Gwelwyd y dorf yn Eisteddfod Llangollen yn cael ei chymell i godi ar ei thraed mewn ymateb i berfformiad syfrdanol o Tosca gan Puccini nos Fawrth 4ydd o Orffennaf.
Bu i’r sêr opera byd enwog, Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt rannu’r llwyfan am y tro cyntaf erioed i gyflwyno datganiad pwerus ac unigryw o’r stori garu ddramatig.
Roedd y perfformiad yn yr Eisteddfod Ryngwladol, a noddwyd gan Pendine Park, yn cynnwys tri o dalentau mwyaf blaenllaw y byd, i gyfeiliant Cerddorfa mawr ei chlod Opera Cenedlaethol Cymru, ac roedd yn ddiwedd llwyddiannus i ail ddiwrnod yr ŵyl 70 mlwydd oed.
Dychwelodd y bas-bariton uchel ei barch Syr Bryn Terfel i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rôl Baron Scarpia oedd ar drywydd Cavardossi y tenor o Lithwania, Benedikt. Gan chwarae rôl y teitl, daeth y soprano Opolais â deinamigrwydd prin i Tosca, gan helpu i greu perfformiad cofiadwy, dan arweiniad Gareth Jones.
Yn ogystal â’r perfformwyr byd enwog roedd y noson hefyd yn cynnwys talent ifanc newydd gan gynnwys Joseph Elwy Jones oedd wedi’i recriwtio’n lleol i chwarae rhan y Bugail Ifanc a’r bariton o Ogledd Cymru Steffan Lloyd Owen, yr ail fyfyriwr yn unig o’r Royal Northern College of Music i ennill Gwobr fawreddog Kathleen Ferrier. Yn ymuno â’r cast hefyd oedd myfyrwyr o Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug a berfformiodd yn y Corws.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen, Eilir Griffiths,: “Roedd hwn yn brosiect cyffrous i Eisteddfod Llangollen fynd i’r afael ag ef ac roedd yn llwyddiant anhygoel – roedd y cast cyfan yn ysblennydd.
“O’r artistiaid byd enwog a’r dalent lleol sy’n dod i’r amlwg, i’r llwyfannu cynnil a’r gwaith fideo syfrdanol, daeth yr opera hyfryd hon yn berffaith fyw.
“Llwyddodd y perfformiad i gyfuno rhagoriaeth ac arbenigedd ei dîm Cymraeg a’i dîm rhyngwladol, gan bwysleisio gallu Eisteddfod Llangollen i ddenu artistiaid byd-eang yn ogystal ag arddangos talent gynhenid y wlad.”
Yn siarad wedi’r perfformiad, dywedodd Dr Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Llangollen,: “Mae pen-blwydd yr Eisteddfod Ryngwladol yn 70 wedi cael dechrau gwych. Nos Lun bu i’r cyngerdd agoriadol bywiog arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, gyda pherfformiadau gan Fand Pres Cory gyda Chorau Meibion cyfarwydd lleol y Fron a Rhos yn perfformio ochr yn ochr â Canoldir a Colne Valley, o dan arweinyddiaeth yr anhygoel Owain Arwel Hughes CBE.
“Roedd hi hefyd yn wych gweld Meinir Wyn Roberts yn cymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol hwn, dwy flynedd yn unig wedi iddi gael ei henwi fel Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Llangollen. Mae’n amlygu’n glir sut mae cystadlaethau Llangollen yn gweithredu fel llwyfan neidio i gantorion ifanc talentog. Rydyn ni’n sicr yn edrych ymlaen at weld pa sêr rhyngwladol y dyfodol fydd yn cael eu dadlennu yng nghystadlaethau eleni pan fyddant yn dechrau yfory [DYDD MERCHER 5ED O ORFFENNAF].
“Roedd Diwrnod Rhyngwladol y Plant [DYDD MAWRTH 4YDD O ORFFENNAF] hefyd yn llwyddiant mawr gyda dros 3,000 o blant yn mynychu. Roedd miloedd o wynebau hapus, yn gwenu yn y pafiliwn wrth i’r Neges Heddwch gael ei gyflwyno ac fe wnaeth yr ysgolion oedd yn ymweld ganu pen-blwydd hapus i’r Eisteddfod. Mae’n ymddangos hefyd fod y tywydd yn gwenu arnom ni – dim yn rhy boeth a dim glaw – gobeithio y bydd yn parhau drwy gydol yr wythnos.
“Roedd Tosca wir yn anhygoel, gyda rhai o hoelion wyth opera byd enwog yn camu ar lwyfan y pafiliwn ochr yn ochr â thalent leol fel Steffan Lloyd Owen a Joseph Elwy Jones. Cafodd Joseph ei recriwtio’n ddiweddar drwy glyweliadau agored ar gyfer rhan y Bugail Ifanc ac roedd yn gweddu’n addas i’r rôl. Pan gamodd Syr Bryn Terfel ar y llwyfan gyda Kristine Opolais a Kristian Benedikt roedd yr awyrgylch yn wirioneddol drydanol! “Mae’r Eisteddfod eleni yn mynd rhagddi’n hynod o dda ac rwyf yn edrych ymlaen at weddill yr wythnos, yn enwedig at weld Corws Dathlu Llangollen yn perfformio Calling All Nations o dan gyfarwyddyd Christopher Tin nos yfory [DYDD MERCHER 5ED O ORFFENNAF].”