Bydd mab y gŵr a sefydlodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵr gwadd yn ystod y 70ain ŵyl fis Gorffennaf yma.
Mae Peter Tudor, sydd nawr yn 84 oed, yn cofio sut y bu i’w dad, y newyddiadurwr Cymraeg nodedig Harold Tudor, feddwl am y syniad o ddigwyddiad diwylliannol mawr er mwyn helpu i leddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd.
Mae gan Peter gof byw o’r cynnwrf wrth i gystadleuwyr o ledled Ewrop ddechrau ymgasglu ar gyfer yr ŵyl gyntaf yn y pentref bychan yn Sir Ddinbych yn ystod haf 1947.
Bu i Peter, a raddiodd o brifysgol Rhydychen ac sydd bellach yn byw wrth ymyl Stone yn Swydd Stafford, chwarae rhan yn y digwyddiad wrth wirfoddoli fel negesydd cyn dychwelyd yn ddiweddarach i ganu yn un o’r cystadlaethau corawl enwocaf.
Dywedodd: “Roedd fy nhad yn wreiddiol o Tanyfron, ger Coedpoeth, ac wedi mynychu Ysgol Grove Park yn Wrecsam dechreuodd weithio i’r ‘Wrexham Leader’ cyn symud i Scarborough lle cyfarfu ei wraig Marjorie. Yna dechreuodd weithio i’r Echo yn Lerpwl, a phan cafodd y teulu eu bomio allan o’u cartref yn ystod y rhyfel, fe symudwyd yn ôl i Goedpoeth.
“Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth hefyd yn aelod o’r Cyngor Prydeinig, sefydliad sy’n arbenigo mewn cyfleoedd diwylliannol ac addysgol rhyngwladol.
“Golygai hyn ei fod yn gwneud tipyn o waith cysylltiadau cyhoeddus gyda chynrychiolwyr o lywodraethau tramor ym Mhrydain, gan gynnwys pobl fel gweinidog tramor Tsiecoslofacia Jan Masaryk a Brenin Norwy, i ond enwi rhai.
“Ar ddiwedd y rhyfel, meddyliodd iddo’i hun pa mor ofnadwy fu blynyddoedd y rhyfel ac roedd yn edrych ar bethau y gallai pobl eu gwneud i’w atal rhag digwydd eto byth.
“Cafodd y syniad o ddigwyddiad rhyngwladol lle byddai cantorion yn ymgasglu ac fe awgrymodd y syniad i fwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol, a dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n or-hoff o’r syniad.
“Yna, aeth â’r syniad at W S Gwynn Williams, ffigwr blaenllaw mewn cerddoriaeth Gymraeg oedd yn byw yn Llangollen, ac fe roddodd ei gefnogaeth.
“Yn amlwg roedd gan fy nhad argyhoeddiad dwfn iawn a gweithiodd yn galed iawn i bobl dderbyn y syniad. Yn y diwedd cafodd y syniad ei dderbyn a dewiswyd Llangollen fel y lleoliad delfrydol gyda fy nhad yn cael ei benodi’n gyfarwyddwr cyhoeddusrwydd anrhydeddus.”
Ychwanegodd Peter, a enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen a mynd ymlaen i weithio mewn cyfres o lyfrgelloedd prifysgol gan gynnwys llyfrgell Bodleian yn Rhydychen, Glasgow, Manceinion a Keele cyn iddo ymddeol; “Yn yr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gyntaf bu mi a rhai o fy ffrindiau o Ysgol Grove Park yn gweithredu fel negeswyr.
“Roeddem yn gwisgo bathodynnau’r Wasg, a’n swydd ni oedd rhedeg o un rhan o’r maes i ran arall yn danfon negeseuon i wahanol bobl. Roedd o’n llawer o hwyl.
“Roedd hi’n wych gweld pobl yn dod i Langollen o bob rhan o Ewrop a gallu eu cyfarfod a siarad â nhw.
“Er bod y cystadlaethau’n faterion digon tawel yn yr Eisteddfod gyda phawb yn rhoi sylw’n ddistaw, unwaith yr oedden nhw y tu allan ar y maes, roedd hi’n fater hollol wahanol ac roedd pawb yn cymysgu i siarad a chwerthin.
“Hefyd, roedd un neu ddau o’r corau’n ymuno gyda’i gilydd i ganu’r un darn.
“Y flwyddyn ganlynol roeddwn i nôl yn Llangollen fel aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth. Cawsom ganu ar y llwyfan a daethom yn ail yn ein cystadleuaeth.
“Yr un flwyddyn trefnodd fy nhad i Gôr Meibion y Rhos gymryd rhan mewn cyngerdd yn Sbaen, ac aeth fy niweddar fam, Marjorie, gyda nhw.
“O ganlyniad i’r ymweliad, penderfynodd y Sbaenwyr gynnal eu fersiwn eu hunain o’r Eisteddfod ac yn 1949 cymerais ran yn y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Madrid, gyda Chôr Ieuenctid Coedpoeth.
“Roeddwn yn dal i fynd yn ôl i Langollen am ychydig flynyddoedd nes i mi gael fy ngalw i wneud fy Ngwasanaeth Milwrol gyda’r fyddin.
