Mae cymuned Portiwgeaidd fywiog tref yng Ngogledd Cymru am geisio dod o hyd i aelodau côr a wnaeth y daith anodd ar draws Ewrop ar ddiwedd yr ail ryfel byd i’r Eisteddfod Ryngwladol gyntaf yn 1947.
Mae dros 2,000 o Bortiwgeaid yn byw yn Wrecsam a’r cyffiniau ac maent yn awyddus i ailgynnau cysylltiadau â gŵyl fyd-enwog Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Ddwy flynedd yn ôl roedd côr o Bortiwgal ymysg uchafbwyntiau ffair haf a gynhaliwyd yng nghanol tref Wrecsam lle cawsant eu llongyfarch ar eu perfformiad gan noddwr yr Eisteddfod Terry Waite CBE.
Awgrymodd y pencampwr dyngarol nodedig hefyd y dylent ystyried perfformio yn yr Eisteddfod ar ryw adeg yn y dyfodol.
Mi wnaeth hynny ysgogi Iolanda Banu, cynghorydd i’r gymuned Bortiwgaleg yn Wrecsam a ledled Prydain, i gael syniad sydd wedi arwain prif gynrychiolwyr o’r wlad i dderbyn gwahoddiad i’r ŵyl enwog ym mis Gorffennaf eleni.
Mae hi hefyd wedi dechrau gwneud ymholiadau am y côr merched o Oporto ym Mhortiwgal a fu’n cystadlu yn yr ŵyl gyntaf un yn ôl yn 1947.
Dywedodd Iolanda, a ddaeth i Wrecsam o Bortiwgal 15 mlynedd yn ôl ac sy’n rhannu ei hamser rhwng gweithio i Gyngor Hil Cymru ac fel cyfieithydd: “Yn fy mamwlad, mae’n draddodiad i bob prifysgol gael grŵp o ddiddanwyr o’r enw tuna sy’n canu a chwarae offerynnau ar gyfer y cyhoedd i’w helpu i dalu am eu haddysg.
“Yn 2014 gwahoddwyd un o’r corau hyn, Gestrintuna, o Gondomar, ger Oporto, i berfformio yn Ffair Haf Tŷ’r Eos yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam.
“Cafodd Terry Waite, a oedd yn yr Eisteddfod ar y pryd, ei wahodd hefyd, ynghyd â Maer Wrecsam, a phan welodd y côr mi wnaeth eu llongyfarch ar eu perfformiad a dywedodd y dylent ystyried gwneud ymddangosiad yn Llangollen.
“Yn yr un flwyddyn cefais wahoddiad i weld yr Eisteddfod ac roedd yn brofiad teimladwy iawn, yn enwedig wrth weld baneri cymaint o wahanol wledydd. Ond doedd yno ddim baner o Bortiwgal.
“Mi wnaeth geiriau Terry wneud i mi feddwl y dylem geisio meithrin cyswllt â’r ŵyl. Cysylltiad a fyddai’n fuddiol iawn i bawb.”
Ychwanegodd Iolanda: “Ar ôl gwneud ychydig o ymchwil mi wnes i ddarganfod bod côr merched o Bortiwgal o’r enw Grupo Musical Feminino o Oporto wedi cystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf yn 1947.
“Gan y bydd eleni yn gweld llwyfannu’r 70ain Eisteddfod rwy’n meddwl y byddai’n wych pe gallem ddod o hyd i rai o aelodau o’r côr neu eu teuluoedd ac o bosib eu gwahodd i ailymweld â’r ŵyl, efallai y flwyddyn nesaf.
“Draw yma mae swyddfa’r Eisteddfod wedi fy helpu ac ym Mhortiwgal mae’r llywodraeth wedi cytuno i weld a fedran nhw ddarganfod unrhyw beth am y merched.
“Rwy’n deall eu bod nhw wedi gyrru’r holl ffordd i Langollen o Bortiwgal a hyd yn oed ennill rhywbeth yn yr ŵyl – er nad wyf yn siŵr beth yn union a enillwyd.
“Yn y dyddiau cynnar hynny roedd llawer o gystadleuwyr tramor yn aros gyda theuluoedd lleol, felly mae hefyd yn bosibl bod rhywun o Langollen neu’r ardaloedd cyfagos yn eu cofio. Os ydynt byddwn wrth fy modd i glywed oddi wrthynt.”
Er mwyn ailadeiladu’r cysylltiad gyda Phortiwgal ymhellach, mae Iolanda wedi trefnu i gonswl y wlad, sydd wedi ei leoli ym Manceinion i dalu ymweliad â Llangollen ar ddydd Sadwrn yr Eisteddfod eleni ynghyd ag un o brif swyddogion cyngor dinas Lisbon, prifddinas Portiwgal.
“Byddaf hefyd yn annog cynifer o’r 2,000 o aelodau’r gymuned Portiwgeaidd fywiog yn Wrecsam ac eraill o bob rhan o Brydain i ymweld â’r Eisteddfod.
“Hoffwn yn fawr iawn weld pobl o Bortiwgal yn cystadlu a pherfformio yn yr ŵyl,” meddai.
“Rwy’n credu ei bod mor bwysig i ni ymestyn allan ac ailffurfio’r cyswllt rhwng Portiwgal ac Eisteddfod Llangollen ac i ni feithrin yr integreiddio diwylliannol cryf yma.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am gôr merched Portiwgaleg Grupo Musical Feminio a oedd yn cystadlu yn Llangollen ym 1947 ffonio’r Eisteddfod ar 01978 862000.
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.