hi wrth ei bodd y bydd ei myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl eiconig.
Dywedodd y soprano top, sydd wedi perfformio mewn tai opera ym mhob cwr o’r byd: “Symudais yn ôl o Lundain er mwyn bod yn agosach at fy mam chwe blynedd yn ôl erbyn hyn. Fodd bynnag, bu farw dair blynedd yn ôl.”
“’Does dim byd yn yr ardal ar gyfer darpar gantorion opera felly penderfynodd David a mi drefnu’r cyrsiau hyn. Nid hyfforddi’r llais yn unig a wneir ond gweithio ar gymeriadau hefyd.”
“Rydym ni eisiau rhoi syniad o beth yw gweithio yn y byd opera i ddarpar gantorion opera. Rwyf eisiau i fyfyrwyr ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y ffordd gywir.”
Ychwanegodd Williams-King, a oresgynnodd ganser yr ofari ddegawd yn ôl, “Rydym yn cynnal cyngerdd yn yr Eglwys Fethodistaidd yn Llangollen ar ddiwedd bob cwrs a drefnwn.”
“Roedd Rhys Davies, cadeirydd newydd yr Eisteddfod, yn y gynulleidfa ar ôl ein hail gwrs a dywedodd wrtha’i faint oedd wedi ei blesio, ac mae wedi ein gwahodd i ddangos rhai o’r talentau operatig newydd yn yr ŵyl.
“Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd, Eilir Owen Griffiths, wedi gwahodd fy myfyrwyr i berfformio ar y llwyfan allanol cyn y gyngerdd agoriadol gyda Katherine Jenkins ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf. Dyma fraint anhygoel iddynt.
“Mae’n gyfle arbennig iddynt i ddangos eu talentau lleisiol ac actio a chredwch chi fi, mae gyda ni gantorion rhagorol sy’n haeddu cael eu clywed ac a fydd yn croesawu’r cyfle unigryw hwn â breichiau agored.”
Dywedodd yr athro cyflenwi cynradd, Rachael Marsh, 23, soprano o Minera: “Mae’n brofiad gwych ac mae cael y cyfle i ganu ar y llwyfan yn Llangollen yn anhygoel, yn enwedig ar y diwrnod y bydd Katherine Jenkins yn perfformio ei chyngerdd Carmen.
“Rwyf wedi bod yn cael gwersi gydag Anne o dro i dro ers sbel gan fod y rhan fwyaf o fy mhrofiad o ganu wedi bod mewn corau. Rwyf wedi mwynhau’r cwrs gymaint ac wedi dysgu llawer.
“Mae cael y cyfle i berfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gwireddu breuddwyd. Bydd yr awyrgylch yn drydanol ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar.”
Dywedodd ei chyd soprano, Karen Davies, 28, athro dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Caer sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn Ysgol Gynradd Kingsley yn Frodsham: “Graddiais o Brifysgol Bangor â gradd mewn cerddoriaeth ac roeddwn wir eisiau bod yn gyfansoddwr.
“Fodd bynnag, newidiodd hynny a nawr rwyf eisiau canu opera ond dw’i heb gael dim gwersi na hyfforddiant ffurfiol. Mae ymuno â chwrs Anne wedi bod yn ffantastig ac rwyf wedi dysgu llawer.
“Cefais fy nerbyn i wneud gradd uwchraddedig mewn perfformio operatig yn Llundain ond doeddwn i methu fforddio ei wneud. Mae cyrsiau cerddoriaeth a chanu yn ddrud iawn, dyna pam fod cyrsiau Anne yn fendith.
“Rwy’n barod i ystyried bob opsiwn a bydd dysgu o hyd yn ddewis da fel gyrfa, ond petai’r cyfle’n dod buaswn yn dewis opera. Rwy’n dal i ddyheu am fod ar lwyfan.”
Ychwanegodd Karen, sy’n byw yn Wrecsam gyda’i chymar sy’n beiriannydd, Gareth Samuel: “Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel ac yn gyfle ffantastig i mi ac i’r cantorion eraill sydd ar gwrs Anne.”
Dywedodd yr athro piano Lorna Kettle, 45 oed, o Dilston, ger Caer, y byddai cael y cyfle i ganu ar lwyfan yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gwireddu breuddwyd.
Dywedodd y mezzo soprano: “Gwnes i fy ngradd mewn cerddoriaeth 25 mlynedd yn ôl yn Lerpwl ac nid wyf wedi canu ers hynny. Canolbwyntiais ar y piano. Ond mae Anne wedi fy helpu i ddarganfod fy llais unwaith eto.
“Hi yw fy athro canu ers tro ac er fy mod i fwy na thebyg yn rhy hen i fod yn gantores opera broffesiynol, gallwn fwynhau perfformio ar lefel amatur.
“Rwyf wir wedi mwynhau’r cwrs sydd wedi bod mor gyfeillgar, ac rwy’n teimlo fy mod i wedi gwella yn ddyddiol.
“Mae meddwl am ganu, ar lwyfan, yn Llangollen ar yr un diwrnod ag y bydd Katherine Jenkins yn perfformio mor gyffrous. Bydd yn brofiad bythgofiadwy.”
Mae Rhys Davies, cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wrth ei fodd y bydd myfyrwyr opera Anne ar lwyfan allanol yr ŵyl, a dywedodd: “Es i i’r gyngerdd a gynhaliodd Anne a’i gŵr David yn Eglwys Fethodistaidd Llangollen ar ddiwedd pob un o’u cyrsiau opera.
“Roedd safon y perfformio yn eithriadol o uchel ac rwy’n credu bod y sêr opera posibl yn haeddu cael eu clywed.
“Mae’n gyfle mawr i’r cantorion ifanc talentog ac yn gyfle i ganiatáu i gynulleidfa feirniadol eu gweld nhw’n perfformio. Rwy’n siŵr y bydd hi’n noson gyffrous ac yn un fythgofiadwy.”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ein rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.