“Dechreuodd fy nhad wneud llai gyda’r Eisteddfod hefyd wedi iddo dderbyn swydd fel is-olygydd gyda’r Post a’r Mail yn Birmingham.
“Symudodd y teulu i fyw yn Northfield ger Birmingham a bu farw fy nhad yn 79 mlwydd oed yn 1986.
“Nid oedd y rhan a chwaraeodd yn sefydlu’r Eisteddfod Ryngwladol bob amser yn cael ei chofio, ond mae wedi cael mwy o gydnabyddiaeth yn ddiweddar. Rwyf yn sicr yn falch iawn o’r hyn a wnaeth o.”
Bu Peter yn briod i’w wraig Eirwen am 51 o flynyddoedd ac mae wedi bod yn ŵr gweddw ers 2008. Mae ganddo ddwy ferch – a’r hynaf, Gillian, wedi dilyn ôl traed ei thaid drwy ddod yn newyddiadurwr tramor gyda Reuters – ac mae ganddo bump o wyrion a wyresau.
Yn 2003 dathlwyd ei gysylltiad teuluol agos gyda sefydlydd yr Eisteddfod pan gafodd ei wahodd i gyfarfod Tywysog Cymru pan aeth ar ymweliad swyddogol i’r ŵyl, a phedair blynedd wedyn cafodd ei wahodd yn ôl i Langollen i roi araith am ei dad o lwyfan y pafiliwn.
“Roedd cael cyfarfod Tywysog Cymru yn brofiad bythgofiadwy ac wedi eistedd y drws nesaf iddo am un o’r perfformiadau cefais sgwrs sydyn ag o dros luniaeth,” dywedodd Peter.
“Oni bai am y ddau achlysur hynny, dydw i ddim wedi bod yn ôl i Langollen ond rwyf am wneud fy ngorau i fod yno ar gyfer y 70ain Eisteddfod y flwyddyn yma, gan fod yr Eisteddfod wedi golygu llawer iawn i mi a fy nheulu erioed.
“Rwyf hefyd yn anfon fy nymuniadau gorau i bawb sydd yn ymwneud ag Eisteddfod 2016, a ddylai fod yn achlysur arbennig iawn.”
Bydd ymwelydd arbennig arall i’r Eisteddfod eleni, sef Selwyn Tudor, ail fab Harold Tudor, a oedd wedi mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd â’i wraig Anne. Mae gan Selwyn ac Anne, sy’n byw yn Birmingham, dwy ferch a phedwar o wyrion, felly mae Harold Tudor wedi cael ei olynu gan bedwar o wyrion a naw o or-wyrion.
Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod, Rhys Davies: “Byddwn wrth ein boddau yn croesawu Peter a Selwyn yma eto gan eu tad oedd y gŵr a ysgogodd sefydlu’r ŵyl wych hon.
“Roedd Harold Tudor yn ŵr â chanddo gweledigaeth ac mae gan bobl dros y byd, nid yn unig yn Llangollen, lawer i ddiolch iddo.”
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi’i chynnal bob haf ers 1947 ac mae’n cael ei hadnabod fel un o wyliau cerddorol mwyaf ysbrydoledig y byd.
Y flwyddyn yma, y 70ain i’w chynnal, bydd enwau mawr fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blŵs yn cymryd rhan yn y cyngerdd i gloi’r ŵyl ar ddydd Sul, Gorffennaf 10.
Mae’r Eisteddfod eleni’n dechrau ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 5, gyda’r seren Katherine Jenkins yn cynnig agoriad cyffrous wrth iddi ganu opera Carmen gan Bizet, tra bydd dydd Mercher yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant a fydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns yn ogystal â chystadleuaeth newydd Unawd o dan 16 mlwydd oed.
Diwrnod Lleisiau’r Byd a choroni Côr Plant y Byd fydd dydd Iau, a bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn canolbwyntio’n bennaf ar y grwpiau dawns gyda chystadleuaeth Enillwyr Dawns y Byd yn binacl i’r cyfan gyda’r nos.
Gyda newid i’r amserlen bydd Gorymdaith y Cenhedloedd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, a bydd yn cael ei harwain gan Lywydd yr Eisteddfod Terry Waite. Mae’r orymdaith wedi’i symud o’r dydd Mawrth pan gaiff ei chynnal fel arfer gyda disgwyl mwy o griwiau a mwy o gystadleuwyr yn bresennol.
Diwrnod i Gorau’r Byd yw dydd Sadwrn gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, tra bydd dydd Sul yn gweld yr Eisteddfod yn mwynhau Llanfest cyn y cyngerdd clo arbennig.
Wedi dweud hynny yr un fydd croeso anhygoel Llangollen a thrwy gydol yr wythnos bydd y maes yn denu pobl i ganu a dawnsio’n fyrfyfyr tra mae amrywiaeth o gyngherddau a pherfformiadau’n cael eu cynnal ar y llwyfannau y tu mewn.
Hefyd, mae stondinau bwyd, diod a chrefft o amgylch y maes a gall ymwelwyr fwyta bwyd o wledydd gwahanol bob diwrnod o’r ŵyl, a mwynhau lliw a chyffro’r hyn sydd wir yn garnifal y cenhedloedd.