The Fratellis a The Coral i godi to Llanfest 2019

Mae dau fand roc enwog, The Fratellis a The Coral, wedi cyhoeddi mai nhw fydd prif berfformwyr gŵyl Llanfest 2019, sef dathliad olaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sul 7fed Gorffennaf yn Llangollen.

Fe fydd y band dylanwadol o Gilgwri, The Coral, wnaeth gyhoeddi’r albwm llwyddianns Move Through The Dawn yn ddiweddar, yn diddanu cynulleidfa’r Pafiliwn Rhyngwladol gyda chaneuon melodaidd ac ecsentrig yn ogystal â chlasuron gan gynnwys Dreaming of You, Pass it On a In the Morning.

Yno hefyd i ddiddanu’r dorf fydd y band Albanaidd, The Fratellis, wnaeth ruo i mewn i’w hail ddegawd o berfformio gyda’u pumed albwm, In Your Own Sweet Time, yn 2017. Bydd cyfle i glywed senglau mwyaf poblogaidd y triawd, Chelsea Dagger a Whistle For The Choir yn ogystal â chaneuon newydd sbon sy’n gwthio sain y band i gyfeiriadau newydd a bywiog.

Dyma fydd ymddangosiadau cyntaf y ddau fand yng Ngogledd Cymru yn 2019, ac un o gyfleoedd cyntaf y flwyddyn i gefnogwyr yr ardal eu gweld yn fyw. Yn ymuno â’r ddau fand eiconig ar y diwrnod fydd y grwp indie-roc, The Pigeon Detectives, sy’n gyfrifol am draciau fel This is an Emergency a Take Her Back, a’r triawd pop-roc o’r nawdegau, Dodgy, i berfformio caneuon fel Staying out for the Summer a Good Enough.

Mae Llanfest yn ddiweddglo egnïol i Eisteddfod Llangollen, sydd eisoes yn adnabyddus am ei cherddoriaeth gorawl, cyngherddau clasurol ac operatig yn ogystal â pherfformiadau jazz, gwerin, rhythm a blues. Fel un o wyliau mwyaf ysbrydoledig ag amlddiwylliannol y byd, fydd eleni’n rhedeg o 1af -7fed Gorffennaf 2019, mae disgwyl i dros 4,000 o berfformwyr a chystadleuwyr a hyd at 50,000 o bobl ymweld dros yr wythnos.

Mae’r cyhoeddiad am ymddangosiad 2019 The Fratellis a The Coral yn dilyn gig wefreiddiol y band indie-pop, Kaiser Chiefs, y llynedd, a’r band Cymreig Manic Street Preachers y flwyddyn gynt – artistiaid wnaeth godi to pafiliwn yr ŵyl ar y ddau achlysur.

Bydd tocynnau yn mynd ar werth ddydd Gwener 1af Chwefror am 9yb ac fe ellir eu harchebu arlein yma neu drwy alw’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.

Ar gyfer y digwyddiad, fe fydd seti cefn y Pafiliwn yn cael eu tynnu oddi yno i wneud lle ar gyfer mwy o lefydd sefyll ac i gynyddu’r niferoedd i fwy na 5,200, gan olygu mai dyma fydd un o gyngherddau mwyaf erioed yr ŵyl. Bydd ardal eistedd uwch hefyd ar gael yng nghanol y pafiliwn.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd prif leisydd The Coral, James Skelly: “Mae’n gyffrous iawn cael bod yn rhan o ŵyl sy’n cyfuno talent gerddorol o bob cornel o’r byd mewn lleoliad mor brydferth yng Ngogledd Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â lein-yp mor dda yn Llanfest 2019 –  fe fydd perfformio gydag artistiaid eraill yn yr ŵyl, i gefnogi ethos heddwch rhyngwladol, yn brofiad arbennig. Mae am fod yn un o’r gigs hollol gofiadwy ‘na, dwi’n siŵr.”

Yn ôl Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, Edward-Rhys Harry: “Crëwyd Eisteddfod Llangollen er mwyn lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd ac uno cymunedau rhyngwladol trwy gerddoriaeth a dawns, yn ysbryd cyfeillgarwch a heddwch rhyngwladol.

“Pwrpas Llanfest yw lledaenu’r neges hon i gynulleidfa ehangach wrth ddod a genres cerddorol cyfoes i’r ŵyl, gan barhau i fod yn driw i’r gwerthoedd traddodiadol.

“Mae The Fratellis a The Coral yn gyfuniad perffaith o ddau fand eiconig, gydag apêl eu caneuon indie-roc yn ymestyn ar draws cenhedloedd – mae’r diwrnod yn sicr o ddod a miloedd o bobl at ei gilydd ar gyfer diweddglo egnïol iawn i ŵyl 2019.”

Fe fydd The Fratellis, The Coral, The Pigeon Detectives a Dodgy yn ymddangos yn Llanfest 2019 yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sul 7fed Gorffennaf 2019. Bydd perfformiadau byw gan ystod o artistiaid ar y llwyfannau allanol yn cychwyn am 2yp a bydd y bandiau cefnogol, The Pigeon Detectives a Dodgy, yn chwarae yn y pafiliwn, cyn i The Fratellis a The Coral gamu i’r llwyfan. Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocynnau cliciwch yma neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.